Prif Weithredwr yn cwrdd â graddedigion am sesiwn holi ac ateb
23 Ebrill 2021
Dydd Llun, cymerodd ein Prif Weithredwr, Peter Perry, ran mewn sesiwn holi ac ateb gyda rhyw 20 aelod o'n rhaglen graddedigion. Rhoddodd y sesiwn gyfle unigryw i'r graddedigion glywed rhagor am ei rôl bresennol a'i siwrnai i'r brig. Yma, mae un o'n graddedigion, Lowri Davies, yn esbonio beth ddysgodd hi o'r profiad.
"Roedd cael y cyfle i dreulio awr yn holi Peter Perry am ei yrfa dros ddeugain mlynedd yn y Diwydiant Dŵr yn fraint i ni i gyd fel graddedigion, ac fe ddysgais i lawer o'r profiad.
Rwy'n gweithio fel goruchwylydd gweithredol ar y rheng flaen, ac mae gwybod bod Peter wedi dechrau ym maes gweithrediadau, a'i fod bellach yn Brif Weithredwr ar y busnes yn ysbrydoliaeth i mi. Roeddem ni i gyd am glywed beth mae'n ei gymryd i wneud y siwrnai yna, a'i gyngor oedd gwneud rhywbeth rydych chi'n ei fwynhau a lle'r ydych chi'n teimlo'n rhan o rywbeth pwysig, fel darparu gwasanaeth cyhoeddus hanfodol.
Fe ddywedodd wrthym ni hefyd i feithrin perthnasau cadarn â'n cydweithwyr a'n rhanddeiliaid trwy fod yn feddwl-agored, yn ddiffuant ac yn ddibynadwy. Rwy'n cytuno'n llwyr â hyn, ac rydw i wedi ffeindio ei bod hi'n bwysig iawn dod i adnabod cynifer o gydweithwyr â phosibl o fewn y busnes yn ystod y cynllun i raddedigion. Rydw i wir yn credu ei bod hi'n bwysig cael teimlad o brofiadau, syniadau a gwerthoedd pobl, a dod i ddeall sut mae'r busnes yn gweithio go iawn.
Esboniodd Peter hefyd y wers bwysig o sut i ddarparu gwasanaeth da ar gyfer cwsmeriaid yn ogystal â mantoli'r cyfrifon, a phwysleisiodd bwysigrwydd iechyd a diogelwch, ac yn enwedig yn ein diwydiant ni.
Roeddwn i eisoes yn teimlo'n falch o weithio dros Ddŵr Cymru, ond rwy'n fwy balch byth ar ôl yr alwad yma Diolch Peter."