Dathlu digwyddiad fforwm datblygwyr arall


25 Ionawr 2022

Nôl yn y dyddiau cyn COVID, roeddem ni'n arfer cynnal dau fforwm datblygu ffisegol y flwyddyn. Yn rhan o'r 'normal newydd', rydyn ni wedi bod yn cynnal yr achlysuron cyswllt rheolaidd hyn â'n cwsmeriaid gwasanaethau datblygu ar lein.

Mae'r rhai sy'n dod i’r fforwm datblygwyr yn cynnwys cyrff fel cwmnïau adeiladu mawr a chymdeithasau tai, ac yn ystod y sesiynau rydyn ni'n rhannu gwybodaeth â chwsmeriaid am y meysydd sy'n flaenoriaeth iddyn nhw, fel rheoliadau newydd a’r gwelliannau a wnaed i'n gwasanaethau, ac rydyn ni’n casglu adborth gwerthfawr ganddynt am brofiadau'r cwsmeriaid o weithio gyda ni ar gysylltiadau dŵr a charthffosiaeth newydd.

Cynhaliwyd ein fforwm datblygwyr diweddaraf yr wythnos ddiwethaf. Roedd dros 40 o bobl yn bresennol ac roedd y pynciau trafod yn amrywio o lefelau ffosffad wrth gynllunio adeiladau newydd i'r newidiadau arfaethedig i'r rheolau codi tâl a fu'n destun ymgynghoriad gan Ofwat y llynedd.

Bu'r adborth ar y fforwm yn gadarnhaol, gyda'r rhai fu'n bresennol yn rhoi marc o 4.4 allan o bump ar gyfartaledd. Rhoesant sgôr o 82% o ran pa mor fodlon oedden nhw â gwasanaeth yr adran gwasanaethau datblygu yn gyffredinol hefyd.

Lansiwyd cynllun ein Panel Cwsmeriaid Datblygu yn yr achlysur diweddaraf. Os yw'r pandemig wedi dysgu rhywbeth i ni, mae hi wedi cadarnhau pa mor bwysig yw hi ein bod ni’n cysylltu â'n cwsmeriaid datblygu'n rheolaidd i glywed eu pryderon a'u hadborth.

Rydyn ni'n bwriadu sefydlu panel cwsmeriaid newydd sbon a fydd yn cynnwys tua 10 o gwsmeriaid allweddol, a fydd yn gweithredu fel postyn taro ar gyfer unrhyw syniadau newydd a newidiadau arfaethedig, ac yn clustnodi ffyrdd y gall Dŵr Cymru a'i gwsmeriaid gydweithio. I'ch enwebu eich hun fel aelod o'r Panel Cwsmeriaid Datblygu, e-bostiwch kate.anderson@dwrcymru.com.

Yn olaf, hoffem ddiolch i bawb a ymunodd â ni am wneud y fforwm yn llwyddiant. Ac yn fwy na dim – diolch i'n cwsmeriaid datblygu am gymryd rhan yn ein fformat rhithiol, am ofyn y cwestiynau craff yna, ac am rannu eu meddyliau am bynciau allweddol am y diwydiant yn agored.

Os oes diddordeb gennych fynychu ffora datblygwyr y dyfodol, e-bostiwch developer.services@dwrcymru.com er mwyn i ni'ch ychwanegu at ein rhestr bostio.