Dathlu 10 mlynedd o achlysuron y fforwm datblygwyr
18 Mehefin 2021
Eleni rydyn ni'n dathlu carreg filltir bwysig, sef degawd o gynnal achlysuron cysylltu rheolaidd gyda'n cwsmeriaid gwasanaethau datblygu, sy'n cynnwys sefydliadau fel adeiladwyr tai a chymdeithasau tai.
Yn ystod yr amser yna, rydyn ni'n amcangyfrif ein bod wedi cynnal tua 50 o achlysuron, gyda'r fforymau datblygwyr eu hunain yn dod yn rhan allweddol o'n rhaglen gysylltu. Cyn COVID, roeddem ni’n cynnal dau achlysur wyneb yn wyneb y flwyddyn lle byddem yn diweddaru'r cwsmeriaid ar eu materion blaenoriaeth, fel rheoliadau newydd a gwelliannau a wnaed i'n gwasanaethau, ac yn clywed adborth gwerthfawr am brofiadau cwsmeriaid o weithio gyda ni ar gysylltiadau dŵr a charthffosiaeth newydd.
Mae dau beth wedi dod yn sgil y flwyddyn ddiwethaf: wrth i adeiladwyr tai ar draws ein hardal weithredu addasu i gyfyngiadau newydd y llywodraeth, cadarnhaodd hynny pa mor bwysig yw hi i ni gysylltu'n rheolaidd â'n cwsmeriaid datblygu er mwyn clywed eu pryderon a'u hadborth. Amlygodd hefyd pa mor bwysig yw'r gwasanaethau cysylltiadau newydd rydym yn eu darparu ar gyfer adeiladwyr – o ystyried y cyfraniad mae hyn yn ei wneud at economi'r DU a llesiant cyffredinol pobl.
Am yr ail dro eleni, fe gynhalion ni ein fforwm cwsmeriaid datblygu ar ffurf galwad Microsoft Teams. Galluogodd hyn i ni dynnu ein holl gwsmeriaid ynghyd mewn un sesiwn, lle'r oeddem ni wedi bod yn cynnal dau achlysur wyneb yn wyneb, y naill yn y gogledd a'r llall yn y de. Roedd hyn yn golygu y gallem ddefnyddio nodwedd pleidleisio Microsoft Teams i gasglu adborth pwysig gan y mynychwyr am faterion llosg o'r diwydiant hefyd.
Gyda dros 50 o bobl yn bresennol, roedd y pynciau trafod yn amrywio o adeiladu atebion draenio cynaliadwy yn hytrach na seilwaith, lefelau ffosffadau wrth gynllunio datblygiadau newydd, y newidiadau arfaethedig i'r rheolau codi tâl a fu'n destun ymgynghoriad gan Ofwat yn gynharach eleni, a systemau taenellu tân.
Hoffem ddiolch i bawb a ymunodd â ni am wneud y fforwm yn llwyddiant. Ac yn fwy na dim – diolch i'n cwsmeriaid datblygu am gymryd rhan yn ein fformat rhithwir, am ofyn y cwestiynau craff yna ac am rannu eu syniadau am bynciau allweddol am y diwydiant yn agored.
Os oes diddordeb gennych fynychu ffora datblygwyr y dyfodol, e-bostiwch developer.services@dwrcymru.com er mwyn i ni'ch ychwanegu at ein rhestr bostio.