Wythnos Prentisiaethau Cymru - O Brentis i Brif Weithredwr


8 Chwefror 2021

Yma yn Dŵr Cymru rydyn ni'n hynod o falch o'n cynllun prentisiaethau. I ddathlu Wythnos Prentisiaethau 2021, mae ein Prif Weithredwr, Peter Perry yn trafod ei siwrnai o brentis i Brif Weithredwr, ac yn dweud pan ei fod e'n credu bod prentisiaethau'n benderfyniad gwych i weithwyr y dyfodol a busnesau fel ei gilydd.

Cefais i fy nghyflwyno i'r sefydliad yn wreiddiol gan gynghorydd gyrfaoedd a argymhellodd brentisiaeth i mi fel llwybr gwerth chweil i'r byd gwaith ar ôl gadael yr ysgol. Oherwydd amgylchiadau teuluol, doedd y brifysgol ddim yn opsiwn i mi, ond y funud glywais i am brentisiaeth Dŵr Cymru, roeddwn ni yno.

Rhoddodd y cyfuniad o beirianneg ddamcaniaethol a defnydd ymarferol y cyfle i mi daflu fy hun i'r byd gwaith, wrth gael cymorth dysgu yn y dosbarth hefyd. Roedd y cymysgedd o brofiad o waith swyddfa a gwaith maes yn golygu bod y rôl yn amrywiol ac yn ddiddorol. Doedd yna ddim dau ddiwrnod yr un fath yn ystod fy mhrentisiaeth, ac fe lewyrchais i yn yr amgylchedd deinamig yna - gallwn i fod yn dylunio piblinell gyda chydweithwyr yn y swyddfa un diwrnod ac yn mynd allan i weld cwsmer er mwyn canfod a thrwsio gollyngiad y diwrnod nesaf.

Ond er gwaethaf fy nghyffro, sylweddolais i ddim tan yn hwyrach i lawer pa mor allweddol fu'r penderfyniad o fynd yn brentis i mi. Mae prentisiaeth am ddeall sut mae busnes yn gweithio ar draws sawl disgyblaeth, cael dirnadaeth unigryw o fanion sefydliad, a mynd o dan groen y lle go iawn. Mae cael profiad ar lawr y busnes wedi bod o gymorth mawr i mi, yn enwedig wrth i mi ddatblygu trwy fy ngyrfa. Mae'r ffaith fy mod i wedi bod yno ac wedi cael profiad ar bob lefel yn golygu bod gen i empathi a dealltwriaeth, ac rwy’n defnyddio’r rhain bob dydd i wneud penderfyniadau gwybodus fel Prif Weithredwr. 

Mae prentisiaethau wedi datblygu i gydweddu i'r byd gwaith modern dros yr 20 mlynedd diwethaf, ac maen nhw wir yn cael eu teilwra'n bwrpasol ar gyfer y swyddi sy'n bodoli nawr. Yn Dŵr Cymru, mae gennym amrywiaeth o brentisiaethau ar draws gwahanol feysydd a setiau sgiliau, ac mae llawer o'n rolau rheng flaen a'r rhai sy'n delio â chwsmeriaid yn cael eu cyflawni neu eu datblygu trwy brentisiaethau. Rydyn ni'n recriwtio tua 30 o brentisiaid y flwyddyn, ac mae'r syniad taw gwaith llaw yn unig yw prentisiaethau wedi hen ddarfod.

Er y bydd wastad angen rolau fel hyn, mae ein Rhaglen Brentisiaethau'n cwmpasu holl feysydd y busnes, ac mae'n llwybr dilys i bob math o wahanol yrfaoedd ac arbenigeddau. 

Rydyn ni'n gweld mwy o amrywiaeth yn ein prentisiaid hefyd, sy'n hanfodol er mwyn creu diwylliant mwy cynhwysol sy'n meithrin gwell perfformiad a llwyddiant yn y pendraw. Mae'r dyddiau pan oedd ein carfan o brentisiaid i gyd yn ddynion cyhyrog yn gweithio mewn swyddi gwaith llaw yn hen hanes. Dyw'r hen ystrydebau blin yna ddim yn wir mwyach. Mae gennym fwy o lawer o brentisiaid a chydweithwyr benywaidd yn gweithio mewn rolau gweithredol rheng flaen - ac rydyn ni am weld rhagor fyth yn y misoedd a'r blynyddoedd sydd i ddod.

Nid oes yna'r un ateb delfrydol i bawb wrth adael yr ysgol neu newid gyrfa, felly nid yw safbwyntiau hen-ffasiwn am y cyfleoedd y gall prentisiaethau eu cynnig - yn enwedig o gymharu â llwybrau eraill i waith - yn adeiladol. Mae prentisiaid yn cynnig cyfle i bobl ddatblygu eu gyrfa o'r diwrnod cyntaf un trwy ennill profiad yn y gwaith a chyflog cystadleuol.

Yn Dŵr Cymru mae prentisiaid yn cael cyfle i chwarae rhan yn y busnes ehangach, gan gwrdd â chydweithwyr profiadol a dysgu ganddynt er mwyn meithrin trosolwg holistaidd o'r sefydliad.

Mae yna ymdeimlad go iawn o dîm ymysg ein prentisiaid hefyd wrth iddynt eu cefnogi ei gilydd trwy rannu profiadau, sialensiau a chyfleoedd â’i gilydd.

Byddai fy nghyngor i ddarpar-ymgeiswyr a phrentisiaid y dyfodol yn syml – gallwch ddechrau a datblygu eich gyrfa trwy brentisiaeth. Peidiwch â gadael i'ch profiad eich hun neu ddiffyg hyder eich dal chi nôl. Os oes gennych chi'r awydd a'r angerdd i lwyddo, yna fe lwyddwch chi, dim ots beth yw’ch oedran, eich ethnigrwydd neu'ch cefndir. Ymdaflwch eich hunain i'r gwaith a bachwch ar bob cyfle gewch chi. Rydyn ni'n hyrwyddo diwylliant lle nad yw'r staff yn ofni dweud eu dweud yma, dim ots a ydyn nhw'n brentis yn eu blwyddyn gyntaf neu'n aelod o bwyllgor y bwrdd.

Yn fy mhrofiad i, mae gan brentisiaid wir awydd i wneud gwaith gwych dros y cwmni - maen nhw'n gweld cyfle clir i feithrin gyrfa ac yn gafael yn eiddgar ynddo. Ar y cyfan, mae hynny'n golygu taw prentisiaid yw ein buddsoddiad hirdymor mwyaf effeithiol o ran gweithwyr, am eu bod mor ffyddlon ac yn fwy tebygol o aros gyda'r cwmni. Nid peth anghyffredin yw gweld prentis yn datblygu ac yn symud i fyny yn y busnes dros nifer o flynyddoedd. Mae'r wybodaeth lefel mynediad a'r sgiliau craidd y maent yn eu dysgu’n aros gyda nhw wrth iddynt symud i fyny, ac maen nhw'n datblygu dealltwriaeth ddwys a gwir ddirnadaeth am sut mae'r sefydliad yn gweithio a sut y gellir ei wella.