Ymdrech tîm i sicrhau bod ein cwsmeriaid yn cael cyflenwad dŵr diogel a dibynadwy pob un dydd
22 Rhagfyr 2021
Fel darparydd gwasanaethau hanfodol, mae angen i ni sicrhau ein bod ni'n cadw ein rhwydwaith mewn cyflwr da er mwyn darparu dŵr yfed dibynadwy a diogel ar gyfer ein cwsmeriaid.
Yn ddiweddar, cafodd ein timau'r her o gyflawni gwaith trwsio cymhleth dros ben ar bibell ddŵr glân yng Nghefn Mably ger Caerdydd. Mae'r bibell yn darparu dŵr ar gyfer dros 150,000 o gartrefi a busnesau yng Nghaerdydd, felly mae'n ffynhonnell hanfodol o ddŵr ar gyfer yr ardal hon.
Ffurfiwyd tîm arbenigol i gyflawni'r gwaith trwsio, ac roedd hyn yn cynnwys cydweithwyr o'n contractwyr partner yn y Gynghrair Cyfalaf, ein Tîm Gweithrediadau a'r gadwyn gyflenwi. Mae'r timau hyn, sy'n cynnwys Lewis Civil Engineering, HVL Solutions Ltd ac UTS Engineering Ltd, yn brofiadol wrth drwsio gollyngiadau anodd a chymhleth ar ein rhwydweithiau dŵr byw a buont y gweithio'n galed dros ben dros nifer o wythnosau er mwyn sicrhau bod y bibell ddŵr yn cael ei thrwsio mewn ffordd effeithiol ac effeithlon.
Oherwydd lleoliad y gwaith, bu angen cau'r ffordd am gyfnod o 24 awr a bu angen i bum busnes ym Mharc Cefn Mably gau am y diwrnod. Bu'r timau ystadau a chyfathrebu'n chwarae rhan bwysig wrth ddarparu diweddariadau i fusnesau a thrigolion Parc Cefn Mably.
Dywedodd Ian Christie, Rheolwr Gyfarwyddwr Dŵr, Cynllunio Asedau a Chyflawni Cyfalaf: "Hwn yw'r dasg trwsio fwyaf cymhleth i ni orfod delio â hi ar brif biblinell sy'n cyflenwi aelwydydd ar draws Caerdydd. Roedd hi'n braf gweld ymdrechion bendigedig ein holl dimau wrth gyflawni'r gwaith trwsio hanfodol yma, a lefel y cynllunio, yr arloesi a'r sgiliau peirianneg gan ein tîm Cyfalaf a'n cadwyn gyflenwi, gyda chymorth gwych gan ein timau Gweithredol. Gyda dros 80 o bobl yn chwarae eu rhan ar draws y cwmni i gyd, a gyda chymorth aruthrol Asiantaeth Briffyrdd De Cymru, a fu wrthi'n rheoli'r traffig o amgylch ardal y gwaith, llwyddwyd i gyflawni'r gwaith trwsio yn llwyddiannus ac yn ddiogel.’’
Dywedodd Aled Morgan, Rheolwr y Rhaglen: "Cododd nifer o sialensiau gyda'r gwaith trwsio cymhleth yma, am fod cynifer o bibellau'n croesi'r safle, ac am fod y darluniau hanesyddol o'r rhwydwaith yn gyfyngedig. Diolch i gydweithio rhwng y Gynghrair Cyfalaf a'r tîm Dosbarthu, bu modd i ni weithio'n strategol trwy amryw o ymchwiliadau anymwthiol ar y safle i gynyddu ein dealltwriaeth am y rhwydwaith a rhoi'r hyfer i ni y gallem gyflawni'r gwaith trwsio'n llwyddiannus.”