Sbarduno’r dychymyg a hyrwyddo effeithlonrwydd dŵr trwy chwarae gemau
20 Mai 2021
Mae'r rheol haneri’n awgrymu taw ffracsiwn bach o bobl y unig fydd yn newid yn eu hymddygiad yn barhaus o ganlyniad i ddatguddiad i neges bwysig.
O ran effeithlonrwydd dŵr (neu fel rydyn ni'n ei gyfleu i'r genhedlaeth iau 'bod yn ddoeth gyda dŵr') mae angen i'r neges hon daro tant. Gyda phob person, ar hyn o bryd, yn defnyddio 177 litr o ddŵr y dydd ar gyfartaledd (tua 18 o fwcedi), a gyda'r sialensiau parhaus sy'n ymwneud â'r newid yn yr hinsawdd a thwf y boblogaeth sy’n ein hwynebu, mae'r rheswm yn glir.
Felly sut mae sicrhau bod y neges yn cael ei chyfleu, a'i bod yn dal sylw, yn cael ei deall gan bawb a'i bod yn sbarduno pobl i weithredu? Dyma ni’n cyflwyno Dewi. Dewi yw cyfaill Cymraeg 'Dewie'. O'r Iseldiroedd mae Dewie yn dod. Cymeriad egnïol a chwilfrydig sy'n ymwybodol iawn o'i ddefnydd o ddŵr yw e, ac mae’n rhan o ap y Frwydr Dŵr a ddatblygwyd gan Grendel Games.
Yn y gêm, mae creaduriaid dŵr bendigedig yn byw yn y rhwydwaith dŵr, a rhaid i'r chwaraewyr eu cynorthwyo trwy gwblhau lefelau ac ateb cwisiau. Gall y cyfranogwyr ymuno â’i gilydd i greu timau, anogir y rhieni i helpu – a bydd y rhai sydd fwyaf ymwybodol o ddŵr yn symud trwy'r lefelau'n gynt.
Diolch i dreial sy'n cael ei arwain gan ein Tîm Arloesi Gwasnaethau Dŵr – ar y cyd â'n Timau Effeithlonrwydd Dŵr, Addysg a Data – ac mewn partneriaeth â nifer o ysgolion yn y Rhyl, mae ymdrechion ar droed i fesur effaith y dull yma, sydd ychydig bach yn anghonfensiynol, i hyrwyddo newid mewn ymddygiad. Yn dilyn cynllun peilot yn yr Iseldiroedd, lle arbedodd 250 o aelwydydd 1.4 miliwn litr o ddŵr dros gyfnod o 3 mis, mae Grendel Games yn awyddus i weld i ba raddau y gellir efelychu'r canlyniadau mewn mannau eraill.
Mae ysgolion yn ardal y Rhyl, sy'n gyfarwydd â darpariaeth addysg Dŵr Cymru diolch i'w cysylltiadau â'r Prosiect Cymunedau Gwydn o ran Dŵr, yn cynnig cyfrwng defnyddiol i hyrwyddo lawrlwytho’r gêm. Mae'r athrawon mwyaf blaengar wastad yn chwilio am y syniad nesaf i sbarduno'r dychymyg a chysylltu'r rhai sydd wedi eu hymddieithrio'r mwyaf yn y dosbarth – ac yn aml mae gemau fel y Frwydr Dŵr yn ffordd wych o wneud hynny. Yn ogystal â bod yn ddeniadol, yn ddifyr ac yn gystadleuol, mae'n cofleidio rhai o themâu allweddol y cwricwlwm am yr amgylchedd a chynaliadwyedd – ac yn darparu amrywiaeth dda o weithgareddau dilynol ym maes llythrennedd a rhifedd. Dysgu heb sylweddoli'ch bod chi'n dysgu yw hi. Ond y peth sy'n allweddol i'r treial yma, yw i ba raddau y bydd y disgyblion yn cael eu temtio i barhau i ddefnyddio ap y Frwydr Dŵr y tu allan i'r dosbarth, ar ôl mynd adref.
Mae cyfnod yr ymyrraeth (cyfnod cyflwyno’r gêm pan fo’n darpariaeth addysg yn hyrwyddo defnydd ohoni) wedi dod i ben. Nawr, mater i'n tîm Effeithlonrwydd Dŵr a Data, ynghyd â Grendel Games, yw pwyso a mesur a oes unrhyw ostyngiadau parhaus a chymaradwy yn y defnydd o ddŵr, a chofnodi hynny.
Ar gyfer awgrymiadau ar sut i arbed dŵr mewn cartrefi, ewch i https://www.dwrcymru.com/cy-gb/help-advice/water-saving-tips-for-households