Mis Hanes Pobl Ddun – Mentora o Chwith


1 Hydref 2021

Wrth i wythnos fendigedig o ddathlu cynhwysiant yn ein gweithle ddirwyn i ben, rydyn ni'n gobeithio y gallwn barhau i yrru newid ac ysbrydoli gweithredu yn y gweithle.

Heddiw yw Dechrau Mis Hanes Pobl Dduon – amser i ddathlu holl gyfoeth ac amrywiaeth treftadaeth pobl Dduon. Cadwch lygad am ragor o fanylion.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni wedi cyflwyno cynllun mentora o chwith gan baru cyfarwyddwyr ac uwch reolwyr â rhywun o'r tu hwnt i'r uwch dîm rheoli er mwyn rhannu gwybodaeth, profiadau a dealltwriaeth ar bob math o bynciau.

Dyma Nkechi Allen Dawson, Dadansoddwr Masnachol a Nicola Williams, Cyfarwyddwr y Gyfraith a Chydymffurfiaeth, sydd wedi bod yn cyfarfod bob yn ail fis dros y chwe mis diwethaf.

Nkechi

Mae mentora o chwith gyda Nicola wedi bod yn gyfle gwirioneddol wych i mi rannu fy syniadau, profiadau ac argymhellion am sut y gallwn ni helpu i wneud pethau'n fwy cyfartal i weithwyr o gefndiroedd lleiafrifol ethnig a hybu newid go iawn yn ein diwylliant.

Mae hi wir yn braf gwybod fod gennym ni arweinwyr trawsnewidiol sy'n barod i wrando ar safbwyntiau amrywiol a gweithredu ar eu sail. Nid mater syml o gronni'r gyfran gywir o bobl â gwahanol nodweddion neu hunaniaethau yw amrywiaeth. Ond mater o ddeall pam fod y gwahaniaethau hynny'n werthfawr.

Yn ystod y sesiynau, fe ddefnyddiais i fy mhrofiad fel Cennad a Chyd-gadeirydd y Rhwydwaith BAME+ i awgrymu strategaethau y gallem eu cyflwyno i helpu DCC i gyflawni ei ymrwymiad i wella cynhwysiant ar draws y cwmni, a gwella amrywiaeth y gweithlu ar bob lefel.

O fod ychydig bach yn nerfus yn ystod ein cyfarfod cyntaf, a meddwl tybed ai rhoi 'gwaith cartref' i Nicola oedd y peth 'iawn' i'w wneud, i gael trafodaethau gonest am bynciau y tu hwnt i amrywiaeth, mae hi wedi bod yn brofiad dysgu a hanner.

Ar ôl cwrdd bob mis dros y chwe mis diwethaf, rwy'n teimlo'n fwy hyderus, wedi fy ymrymuso, ac yn falch fy mod i wedi cael cyfle mor werthfawr i wneud gwahaniaeth.

Yn dilyn ein sesiynau, rydw i wedi cael cyfle i eistedd gyda Nicola a gweithredwyr uwch eraill DCE yn sesiwn Cyflwyniad y Grŵp RE:Think, a chyfrannu at nod Dŵr Cymru i gynyddu amrywiaeth a dod yn sefydliad mwy cynhwysol.

Rydw i wedi helpu gyda mentrau sy’ ymwneud â datblygiad gyrfaol grwpiau a dangynrychiolir, ond y brif fantais oedd gallu "siarad y gwir wrth bŵer" mewn lle diogel, gan drafod atebion go iawn a allai wneud gwahaniaeth.

Nicola

Rydw i wedi bod yn fentor ac wedi cael fy mentora yn y gorffennol, ac wedi elwa ar y ddau brofiad. Ond roeddwn i ychydig bach yn ansicr beth i'w ddisgwyl o fentora o chwith.

Fel cyfreithiwr, mae diddordeb arbennig gen i mewn deddfwriaeth cydraddoldeb a hawliau dynol. Rwy'n deall theori cydraddoldeb, ond rydw i wedi dod yn fwyfwy ymwybodol o bwysigrwydd profiadau byw. Fydda'i byth yn profi rhai o'r problemau y mae Nkechi wedi gorfod eu hwynebu, ond rhoddodd ein sesiynau mentora o chwith le diogel i mi ei holi am sut roedd y profiadau hyn wedi effeithio arni.

Mae'r cyd-destun cymdeithasol ehangach y gosodir unigolion ynddo'n arbennig o bwysig i ddeall sut mae eu profiadau yn y gweithle'n effeithio arnynt, a sut gallwn ni fel sefydliad gefnogi pobl i wireddu eu potensial yn well.

Rydw i wir yn ddiolchgar i Nkechi am greu lle gwirioneddol ddiogel i mi ofyn am gyd-destun ac effaith materion cyfoes diweddar. Bu modd iddi awgrymu ffyrdd o fod yn gyfaill dros gydraddoldeb a chynhwysiant yn y gweithle, a sut y gall y tîm gweithredol gefnogi a hyrwyddo hyn yn well.

Weithiau cafodd y safbwyntiau hyn eu cywiro'n garedig, ac mae hynny'n hollol iawn!

Roedd y sesiynau hyn bob amser yn fwyd i'r meddwl ac roeddwn i'n hapus i wneud fy ngwaith cartref – gan ddarllen erthyglau na fyddwn i wedi dod ar eu traws heb gymorth Nkechi.

Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae Dŵr Cymru wedi dechrau trafod yr angen am newid a chlustnodi ffyrdd o fynd i'r afael â rhai o'r materion er mwyn sicrhau gweithlu cynhwysol a darparu'r sylfeini ar gyfer mwy o amrywiaeth ar draws ein sefydliad.

Mae mentrau fel y rhwydweithiau llawr gwlad ar gyfer LGBTQ+, BAME+ ac Anableddau wedi herio syniadau oedd wedi bwrw gwreiddiau dwfn, wedi hybu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol ac wedi gosod cyd-destun ar gyfer newid. Mae angen i ni barhau i weithio i greu diwylliant parhaus y mae gan bawb gyfrifoldeb i'w feithrin, a lle bo pawb yn cydnabod manteision bod â sefydliad sy'n wirioneddol atebol.

Mae mentora o chwith wedi darparu'r sialens adeiladol oedd ei hangen arnaf i chwarae fy rhan yn y newid hwnnw, ac rwy'n ddiolchgar dros ben i Nkechi am ei hamser, ei hamynedd a'i gonestrwydd.