Help gyda’ch biliau

Mae gennym nifer o ffyrdd y gallem o bosibl eich helpu a gwneud eich biliau'n fwy fforddiadwy.

Rydym yn cydnabod bod costau byw yn parhau i effeithio ar ein cwsmeriaid. Bwriad y dudalen hon yw rhoi cymorth a chefnogaeth i wneud biliau yn fwy fforddiadwy drwy godi ymwybyddiaeth o’r gwahanol opsiynau sydd ar gael all fod o fudd i aelwydydd a lleihau’r defnydd o ddŵr.

Ar hyn o bryd rydym yn cefnogi dros 145,000 o gwsmeriaid bob blwyddyn gyda chymorth ariannol ac arbedion gwerth hyd at £300. Yn ogystal â hyn, rydym yn rhoi cyngor a all arbed hyd at 215 litr o ddŵr y dydd.

1. Sgwrsiwch yn fyw gydag un o’n tîm cymorth ar-lein

Dilynwch y cwestiynau isod i sgwrsio gydag un o’n Tîm Cymorth Ar-lein cyfeillgar.

Ydych chi’n derbyn unrhyw fudd-daliadau prawf modd?

2. Cysylltu

Cysylltwch â’n tîm cymorth arbenigol

Sgwrs fyw am gymorth â biliau

Siaradwch ag un o’n hasiantau gwasanaeth cwsmeriaid am gymorth gyda’ch bil. 9am - 5pm Llun - Gwener. Ar gau ar wyliau banc.

Agor sgwrs fyw

2. Cyflyrau meddygol

A oes gennych unrhyw gyflyrau meddygol parhaus a allai fod angen cymorth ychwanegol?

3. Eich camau nesaf

Sgwrs fyw am gymorth â biliau

Siaradwch ag un o’n hasiantau gwasanaeth cwsmeriaid am gymorth gyda’ch bil. 9am - 5pm Llun - Gwener. Ar gau ar wyliau banc.

Agor sgwrs fyw

3. Eich camau nesaf

Sgwrs fyw am ymholiadau cyffredinol

Os ydych chi angen cyngor, mae ein gweithredwyr gwasanaeth cwsmeriaid yma i’ch helpu. 8am - 6pm Llun - Gwener a 9am - 1pm Sadwrn. Ar gau ar wyliau banc.

Agor sgwrs fyw Sgwrsio byw all-lein Sgwrsio byw yn llwytho

Os oes arnoch arian i ni eisoes, wedi cael eich cysylltu gan Asiantaeth Casglu Dyledion neu wedi derbyn llythyrau ôl-ddyledion...

Gwyddom y gall bod mewn dyled fod yn straen a gall fod yn anodd gwneud yr alwad gyntaf. Dyma sut y gallwn ni helpu os ydych mewn ôl-ddyledion ar eich cyfrif.

Gofyn am alwad yn ôl am gynlluniau talu personol

Dywedwch wrthym beth yw eich amgylchiadau a'ch manylion cyswllt a byddwn yn adolygu eich cyfrif ac yn paratoi'r opsiynau gorau i chi. Yna bydd un o'n cynghorwyr cyfeillgar yn eich galw'n ôl i gytuno ar ffordd addas ymlaen. Gallwch wneud hyn gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.

Os oes Asiantaeth Casglu Dyledion wedi cysylltu â chi

Rydym yn gweithio gydag Asiantaethau Casglu Dyledion i gysylltu â chwsmeriaid a chasglu taliadau ar ein rhan. Os ydych wedi derbyn llythyr ganddynt, y peth gorau i'w wneud yw ymateb iddynt drwy'r dulliau cyswllt yn y llythyr. Bydd eu cynghorwyr cyfeillgar wrth law i weithio gyda chi mewn ffordd anfeirniadol i'ch cael yn ôl ar y trywydd iawn

Cael cyngor diduedd

Y Cyngor Defnyddwyr Dŵr


Mae’r Cyngor Defnyddwyr Dŵr yn darparu cyngor a chanllawiau diduedd sy'n ymwneud ag unrhyw fath o broblem â chyflenwad dŵr neu garthffosiaeth mewn cartrefi.

Dysgu mwy
Vulnerability Conference 2024

Ein Strategaeth Bregusrwydd newydd hyd at 2030

Cefnogi ein cwsmeriaid. Gweithio wrth galon ein cymuned.

Cliciwch yma i wybod mwy
Promotions Team

Calendr digwyddiadau

y Tîm Cymunedol

Mae ein Tîm Cymunedol yn mynd ati i hyrwyddo'r gefnogaeth a gynigir ac yn mynd i ddigwyddiadau fforddiadwyedd mewn cymunedau ledled y rhanbarth yr ydym yn ei wasanaeth yn rheolaidd.

Gweler isod y rhestr lawn o ddigwyddiadau.

Dysgu mwy