Byrstio yng Ngwaith Trin Dŵr Bryn Cowlyd

Updated: 11:00 20 January 2025

Gallwn gadarnhau bod ein rhwydwaith bellach wedi ail-lenwi a chyflenwadau dŵr wedi’u hadfer. Mae'r holl ysgolion yr effeithir arnynt bellach yn ôl ar gyflenwad.

Rydym eisoes wedi cadarnhau’r trefniadau iawndal ar gyfer ein cwsmeriaid cartref a busnes ac mae'r wybodaeth ar gael yma.

Hoffem ymddiheuro eto am yr anghyfleustra a brofwyd gan gwsmeriaid a hoffem ddiolch iddynt am weithio gyda ni. Bydd cyflenwadau dŵr amgen yn parhau i fod yn eu lle heddiw.

  • Bodlondeb, LL32 8DU
  • Zip World Conwy, LL32 8QE
  • Parc Eirias, LL29 7SP
  • Maes Parcio Pen Morfa Llandudno, LL30 2BG

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf ar gael ar wefan.

Mae dŵr afliwiedig o'ch tapiau yn normal ar ôl y fath broblemau. Mae hyn fel arfer dros dro ac yn diflannu unwaith y bydd y rhwydwaith wedi setlo.

Gofynnwn hefyd i gwsmeriaid wirio eu tapiau i sicrhau eu bod ar gau er mwyn helpu i gadw cyflenwadau wrth i ni ail-lenwi'r rhwydwaith.

Gall cwsmeriaid gael y wybodaeth ddiweddaraf ar yn eich ardal neu ein dilyn ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Clwb Bowlio Romilly, y Barri yn cael arian gan Dŵr Cymru


17 Awst 2021

Mae Clwb Bowlio Romilly, y Barri wedi cael arian £500 o Gronfa Gymunedol Dŵr Cymru. Roedd hyn yn rhan o gynllun y cwmni nid-er-elw i fuddsoddi £6.5 miliwn yn yr ardal i uwchraddio’r system dŵr gwastraff ger Parc Gwledig Porthceri a Weycock Cross.

  • Clwb Bowlio Romilly, y Barri yn cael arian o Gronfa Gymunedol Dŵr Cymru.
  • Defnyddir yr arian i adnewyddu cegin y clwb.
  • Ers 2019, mae’r cwmni wedi buddsoddi dros £6.5 miliwn er mwyn gwella’r rhwydwaith dŵr gwastraff yn ardal y Barri.

Mae Clwb Bowlio Romilly, y Barri wedi cael arian £500 o Gronfa Gymunedol Dŵr Cymru. Roedd hyn yn rhan o gynllun y cwmni nid-er-elw i fuddsoddi £6.5 miliwn yn yr ardal i uwchraddio’r system dŵr gwastraff ger Parc Gwledig Porthceri a Weycock Cross.

Mae dros 65 o aelodau yn y clwb llwyddiannus sydd wedi’i sefydlu ers blynyddoedd maith. Mae’n lle gwych i bobl gyfarfod, cymdeithasu a chael ymarfer corff. Mae’r rhodd wedi helpu i adnewyddu cegin y clwb sy’n cael ei defnyddio’n rheolaidd.

Dywedodd Paul James, Ysgrifennydd Clwb Bowlio Romilly, y Barri: Rydym wedi cael arian o sawl ffynhonnell i adnewyddu’r gegin, yn eu plith roedd rhodd garedig gan Dŵr Cymru. Rydym yn falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni yn y clwb ac rydym yn ddiolchgar i’r cwmni am eu cefnogaeth.”.

Mae Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru yn gyfle i gymunedau hybu ymdrechion i godi arian at achosion da yn eu hardal nhw. Os ydych yn byw mewn ardal lle mae’r cwmni’n gweithio – a’ch bod yn codi arian at brosiectau er budd y gymuned – gallech gael gwerth hyd at £1,000 gan Dŵr Cymru. Os hoffech ragor o wybodaeth, ewch i dwrcymru.com/Cronfa-Gymunedol  

Dywedodd Claire Roberts, Pennaeth Ymgysylltu Cymunedol gyda Dŵr Cymru:, “Mae’n bleser gan Gronfa Gymunedol Dŵr Cymru gefnogi Clwb Bowlio Romilly, y Barri. A ninnau’n gwmni nid-er-elw, ein cwsmeriaid sydd wrth galon ein holl waith ac mae’r Gronfa’n ein galluogi i roi rhywbeth yn ôl i’r cymunedau rydym yn buddsoddi ynddyn nhw.”