Cartref – Adolygiad o’r Flwyddyn


11 Ionawr 2022

Mae Cartref yn helpu cwsmeriaid ledled y wlad i fod yn fwy effeithlon o ran dŵr, gan ddarparu ffyrdd newydd o arbed dŵr a helpu i nodi a thrwsio gollyngiadau yn eu cartrefi.

Dros y 9 mis diwethaf mae'r tîm wedi bod yn gweithio'n galed gyda chwsmeriaid i'w helpu i arbed dŵr, ynni ac arian.

  • 540 o apwyntiadau gollyngiadau wedi'u trefnu
  • 10,000 o becynnau arbed dŵr wedi’u hanfon
  • 20,000 o gynhyrchion wedi’u dosbarthu
  • 11,647 litr yr awr wedi’u harbed
  • Bron i 100 o leoliadau nad ydynt yn gartrefi wedi’u harchwilio

Yma rydym yn siarad ag Arweinydd Tîm Cartref, Annie Lamb, i edrych yn ôl ar 2021 a sut mae'r tîm yn gobeithio parhau â'u gwaith gwych yn 2022.

Dywedwch wrthym am rai o amcanion prosiect Cartref.

Mae nod Cartref yn un syml, ond effeithiol: helpu ein cwsmeriaid i arbed dŵr mewn ffyrdd syml sy’n hawdd eu cyflawni. Mae effeithiau gwych yn sgil gwneud hyn, mae'n helpu'r amgylchedd drwy arbed ynni ond mae hefyd yn helpu i leihau biliau dŵr cwsmeriaid bob blwyddyn.

Mae dau gynllun gwych wedi helpu i gyflawni'r canlyniadau hyn: Ein 'Ymgyrch Gollyngiadau' newydd a 'Ffitrwydd Dŵr’.

Ar gyfer ein Hymgyrch Gollyngiadau, ein nod oedd sicrhau ein bod yn helpu cwsmeriaid i nodi gollyngiadau yn y ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon i'r cwsmeriaid â phosibl, yn enwedig o ystyried y cyfyngiadau newidiol oherwydd y pandemig. Mae ein rhaglen adolygu fideo newydd yn caniatáu i gwsmeriaid anfon clip byr o ollyngiad yn eu toiled neu dapiau i'n plymwyr ei adolygu fel y gallwn gynnig y lefel fwyaf priodol o gymorth, p'un a yw hynny'n trefnu apwyntiad os oes yna ollyngiad, neu roi cyngor dros y ffôn os nad oes gollyngiad.

Mae ein Teclyn Cyfrifo Ffitrwydd Dŵr yn ffordd hawdd i gwsmeriaid ddeall eu defnydd dyddiol o ddŵr a cheisio ei leihau. Drwy ateb ychydig o gwestiynau syml, gall y cwsmer gael awgrymiadau a chyngor defnyddiol ar fod yn fwy effeithlon o ran dŵr. Mae cofrestru ar gyfer y teclyn cyfrifo hefyd yn rhoi cyfle i gwsmeriaid archebu cynhyrchion arbed dŵr gan gynnwys pennau cawod sy'n rheoli llif y dŵr, awyryddion tap a bagiau dadleoli dŵr – y cyfan am ddim!

Mewn blwyddyn anodd, sut aeth 2021?

Mae bron i 14,000 o bobl wedi cofrestru i ddefnyddio ein teclyn cyfrifo Ffitrwydd Dŵr ers ei lansio ac ychydig o dan 8000 o becynnau arbed dŵr am ddim wedi’u hanfon dros y 9 mis diwethaf. Mae hynny bron i 16,000 o gynhyrchion a miloedd o litrau o ddŵr wedi'u harbed!

Yn ystod y cyfnod ansicr hwn, roeddem eisiau sicrhau y gallem barhau i gynnig gwasanaeth i'n cwsmeriaid i helpu i drwsio gollyngiadau heb fod angen galw am gymorth yn ddiangen.

Manteisiodd ein cwsmeriaid ar y cyfle i ddefnyddio ein cynllun adolygu fideo gollyngiadau newydd, a arweiniodd at drefnu 81 o apwyntiadau trwsio gollyngiadau, a rhywfaint o adborth gwych.

Ysgrifennodd Robert a Marion o Risga i ddweud:

"Dim ond eisiau dweud diolch yn fawr i Dŵr Cymru am y fenter ddiweddar i drwsio tapiau sy'n gollwng. Roedd y peiriannydd a ddaeth atom yn wych a gwnaeth pob ymdrech i ddatrys y broblem, nad oedd yn un syml.

Mae ein tapiau bellach yn gweithio'n iawn, ac rydym wrth ein boddau gyda'r gwasanaeth a ddarparwyd."

Ochr yn ochr â hyn, rydym wedi cynnal nifer o archwiliadau ar gyfer cwsmeriaid nad ydynt yn gartrefi. O'r archwiliadau hyn rydym wedi gallu cynnig gwaith atgyweirio a gosod cynhyrchion arbed dŵr i 40 o ysgolion cynradd ac uwchradd a thros 50 o glybiau rygbi a neuaddau sgowtiaid.

Beth yw'r camau nesaf i dîm Cartref?

Ym mis Medi dechreuwyd ar ein negeseuon wedi'u targedu mewn tair ardal gymunedol newydd; Rhisga, Pontardawe a Dolgellau. Mae'r tîm wedi meithrin perthynas gref â busnesau, grwpiau cymunedol ac ysgolion yn yr ardaloedd hyn, gan ddod yn wynebau rheolaidd mewn digwyddiadau, grwpiau ac archfarchnadoedd lleol, ac ymgysylltu â chwsmeriaid yn eu cymunedau lleol.

Wrth i ni symud i 2022, byddwn yn parhau â'r gwaith hwn gyda phwyslais penodol ar Ruthun, Caerfyrddin a Llandrindod.

Rydym yn edrych ymlaen at ymgysylltu â chwsmeriaid yn yr ardaloedd hyn a lledaenu ein neges arbed dŵr hyd yn oed ymhellach..

Os ydych chi’n byw yn yr ardaloedd hyn ac yn meddwl y gallwn ni helpu ewch i www.dwrcymru.com/project-cartref