Digwyddiad cymorth gyda chostau byw am ddim yn Rhyl
3 Mai 2023
Am ennill Popty Araf? Denu Trigolion y Rhyl i Ddigwyddiad Costau Byw gydag Arddangosiad Coginio a Chyfle i ennill Popty Araf. Mae Dŵr Cymru’n cynnal digwyddiad cymorth gyda chostau byw am ddim yn Rhyl ar 17 Mai 2023 rhwng 10am a 2pm.
Yn yr achlysur, bydd partneriaid fel Nest, Cyngor Ar Bopeth, Cymru Gynnes a Chanolfan Menywod y Rhyl yn ymuno â Dŵr Cymru i gynnig cyngor a chymorth i drigolion Rhyl ar gostau byw a’r cymorth ariannol a allai fod ar gael iddynt.
Yn ogystal â hyn, bydd yna arddangosiad coginio gan Public Health Wales Dietetics Team, gyda chyfle i flasu’r bwyd, er mwyn rhoi ysbrydoliaeth i drigolion am brydau maethlon cost isel y gellir eu paratoi mewn popty araf sy’n fwy effeithlon o ran ynni. Bydd y rhai sy’n dod yn cael eu cynnwys mewn raffl i ennill un o ddau bopty araf gan Ddŵr Cymru.
Dywedodd Paula Burnell, Pennaeth Cymorth i Gwsmeriaid Bregus Dŵr Cymru: “Mae hi’n hyfryd cael cynnig rhywbeth sydd ychydig bach yn wahanol i drigolion y Rhyl gyda rhai o’r sefydliadau partner sy’n gweithio gyda ni yn yr ardal. Er bod ein tîm cymorth allan mewn cymunedau ledled Cymru o hyd yn cynnig cymorth ariannol i gwsmeriaid cymwys, dyma’r tro cyntaf i ni gynnal digwyddiad ag arddangosiad coginio.
“Gallwn helpu cwsmeriaid cymwys i arbed hyd at £200 ar eu biliau dŵr blynyddol cyfartalog diolch i’n cymorth ariannol. R’yn ni’n gwybod, os yw pobl yn ei chael hi’n anodd fforddio talu eu biliau dŵr, maen nhw siŵr o fod yn cael trafferth fforddio’r hanfodion eraill fel eu bil bwyd hefyd.
“Mae prisiau bwyd yn uwch nag y maen nhw wedi bod ers 45 mlynedd, ac mae mwy o bobl nac erioed yn troi at fanciau bwyd Ymddiriedolaeth Trussell ar draws y DU. Roeddem ni am greu digwyddiad lle gall trigolion y Rhyl gael cymorth ariannol ac ysbrydoliaeth am brydau hawdd cost isel y gallant eu coginio gartref. Bydd yr holl gynhwysion ar gael yn rhan o barsel bwyd fel rheol.”
Cynhelir yr achlysur yn y Ganolfan Ask, Water Street, Rhyl, LL18 1SP rhwng 10am a 2pm. Bydd dau arddangosiad coginio, y naill am 11am a’r llall am 12.30pm.
Ychwanegodd Paula: “Yma yn Dŵr Cymru, mae gennym dîm cymorth arbenigol ymroddgar a hyfforddedig i roi arweiniad a chynorthwyo cwsmeriaid sy’n wynebu unrhyw fath o anawsterau, boed yn ariannol neu fel arall. Os ydych chi’n cael trafferthion ariannol, dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Rydyn ni yma i chi.”
I gael rhagor o fanylion am y gwahanol fathau o gymorth ariannol sydd ar gael i gwsmeriaid Dŵr Cymru, ewch i www.dwrcymru.com/chostaubyw