Ydych chi'n barod am y gaeaf?
29 Tachwedd 2021
Mae'r gaeaf yn gallu bod yn amser hudolus, ond mae'r tymheredd yn gostwng yn gallu achosi problemau yn eich cartref.
Mae pibellau dŵr yn gallu rhewi a byrstio mewn tywydd oer – gan adael cartrefi a busnesau heb ddŵr, â phwysau dŵr isel, neu mewn perygl uwch o lifogydd.
Ond peidiwch â mynd i banig, mae yna bethau y gallwch eu gwneud i baratoi eich cartref am y gaeaf. Trwy gymryd ambell i gam syml, gallwch gadw eich pibellau'n glyd ac yn sych, gan arbed cannoedd o bunnoedd ar gost gwaith trwsio costus.
Y 3 Lle Oer Mwyaf Peryglus:
- Pibellau a thapiau awyr agored.
- Pibellau mewn llefydd lle nad oes gwres, fel llofftydd, garejys neu gypyrddau'r gegin.
- Adeiladau sy'n wag am ychydig ddyddiau fel busnesau, ysgolion, cartrefi gwyliau neu garafanau.
Paratoi'ch cartref am y gaeaf
Wrth i'r tywydd oeri, dyma ambell i ffordd syml i amddiffyn eich cartref rhag pibellau'n byrstio
- Lapiwch eich pibellau - cadwch eich pibellau'n glyd trwy eu lapio nhw â phecyn lagio. Mae stoc gyfyngedig o becynnau lagio ar gael yma
- Os oes tap awyr agored gennych, caewch y falf, draeniwch y tap a rhowch orchudd drosto.
- Trwsiwch y diferion! Gallai trwsio tap sy'n diferu atal dŵr rhag rhewi yn eich pibellau.
- Archwiliwch eich stoptap. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwybod ble mae'ch stoptap a'i fod e'n gweithio. Bydd angen cyrraedd ato'n gyflym, a gwybod sut i'w gau os bydd y gwaethaf yn digwydd.
- Cadwch eich cartref yn gynnes. Mae aer oer o'r tu allan yn gallu rhewi pibellau tu fewn, felly ceisiwch ddefnyddio pethau atal drafft a chau'r llenni gyda'r nos.
- Oes gennych fesurydd dŵr? Os yw'ch mesurydd ar y wal y tu allan i'ch tŷ, sicrhewch fod y pibellau wedi eu hinswleiddio. Os yw'ch mesurydd yn y tŷ, gwnewch yn siŵr fod y cwpwrdd wedi ei bacio â deunydd inswleiddio, a bod y drws yn dynn ar gau.
Oeddech chi'n gwybod?
Mae dŵr sydd wedi rhewi'n gallu cracio'r pibellau metel cryfaf hyd yn oed. Efallai na sylwch chi ar unwaith, ac ni fyddwch chi'n gwybod bod problem nes bod yr ia yn y bibell yn dadmer, a dŵr yn dechrau gollwng ohoni.
Bydd ein timau'n gweithio 24/7 i gadw pethau'n llifo, ond gallwch chi wneud eich rhan hefyd.
A chofiwch, mae defnydd o ddŵr yn cyfrannu at dros 16% o filiau ynni, felly gall arbed dŵr eich helpu chi i arbed ynni ac arian hefyd. Ewch draw i'n cyfrifiannell Get Water Fit i ganfod faint o ddŵr rydych chi'n ei ddefnyddio, cael awgrymiadau am ffyrdd o arbed dŵr ac archebu nwyddau arbed ynni am ddim.
Gwnewch yn siŵr fod eich cartrefi a'ch busnesau'n barod am y gaeaf eleni.