Dathlu fforwm datblygwyr arall
2 Rhagfyr 2022
Bu modd i ni gynnal fforwm datblygwyr wyneb yn wyneb arall yr wythnos ddiwethaf, ar ôl i Covid ein gorfodi i gynnal ein digwyddiadau ar-lein am ddwy flynedd. Roedd hi’n bleser cael cynnal digwyddiad wyneb yn wyneb o’r diwedd, a chael cysylltu â’n cwsmeriaid eto!
Ymhlith y rhai fu’n bresennol yn y fforwm datblygwyr roedd sefydliadau fel adeiladwyr tai a chymdeithasau tai. Rhag ofn nad ydych chi’n gyfarwydd â’r digwyddiadau yma, yn ein fforwm datblygwyr, rydyn ni fel arfer yn diweddaru cwsmeriaid ar y materion sy’n flaenoriaeth iddyn nhw, fel rheoliadau newydd a’r gwelliannau rydyn ni wedi eu gwneud i’n gwasanaethau, ac yn clywed adborth gwerthfawr am brofiadau cwsmeriaid o weithio gyda ni ar gysylltiadau dŵr a charthffosiaeth newydd.
Yr wythnos ddiwethaf, cynhaliwyd ein hail fforwm datblygu wyneb yn wyneb yn dilyn y bwlch yn sgil Covid. Daeth nifer ragorol o gynrychiolwyr, gyda rhyw 70 o bobl o wahanol ddiwydiannau yn bresennol rhwng ein digwyddiadau yng Nghaerdydd a Chaer.
Roedd y pynciau trafod yn amrywio o lefelau ffosffadau wrth gynllunio datblygiadau newydd a sut rydyn ni am i helpu i ddod o hyd i atebion gyda rhanddeiliaid eraill i helpu i gyflawni datblygiadau tai, i’r newidiadau i’r taliadau gwasanaethau datblygu a ddaw i rym yn 2023.
Yn yr achlysur, bu modd i Ddŵr Cymru lansio menter newydd gyffrous. Bydd hyn yn cynnwys cymhwyster i ddod yn Blymwr Cymeradwy’r Diwydiant Dŵr (WIAPS), a fydd yn caniatáu i gontractwyr cymeradwy hollol hyfforddedig hunan-ardystio gwaith ar gysylltiadau dŵr newydd, gan ddileu’r angen am i Ddŵr Cymru gyflawni archwiliadau ar ffosydd. Bydd hyn yn cyflymu’r broses ac yn helpu i wella iechyd a diogelwch ar y safle – sy’n beth da i bawb.
Bu’r adborth ar y fforwm yn gadarnhaol, gyda 100% o’r rhai a ddaeth yn rhoi marc positif.
Os yw’r pandemig wedi dysgu unrhyw beth i ni, mae hi wedi cadarnhau pa mor bwysig yw cysylltu â’n cwsmeriaid datblygu a gwrando’n weithredol ar eu safbwyntiau fel y gallwn glywed eu pryderon a’u hadborth.
Hoffem ddiolch i bawb am ymuno â ni eto, ac i’r rhai a ymunodd â ni am y tro cyntaf, am wneud y fforwm yn llwyddiant. Ac yn fwy na dim – diolch i’n cwsmeriaid datblygu am gymryd rhan yn ein fformat nôl i normal eto, gan ofyn y cwestiynau deallus yna a rhannu syniadau am bynciau sy’n allweddol i’r diwydiant yn agored.
Os oes diddordeb gennych chi ddod i ffora datblygwyr y dyfodol, e-bostiwch developer.services@dwrcymru.com a byddwn ni’n eich ychwanegu at ein rhestr bostio.