Hygyrchedd
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwefan sy'n hawdd ei defnyddio ac sy’n hygyrch i bawb
Hygyrchedd Gwefan
Mae ein gwefan yn cydymffurfio â safon AA fersiwn 2.2 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG). Defnyddir y canllawiau hyn i brofi datblygiad newydd a byddwn yn adolygu ein gwefan o gymharu â’r safonau hyn yn fisol.
Mae gennym gynllun gweithredu ar gyfer rhannau o'r wefan sydd angen eu gwella ac rydym wedi ymrwymo i wneud newidiadau i sicrhau bod canllawiau WCAG yn cael eu dilyn, a bod ein gwasanaethau gwe yn hygyrch i bawb. Gellir gweld mwy o wybodaeth am WCAG 2.2 yma.
Gallwch weld hysbysiad cyfreithiol, hysbysiad preifatrwydd a pholisi cwcis ein gwefan ar-lein.
Meysydd nad ydynt yn cydymffurfio
- Strwythurau pennawd anghyson ar rai tudalennau gwe
- Dogfennau mewn fformatau llai hygyrch fel PDFs
Beth rydym yn ei wneud i wella ein hygyrchedd
Mae ein gwefan yn cael ei hadolygu'n annibynnol gan ein partneriaid yn siteimprove. Rydym wedi ymrwymo i wella ein gwefan yn barhaus, adolygu ein hadroddiad hygyrchedd a datrys materion hysbys. Rhowch wybod i ni os ydych yn profi unrhyw broblemau hygyrchedd wrth ddefnyddio ein gwefan.
Offer Hygyrchedd
Rydym yn gweithio gyda'n partner dibynadwy, ReciteMe, i ddarparu gwasanaeth sydd ar gael ar draws y wefan i gefnogi ein cwsmeriaid, waeth beth fo'r sefyllfa na'r anghenion. Gellir lansio'r rhaglen ReciteMe yng nghornel dde uchaf y wefan ac mae ganddo'r nodweddion canlynol:
Testun i Leferydd
Mae gan 285 miliwn o bobl ledled y byd amhariad ar eu golwg, mae darparu ein meddalwedd testun i leferydd yn helpu ymwelwyr â’r wefan i ganfod a deall eich cynnwys digidol trwy ddarllen testun y wefan ar lafar, y gellir ei addasu i weddu i'r gwyliwr.
Cyfieithiad
Nid yw un o bob deg o bobl yn siarad Saesneg fel eu hiaith gyntaf, mae hyn yn gwella ein hymrwymiad i'ch Polisi Iaith Gymraeg. Mae technoleg hygyrchedd gwe Recite Me yn gyflym ac yn cyfieithu'ch holl gynnwys gwe yn hawdd i dros 100 o ieithoedd, gan gynnwys 65 o leisiau testun i leferydd.
Steilio ac Addasu
Mae 15% o boblogaeth y byd yn niwroamrywiol. Mae technoleg gynorthwyol Recite Me yn caniatáu i bobl newid y ffordd y mae gwefan yn edrych. Gall defnyddwyr addasu cynllun lliw'r wefan yn ogystal â'r testun, arddull, maint, lliw y ffont a’r bylchu.
Cymhorthion Darllen
Ni all 774 miliwn o bobl yn y byd ddarllen nac ysgrifennu, ac mae gan 10% o bobl anabledd dysgu, felly gall darllen cynnwys ar-lein fod yn her i rai pobl. Er mwyn symleiddio’r defnydd a chefnogi ymwelwyr â’ch gwefan, mae bar offer hygyrchedd gwe Recite Me yn darparu chwe phrif offer; pren mesur, mwgwd sgrin, chwyddwr, ymylon, crynodeb tudalen a geiriadur.
Cefnogaeth ychwanegol i gwsmeriaid
Mae pawb angen help llaw o bryd i'w gilydd. Efallai eich bod yn cael anawsterau gyda'ch golwg neu'ch clyw. Efallai eich bod yn rhiant gyda phlant bach gartref. Efallai bod gennych heriau symudedd a fyddai'n ei gwneud hi'n anodd galw i'r siop am ddŵr potel pe bai tarfu ar eich cyflenwad dŵr rhyw dro. Neu efallai bod gennych gyflwr meddygol sy'n golygu eich bod yn dibynnu'n helaeth ar eich cyflenwad dŵr.
Trosglwyddo Testun
Mae gennym drosglwyddo testun hefyd ar gael i gwsmeriaid sydd ag anawsterau clyw a lleferydd. I ddefnyddio'r gwasanaeth:
Ffôn: 18002 a’r rhif yr hoffech ei ffonio
neu
Ffôn testun: 18001 a’r rhif yr hoffech ei ffonio.
Iaith Arwyddion Prydain
Cysylltwch â ni yn ddiogel drwy Iaith Arwyddion Prydain gan ddefnyddio ein gwasanaeth fideo am ddim, a ddarperir gan ein partneriaid cymeradwy yn SignVideo.
Gwasanaethau Blaenoriaeth
Mae ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth yn golygu y gallwn helpu gyda chyflenwad dŵr amgen os oes tarfu ar eich cyflenwad, ffyrdd eraill o gael gwybodaeth, tawelwch meddwl rhag galwyr ffug a mwy