Secondiad addysgu gyda Dŵr Cymru – gan Siân Williams.


9 Ebrill 2021

Waw, wel beth alla'i ddweud! Pan ymgeisiais i am y cyfle fel athrawes ar secondiad, doeddwn i ddim wir wedi gwerthfawrogi pa mor amrywiol, heriol a faint o agoriad llygad fyddai fy mlwyddyn allan o'r dosbarth. Y peth pwysicaf i’w ddweud yw fy mod i wedi cael amser bendigedig – ac mae tymor yr haf yn dal i ddod!

Gadewch i ni ddechrau o'r dechrau. Fy ngydweithiwr, Lee, a fi yw rhifau 69 a 70 yn y gofrestr o Athrawon ar Secondiad sydd wedi bod gyda Dŵr Cymru dros y ddau ddegawd, fwy neu lai, diwethaf. Fel cwmni cyfleustod nid-er-elw, mae addysg yn ddarn pwysig o’r peiriant, yn enwedig am ei bod yn annog y genhedlaeth nesaf i wneud newidiadau bach a fydd yn helpu'r amgylchedd, ac yn gosod ffocws ar gynaliadwyedd.

I unrhyw un o'r byd addysg sy'n ystyried dod yn rhifau 71, 72 a 73 yn y rhestr o athrawon ar secondiad, gadewch i mi ddweud, mae'r wythnos gyntaf yna'n wythnos a hanner!  O ganllawiau a sgyrsiau iechyd a diogelwch i wybodaeth am ymrwymiadau perfformiad, trefniadau bwcio, cynnwys sesiynau, hyfforddiant dysgu yn yr awyr agored – gallen i fynd ymlaen ac ymlaen, ond teg yw dweud i mi deimlo bod y cyfan yn llethol ar adegau! Ond roeddwn i'n ffodus fod fy nghydweithwyr yn y tîm addysg, Siôn a Claire, wrth law i dawelu fy meddwl fod hyn yn hollol normal ac y byddai pethau'n setlo'n ddigon buan. A setlo y gwnaethon nhw. Beth sylweddolais i'n ddigon buan oedd, heblaw am yr amgylchedd, y cydweithwyr a'r trefniadau newydd, roedd amcanion allweddol fy swyddogaethau o ddydd i ddydd yr un fath o hyd – sef lles a chyflawniad y disgyblion. Fy mara menyn.

Roeddwn i'n ffodus hefyd fod gen i gydweithiwr addysgu gwych, Lee. Daethon ni mlaen o'r dechrau’n deg, ac roeddem ni'n gallu cynnig cefnogaeth i’n gilydd (yn rhithiol yn bennaf) trwy gydol y flwyddyn, a hynny'n arbennig am fod ein setiau sgiliau'n eu cydategu ei gilydd yn dda.  Roedd hyn yn allweddol, yn enwedig am i bethau ddigwydd mewn ffordd wahanol iawn i'r hyn roeddwn i wedi ei ddisgwyl. Roeddwn i wedi dychmygu croesawu dosbarthiadau o blantos hapus i'r Ganolfan Ymwelwyr, gweld y syndod ar eu hwynebau wrth fynd â nhw ar daith yng Ngweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff , a rhannu'r wefr o edrych ar ferdys dŵr croyw trwy'r chwyddwydr. 

Ond nid fel yna fuodd hi. Gwnaeth effaith barhaus y Coronafeirws yn sicr o hynny. Mae'r sector addysg wedi wynebu sialensiau lu dros y flwyddyn ddiwethaf, ac fel tîm, bu angen i ni addasu'n gyflym i gynnig cymaint o gefnogaeth â phosibl i'r proffesiwn. 

Cynyddodd dibyniaeth ar Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu yn aruthrol.  Cyn i mi droi rownd, roedden ni'n creu adnoddau electronig, yn datblygu platfformau dysgu rhithiol, yn cynhyrchu ac yn golygu clipiau addysgol byrion, ac yn sefyll yn fyw o flaen camera fideo – yn barod i gyflwyno gwasanaethau i ddosbarthiadau ysgol llawn disgyblion yn edrych yn eiddgar arna’i trwy Microsoft Teams. Rwy'n cydymdeimlo â chydweithwyr o'r sector addysg, sy'n teimlo ar adegau bod eu rôl fel athrawon dosbarth wedi cael eu camgymryd am rôl cyflwynydd teledu plant dros y flwyddyn ddiwethaf. Ond yn fy achos i, mae'n bosibl fy mod i wedi ffeindio galwedigaeth newydd! 

Er gwaetha'r dulliau gwahanol ac ymestynnol yma o addysgu rydyn ni wedi eu datblygu eleni, mae hi wedi bod yn wefr ac yn werth chweil. Mae'r rhyngweithio byw, y chwerthin ar ein fideos (weithiau rwy'n meddwl eu bod nhw’n chwerthin arnaf i nid gyda fi a dweud y gwir!), y berthynas â'r disgyblion a fy sgiliau newydd, oll wedi gwneud y peth yn werth chweil.

Pan ddechreuais i gyda Dŵr Cymru, roeddwn i'n brin iawn o hunangred a hunanhyder.  Er fy mod i'n aml wedi cael fy ngwthio y tu hwnt i fy ffiniau arferol, yn ystod fy amser gyda'r cwmni,  rydw i wedi magu hyder ac rwy'n hynod o falch o beth rydw i - a'r tîm, wedi ei gyflawni. Am un peth, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at rannu fy sgiliau newydd gyda fy nosbarth wrth ddychwelyd i'r ysgol - bydd eu haddysg yn sicr ar ei hennill. Ac mae'r profiad hynod yma wedi dangos i mi faint rydw i wir yn caru addysgu. Pwy fyddai wedi meddwl y gallai addysgu pobl am ddŵr fod mor gyffrous - a does dim byd yn cyffroi dosbarth cweit gymaint â sôn am 'bŵer pŵ'!  

Mae bod yn rhan o'r tîm bendigedig yma wedi cael effaith mor bositif arna'i. Rwy'n hapusach o lawer, ac yn edrych ymlaen yn eiddgar at beth sydd i ddod dros y misoedd nesaf!