Rhoi eich anghenion wrth galon ein gwasanaethau digidol
29 Hydref 2021
Dyma Paula Burnell, Pennaeth Cwsmeriaid Bregus a Gwasanaethau Digidol, yn esbonio sut rydyn ni'n rhoi eich anghenion wrth galon ein technoleg.
R’yn ni'n gwybod nad yw 'cysylltu â darparydd cyfleustodau' ar frig rhestr neb o bethau braf i'w gwneud. Pan fo angen i chi gysylltu â ni, rydych chi am i'r peth fod yn gyflym, yn rhwydd ac yn syml. R’yn ni'n deall hynny ac r'yn ni'n gweithio'n galed i gyflawni'ch disgwyliadau bob tro. A dweud y gwir, mae gennym dîm cyfan – ein tîm Trawsnewid – sy'n gweithio i ddatblygu gwasanaethau newydd a'u gwella'n barhaus.
Rydyn ni wedi ennill llwyth o wobrau o fewn y diwydiant am ein gwaith i drawsnewid y ffordd mae ein cwsmeriaid yn rhyngweithio â ni. Mae hi'n deimlad braf cael ein gwobrwyo am ein gwaith gan y diwydiant, ond y peth sy'n ein gwneud ni'n fwyaf balch yw'r gydnabyddiaeth rydyn ni wedi ei chael am ein 'dull gweithredu er budd y cwsmer'. Yn syml, d’yn ni ddim yn defnyddio technoleg er mwyn technoleg. Mae pob gwasanaeth digidol a lansiwn, pob datblygiad a gyflwynwn, pob penderfyniad a wnawn – yn cael eu llywio gan beth mae ein cwsmeriaid yn dweud sydd ei hangen arnynt o'n gwasanaethau.
Boed trwy waith ymchwil, grwpiau ffocws, profi defnyddwyr neu ddefnyddio technolegau mapio defnydd er mwyn deall pa rannau o'n gwefan sy'n cael eu defnyddio'r mwyaf - r’yn ni ond yn cyflwyno newidiadau os byddan nhw'n ei gwneud hi’n gynt ac yn haws i chi gyrchu ein gwasanaethau a chael yr atebion sydd eu hangen arnoch.
Mae'r dull yma wedi ein gweld ni'n newid y gwasanaethau digidol a gynigiwn yn llwyr, ac erbyn hyn mae ein cwsmeriaid yn elwa ar wasanaethau fel
- ‘Fy Nghyfrif’ sef gwasanaeth diogel ar lein sy’n eich galluogi i reoli holl fanylion eich cyfrif, gweld eich biliau a'u talu, a chael y wybodaeth ddiweddaraf am waith sy'n cael ei wneud yn eich ardal leol.
- 'Tracio Fy Ngwaith' sef porth sy'n caniatáu i chi dracio peirianwyr sydd ar eu ffordd atoch chi a chysylltu â nhw.
- Ffurflenni gwe awtomatig sy'n caniatáu i chi ymgeisio am gymorth yn gyflym ac yn hwylus ar lein gan gynnwys gwasanaethau fel ein cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth, neu ein p becynnau cymorth ariannol.
- Sgwrsfot ar lein a chyfleuster sgwrsio byw ar ein gwefan fel y gallwch gael atebion i gwestiynau cyffredin yn gyflym.
Mae ein gwaith i arloesi ac i ddal ati i wneud pethau'n well i chi – ein cwsmeriaid – wedi ennill cydnabyddiaeth i ni yn Symposiwm Sitecore, lle'r oeddem ni'n cystadlu yn erbyn cwmnïau mawr fel United Airlines, Honda, Aston Martin, ac Emirates am ‘Y Profiad Digidol Gorau mewn Trawsnewid’. Cawsom lwyddiant hefyd yng ngwobrau Canolfannau Cysylltu Cenedlaethol lle enillodd y tîm wobr 'Tîm Trawsnewid y Flwyddyn’, ac yng ngwobrau ERP Today lle denodd ein 'Rhaglen TG yn y Maes Digidol' glod uchel am gyfoethogi galluoedd gweithredu ein gweithwyr allweddol hanfodol ar y rheng flaen.
Mae manteision ein dull o drawsnewid gwasanaethau'n ymestyn y tu hwnt i ddim ond gwneud eich profiadau ar lein yn gynt ac yn symlach. Mae'n golygu hefyd y gallwn leihau ein dibyniaeth ein hunain ar gyflawni tasgau â llaw y tu ôl i'r llenni. Yn ogystal â sicrhau eich bod chi'n cael gwasanaeth o'r safon uchel rydych chi'n ei ddisgwyl gan Ddŵr Cymru, mae'n ein helpu ni i wneud arbedion a gwella effeithlonrwydd o ran cost hefyd
Am fod Dŵr Cymru'n gweithredu model busnes nid-er-elw, gallwn roi'r arbedion at bethau fel cyflawni gwaith yn y gymuned, buddsoddi yn ein seilwaith, a chynorthwyo cwsmeriaid sydd wir yn cael trafferth talu trwy ein pecynnau cymorth ariannol, y pecynnau gorau yn y diwydiant.
Y peth am arloesi yw nad yw e byth yn dod i ben. Bydd yna welliannau y gallwn eu gwneud a gwasanaethau newydd y gallwn eu cynnig o hyd ac o hyd. Felly byddwn ni'n parhau i wrando ar beth sydd ei hangen arnoch, ac yn darparu gwasanaethau sy'n gweithio i chi.
Os nad ydych chi wedi cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif eto, dyma'r amser i fynd amdani. Rydyn ni newydd gyhoeddi diweddariad sy'n galluogi defnyddwyr i wneud mwy nag erioed ar lein. Mae rhagor o fanylion am beth sy'n newydd yn Fy Nghyfrif yn ein blog diweddar.