Cyfleuster fideo deallusrwydd artiffisial yn mynd â gwasanaethu cwsmeriaid o bell i'r lefel nesaf
23 Tachwedd 2021
Mae’r pandemig wedi dod â llu o sialensiau yn ei sgil - ond mae'r cyfnod hwn wedi caniatáu i ni ail-werthuso sut rydyn ni'n cyflawni ein gwasanaethau yn y byd newydd o weithio o bell hefyd.
Yma yn Dŵr Cymru, mae tîm ein Prosiect Cartref wedi bod yn gweithio gyda Vyntelligence i gyflwyno gwasanaeth a fydd yn caniatáu i gwsmeriaid roi gwybod i ni fod dŵr yn gollwng gan ddefnyddio fideo byr wedi ei recordio ar ffôn deallus.
Beth yw Prosiect Cartref?
Mae Prosiect Cartref wedi bod yn helpu cwsmeriaid i ddeall faint o ddŵr maen nhw'n ei ddefnyddio, ac un rhan o'r gwasanaeth yw trwsio gollyngiadau cyffredin, fel tapiau sy'n diferu a thoiledau sy'n gollwng, yn rhad ac am ddim.
Dywedodd Euan Hampton, arweinydd Prosiect Cartref: “Mae'r cynllun yn fyw yn Nolgellau, Rhisga a Phontardawe ar hyn o bryd, ac mae hi wedi bod yn mynd o nerth i nerth gyda chymorth Vyntelligence.
“Fel rheol, byddai angen galw plymwr i gadarnhau bod dŵr yn gollwng mewn eiddo, sy'n gallu tynnu costau hyd yn oed os nad oes dŵr yn gollwng o gwbl, felly trwy weithio gyda Vyntelligence, a digideiddio'r broses apwyntiadau, bu modd lleihau nifer yr ymweliadau diangen. Yn ogystal ag arbed amser i'n cwsmeriaid ac i blymwyr, mae hyn wedi caniatáu i'r tîm weithio mewn ffordd fwy cynaliadwy, gan leihau ein hôl troed carbon. Os ydych chi'n byw yn un o'r ardaloedd hyn, cysylltwch â ni ac fe wnawn ni’n gorau i helpu os oes modd.”
Sut mae'r dechnoleg yn gweithio
Gall cwsmeriaid yn yr ardaloedd targed sy’n credu bod dŵr yn gollwng yn eu cartref sganio cod QR i ddilyn y camau syml a fydd yn caniatáu iddynt recordio fideo o'r broblem.
Ar ôl ateb ambell i gwestiwn rhwydd, byddwn ni'n anfon y fideo at dîm o blymwyr ardystiedig sy'n gweithio dros Brosiect Cartref. Gan ddefnyddio'r wybodaeth sydd ar gael o’r fideo, gall y tîm ddatblygu gwell dealltwriaeth am y broblem a chynnig cymorth ar y ffordd orau o weithredu.
Os yw'r tîm yn dod o hyd i ollyngiad sy'n hawdd ei drwsio, fel toiled sy'n gollwng neu dap sy'n diferu, byddant yn trefnu apwyntiad gydag un o blymwyr Dŵr Cymru, a fydd yn cyflawni'r gwaith yn hollol rad ac am ddim.
Weithiau, mae yna ollyngiadau mwy cymhleth y mae angen ymchwilio ymhellach iddynt. Mewn achosion o'r fath, bydd y tîm yn cynghori'r cwsmer i ddefnyddio plymwr cymeradwy WaterSafe.
Ac os nad oes dŵr yn gollwng?
Ac os nad oes dŵr yn gollwng? cyfrifiannell Get Water Fit i rannu gwybodaeth â ni am eich arferion o ran defnyddio dŵr, a gallwn ni gynnig cynhyrchion i'ch helpu chi ar eich siwrnai i arbed dŵr.
Os ydych chi'n meddwl fod gennych ddŵr yn gollwng, nodwch eich cod post yn ein teclyn gwirio, ac os ydych chi'n gymwys, cewch sganio’ch cod QR i recordio'ch fideo. Fel arall, gallwch anfon neges e-bost atom yn cartref@dwrcymru.com.
Am gael rhagor o wybodaeth? Ewch i www.dwrcymru.com/cartref, am fanylion ein gwaith dros y misoedd nesaf.