Ein gwaith gyda Chyngor Sir Gaer i osod draen dŵr wyneb newydd


14 Mehefin 2021

Fel y byddwch chi'n ymwybodol efallai, mae canol dinas Caer yn destun ailddatblygiad sylweddol ar hyn o bryd. Mae Cyngor Gorllewin Sir Gaer a Dinas Caer ar ganol ailddatblygiad o'r enw'r One City Plan ar gost o £777m.

Ond efallai nad ydych chi'n ymwybodol o'r ffaith fod ein tîm gwasanaethau datblygu (sy'n gofalu am gysylltiadau newydd â'n rhwydwaith) wedi bod yn cydweithio'n agos â'r cyngor dros nifer o flynyddoedd i geisio dod o hyd i ffordd arall o ddelio â dŵr wyneb yn yr ardal fel nad yw'n mynd i'r system o garthffosydd cyfun, a hynny er bydd yr amgylchedd lleol a'r gymuned.

Os ydych chi'n byw ac yn gweithio yn yr ardal, byddwch chi'n gwybod bod carthffos gyfun yn gwasanaethu'r rhan fwyaf o Gaer, sy'n golygu bod angen i'r system garthffosiaeth ymdopi â'r dŵr wyneb a'r dŵr budr sy'n dod o eiddo. Mae hynny’n golygu bod glaw trwm yn gallu llethu'r system, a bod y gweithfeydd trin dŵr gwastraff yn gorfod trin y dŵr glaw hefyd, sy'n golygu bod yna lai o le yn y rhwydwaith am ddŵr gwastraff.

Yn debyg i'n prosiect GlawLif yn Llanelli, un ateb i'r broblem yw ailddatblygu rhannau o Gaer, a defnyddio atebion draenio cynaliadwy (SuDS) fel pantiau i gadw rhywfaint o'r dŵr wyneb allan o'n carthffosydd. Systemau draenio cynaliadwy yw'r pantiau sy'n creu ardaloedd gwyrdd sy'n dal y dŵr wyneb cyn ei ryddhau'n raddol bach i'n carthffosydd. Mae hyn yn lleihau'r perygl o lifogydd.

Yn rhan o'r cyfnod ailddatblygu diweddaraf, mae'r cyngor wedi penderfynu gwneud pethau mewn ffordd wahanol a chreu system ddraenio newydd ar gyfer ardal yr ailddatblygiad, sy'n cynnwys adeiladu draen dŵr wyneb newydd 1km o hyd trwy ganol y ddinas.

 diamedr o 1.2m, bydd hyn yn gofyn am naw siafft mynediad saith metro led a 12 metr o ddyfnder ar hyd y llwybr. Bydd y draen newydd yma’n mynd â'r holl ddŵr glaw nôl allan i Afon Dyfrdwy. Caiff dros 85% o'r draen newydd ei gosod gan ddefnyddio dulliau twnelu yn hytrach na ffos agored er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar bethau ar y tir, ond bydd angen naw siafft mynediad ar hyd y llwybr er mwyn i'r offer twnelu weithredu rhyngddynt.

Bydd y draen newydd yn ein cynorthwyo i:

  • Leihau llifogydd a byrstiau yn y draeniau yng nghanol y ddinas am y bydd ein system o garthffosydd yn llai tebygol o gael ei llethu, a bydd ganddi gapasiti uwch
  • Lleihau faint o ddŵr sy'n mynd i'n gweithfeydd trin dŵr gwastraff, gan leihau faint o ynni sy'n cael ei ddefnyddio
  • Lleihau nifer yr achosion pan fo angen i'n pibell gorlif storm gyfun - sy'n hanfodol i atal eiddo rhag dioddef llifogydd carthion mewnol mewn tywydd stormus - weithredu

Dywedodd Andrew Lewis, prif weithredwr Cyngor Gorllewin Sir Gaer a Dinas Caer: “Mae'r draen newydd yn fuddsoddiad pwysig i ddiogelu Caer at y dyfodol wrth i’r ddinas ymadfer yn sgil y pandemig, ac mae'n ofyniad hanfodol cyn i ni gyflawni ein cynlluniau adfywio pwysig, gan gynnwys datblygiad Northgate.”

Mae rhagor o fanylion am y prosiect a'i fanteision yma