Woman standing by a shop door

5 cam syml i leihau bil dŵr eich busnes


17 Mawrth 2021

Gyda sôn am lawer o fusnesau'n ailagor yn ddiweddarach yn y flwyddyn, mae hi'n amser da dechrau meddwl am gychwyn arferion newydd i arbed arian a lleihau eich effaith ar yr amgylchedd.

Mae dŵr yn lle da i ddechrau – wedi'r cyfan, mae'r busnes cyfartalog yn y DU yn defnyddio 30% yn fwy o ddŵr na'r angen.

Bydd defnyddio llai o ddŵr yn arbed arian i chi, yn lleihau eich ôl troed carbon, a thrwy ddefnyddio llai o ddŵr mewn prosesau gweithgynhyrchu sy'n gofyn am gynhesu dŵr, byddwch chi'n lleihau eich biliau ynni hefyd. Dyma beth y gallwch ei wneud i gadw'ch biliau'n isel.

1. Y cam cyntaf

Y cam cyntaf ar eich siwrnai i ddefnyddio dŵr yn fwy effeithlon yw deall eich defnydd. Mae hyn yn rhoi llinell sylfaen ddefnyddiol i chi fesur eich busnes yn ei herbyn, a gallai eich helpu chi i ganfod gollyngiadau hefyd.

Oeddech chi'n gwybod nad yw dros 90% o ollyngiadau'n weladwy, ond mae yna gamau syml y gallwch eu cymryd i ddod o hyd iddynt?

  • Os yw'ch ffatri neu'ch safle'n cau am 5pm er enghraifft, cymrwch ddarlleniad o'r mesurydd bryd hynny, (os yw'n ddiogel), ac un arall cyn iddo ailagor y bore canlynol. Yn wahanol i ynni, os yw’r safle ar gau yn llwyr, ddylech chi ddim bod yn defnyddio unrhyw ddŵr dros nos. Os yw deial y mesurydd wedi symud, yna mae'n bosibl fod dŵr yn gollwng.
  • Os ydych chi'n credu bod dŵr yn gollwng, arfer pellach i'w roi ar waith yw'r 'prawf stoptap'. Caewch eich stoptap mewnol ac os yw deial y mesurydd yn dal i symud, yna mae'n bosibl bod dŵr yn gollwng ar y pibellwaith rhwng y mesurydd a'ch stoptap mewnol.

Os ydych chi'n amau bod dŵr yn gollwng yn eich eiddo, cysylltwch â ni i ofyn sut y gallwn helpu.

2. Cyflwynwch systemau awtomatig lle bo modd

Er y gallai fod yn ddeniadol darllen y mesurydd eich hun, efallai y byddai'n werth ystyried awtomeiddio'r broses. Mae cofnodi data (neu delemetreg) yn rhoi mynediad ar lein i chi weld llif eich dŵr, gan eich helpu chi i gymryd perchnogaeth dros y data a sylwi ar unrhyw broblemau neu dueddiadau y mae angen ymchwilio ymhellach iddynt. Gallwch hyd yn oed osod larymau i dynnu'ch sylw at lefelau llif anarferol yn awtomatig.

Defnyddiodd un cwmni rydyn ni'n gweithio gyda nhw gofnodwyr data ar ei holl safleoedd er mwyn canfod a thrwsio gollyngiadau, ac arbedodd 53,000m3 o ddŵr y flwyddyn yn sgil hynny.

3. Cymrwch yr awenau gydag adolygiad effeithlonrwydd dŵr

Dim ots sut rydych chi'n defnyddio dŵr ar eich safle, gall arolwg effeithlonrwydd dŵr eich helpu chi i ffeindio ffyrdd o leihau eich defnydd o ddŵr. Gall peirianwyr profiadol ddadansoddi ac asesu eich defnydd o ddŵr, o ffitiadau 'domestig' (e.e. toiledau, tapiau a chawodydd) i gynhyrchiant a phrosesau gweithredol eich safle. Byddan nhw'n clustnodi cyfleoedd i chi leihau eich defnydd ac yn cynnig argymhellion personol i chi am ffyrdd o leihau eich costau.

4. Defnyddio offer sy'n defnyddio dŵr yn effeithlon

Gall dull tymor hwy, lle'r ydych chi'n chwilio’n benodol am effeithlonrwydd dŵr mewn unrhyw gyfarpar, ffitiadau neu brosesau newydd, fod o gymorth mawr wrth helpu i leihau defnydd o ddŵr. Opsiwn arall yw sicrhau bod eich gweithwyr yn defnyddio gosodiadau sy'n defnyddio dŵr yn effeithlon ar unrhyw gyfarpar, yn enwedig os nad ydych chi'n bwriadu eu disodli cyn bo hir.

Os ydych chi'n defnyddio pibellau chwistrellu dŵr confensiynol yn eich cwmni, ystyriwch ddefnyddio offer chwistrellu pwysedd uchel yn lle. Mae'r rhain yn defnyddio pwysedd uchel yn hytrach na llawer o ddŵr i lanhau.

5. Gwnewch hi'n rhan o'ch diwylliant

Er y bydd llawer o’ch gweithwyr eisoes yn defnyddio awgrymiadau i arbed dŵr yn y cartref, mae'n bosibl na fyddan nhw'n gwybod sut i wneud yr un peth yn y gweithle. Rhannwch wybodaeth arbed dŵr, rhowch gynllun ar waith i gasglu awgrymiadau gan weithwyr, neu trefnwch sesiwn effeithlonrwydd dŵr i godi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd defnyddio dŵr yn ddoeth.

Er enghraifft, gallai rhoi gwybod i'ch staff fod tap sy'n gollwng neu sy'n cael ei adael i redeg yn gallu gwastraffu 60 litr o ddŵr yr wythnos eu cynorthwyo i ddeall sut mae eu gweithredoedd yn effeithio'n uniongyrchol ar eich biliau a'r amgylchedd.

Cysylltwch â'n Tîm Gwasanaethau Busnes ar 0800 260 5052, BST@dwrcymru.com neu ewch business.dwrcymru.com/business-services i gael rhagor o wybodaeth