Gwneud y peth iawn Dros natur
14 Mawrth 2023
Yn y blog hwn byddwn yn cael gwybod mwy am ein Cynghorydd Cadwraeth, Chloe White, sy’n sôn am ei syniad arloesol i wella bioamrywiaeth yn safleoedd Dŵr Cymru.
Fy Mhecynnau Gofal Bioamrywiaeth
Rwyf wedi bod yn Gynghorydd Cadwraeth yn Dŵr Cymru am bedair blynedd ac yn gweithio yn y Tîm Gwasanaethau Amgylcheddol Dŵr Gwastraff. Mae’n fraint gweithio bob dydd gyda thîm anhygoel o arbenigwyr mewn atebion ar sail natur – dyma swydd fy mreuddwydion.
Tyfais i fyny ar fferm laeth felly dechreuodd fy niddordeb a fy angerdd am yr amgylchedd yn gynnar. Roeddwn wedi fy amgylchynu gan natur, a chynefinoedd naturiol bob dydd ac roeddwn yn mwynhau treulio amser yn y goedwig a lawr wrth yr afon yn chwarae gyda fy mrodyr a fy chwiorydd.
Growing up with nature gave me a deeper understanding of how valuable the environment is, and it gave me the desire to go to university, where I studied Science. I was very lucky to get this job following my graduation and it has given me so much satisfaction knowing I am making a difference to our environment.
Roedd tyfu i fyny gyda natur yn rhoi dealltwriaeth ddyfnach i mi o ba mor werthfawr yw’r amgylchedd, a rhoddodd y dyhead i mi fynd i’r brifysgol, lle astudiais wyddoniaeth.
Roeddwn i’n ffodus iawn i gael y swydd hon ar ôl graddio ac mae wedi rhoi cymaint o foddhad i mi i wybod fy mod i’n gwneud gwahaniaeth i’n hamgylchedd.
Yn ystod fy nghyfnod fel Cynghorydd Cadwraeth, roeddwn i’n ddigon ffodus i ennill Gwobr y Pwyllgor gan Ardal Cymru y Sefydliad Dŵr am ddatblygu pecynnau gofal bioamrywiaeth. Syniad fy mhrosiect oedd annog gwell dealltwriaeth o fioamrywiaeth gyda chydweithwyr ar draws y meysydd gweithredol a rhoi canllawiau i reolwyr safleoedd o ran sut y gallen nhw gynnal a gwella bioamrywiaeth yn eu hardaloedd nhw.
Datblygais becynnau gofal a chynlluniau rheoli penodol i safleoedd, gan ymgysylltu â chydweithwyr a’u hannog i fod yn llysgenhadon bioamrywiaeth. Fy nod oedd sicrhau dull cyson o wneud gwelliannau ar raddfa fach mewn safleoedd ar draws y cwmni. Trwy drafod â chydweithwyr gweithredol, daeth yn glir bod awydd a dymuniad i wella bioamrywiaeth a newid y ffordd yr ydym yn rheoli ein safleoedd. Mae’r cydweithwyr hyn wedi bod yn allweddol wrth ysgogi llwyddiant y pecynnau gofal bioamrywiaeth ac mae hefyd yn golygu bod bob amser mwy o syniadau yn cael eu cyflwyno i ni!
Trwy godi ymwybyddiaeth, annog perchnogaeth a gwneud argymhellion, mae ugain o safleoedd wedi gweld gwelliannau i’r ymdrechion bioamrywiaeth ers 2021. O ganlyniad i hyn, mae dros 30kg o hadau blodau gwyllt brodorol wedi eu hau sydd â rôl allweddol wrth ddarparu ffynonellau bwyd ar gyfer peillwyr. Yn ogystal â hyn, rydym hefyd wedi sefydlu cyfleusterau er budd y gwahanol fathau o fywyd gwyllt sy’n byw yn ein safleoedd. Mae hyn wedi cynnwys gosod 40 o flychau ystlumod, dau westy trychfilod, 65 o flychau adar o wahanol feintiau.
Trwy godi ymwybyddiaeth yn ein cylchlythyr wythnosol, mae ein cydweithwyr yn fwy ymwybodol o sut y gallent wella bioamrywiaeth ymhellach ar draws y cwmni ac mae ymdrech ar y cyd yn sicrhau ein bod yn gallu adrodd cyfanswm ein gwelliannau bioamrywiaeth i’n rheoleiddwyr yn ein hadroddiad bioamrywiaeth.
Rwy’n angerddol ynghylch parhau i reoli safleoedd y cwmni i sicrhau ein bod yn diogelu ac yn gwella bioamrywiaeth yn yr hirdymor a byddaf yn parhau i weithio gyda chydweithwyr mewn mwy o’n safleoedd.
Hoffem ymestyn y prosiect hwn, yn ddelfrydol, i weithio ar y cyd gyda sefydliadau anllywodraethol, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolaethau natur lleol i gynyddu effaith pob gwelliant, a datblygu pob safle yn bwrpasol ar gyfer yr ardal leol a’r bywyd gwyllt sydd yno.
Os oes gennych unrhyw syniadau neu awgrymiadau ar gyfer gwelliannau neu gyfleoedd i gydweithio, hoffwn glywed gennych. Gallwch gysylltu â’n tîm yn biodiversity@dwrcymru.com.
Mae rhagor o wybodaeth am hwn a phrosiectau bioamrywiaeth eraill yn yr adroddiad bioamrywiaeth newydd, Gwneud y Peth Iawn Dros Natur 2022.