Ennill eich ffydd mewn byd ar ôl y Pandemig


18 Mai 2021

Mae Dŵr Cymru wedi bod yn gweithredu ei fodel nid-er-elw unigryw ers dau ddegawd bellach, ac mae’n cael ei lywio bob cam gan ein gweledigaeth i 'ennill ffydd ein cwsmeriaid bob un dydd'. Ugain mlynedd yn ddiweddarach, sut beth yw 'ennill eich ffydd' mewn byd yn sgil y Pandemig? Fe siaradon ni â'r Cyfarwyddwr Strategaeth a Chysylltiadau Cwsmeriaid, Alun Shurmer, i holi ei farn.

Mae bywyd modern yn hectig. Ry’n ni i gyd yn jyglo amrywiaeth enfawr o ymrwymiadau a pherthnasau byth a hefyd – gweithio'n galed, gofalu am y teulu, cadw ar ben y gwaith tŷ a'r biliau, diweddaru'r cyfryngau cymdeithasol, ymarfer corff, cadw i fyny â'r newyddion, trefnu ‘cwrdd’ â ffrindiau a pherthnasau ar Zoom... mae'r rhestr yn faith. Hyd yn oed mewn pandemig, mae'n debyg bod yr hil ddynol yn fwy prysur nag erioed o'r blaen. Ond mae yna bethau sy'n ein gorfodi ni i stopio am ennyd i feddwl bob nawr ac yn y man.

I fi, un o’r pethau hynny yw ugain-mlwyddiant model nid-er-elw Dŵr Cymru. Nôl yn 2001, pan ffurfiwyd Glas Cymru i gymryd cyfrifoldeb dros Ddŵr Cymru, roedd ffurfio cwmni cyfleustod nid-er-elw’n wirioneddol arloesol ac yn gam beiddgar. Ond heddiw gallwn ddweud ei bod hi’n gam i’r cyfeiriad iawn. Hyd yn oed dau ddegawd yn ddiweddarach, mae ein model nid-er-elw yn dal i fod yn unigryw, ac ni ellir tanbrisio'r effaith y mae hynny wedi ei chael yn nhermau ein gallu i wneud pethau mewn ffordd wahanol.

Rydyn ni wedi bod yn gwmni sy’n gosod ffocws ar y cwsmer ers amser maith. Mae pob penderfyniad a wnawn yn cael ei lywio gan ein gweledigaeth 'i ennill ffydd ein cwsmeriaid bob un dydd' felly mae'n hollol briodol bod ein dathliadau pen-blwydd yn fewnol wedi canolbwyntio ar hynny'n union. Mae gwireddu'r weledigaeth hon yn gallu bod yn her; a hynny i raddau helaeth am fod ennill ffydd yn edrych yn wahanol heddiw nag yr oedd ugain mlynedd yn ôl.

Mae llawer wedi digwydd dros y ddau ddegawd diwethaf ac mae'r byd yn lle gwahanol iawn i fel yr oedd yn 2001. Ry’n ni'n byw mewn byd sy'n symud yn gyflym, lle mae pobl am gael nwyddau, negeseuon a boddhad yn y fan a'r lle. Byd lle gallwch archebu unrhyw beth bron i gyrraedd cyn pen 24 awr, cael bwyd tecawê i stepen y drws am 2am heb godi'r ffôn hyd yn oed, cael cynnig morgais heb orfod ymweld â'r banc, a chael galwad fideo gyda ffrind sy'n byw ar gyfandir arall trwy wasgu un botwm.

Roedd ein bywydau ni eisoes wedi newid yn aruthrol pan darodd y pandemig, ond eto fyth mae'r deunaw mis diwethaf wedi cael effaith anhygoel ar ein ffordd o fyw. Yn ogystal â newid sut rydyn ni'n rhyngweithio â'n gilydd a beth sy'n 'hanfodol', mae hi wedi newid ein disgwyliadau o ran y cwmnïau rydym ni'n dibynnu arnynt, am hanfodion bywyd ac am bethau eraill hefyd. Fel cymdeithas, mae ein blaenoriaethau wedi newid, mae ein disgwyliadau'n wahanol, ac mae llawer ohonom yn fwy ymwybodol o lawer o effaith unigolion a diwydiannau ar y byd o'n cwmpas.

A beth mae hyn yn ei olygu i ni yn Dŵr Cymru? Pa effaith mae hyn yn ei chael ar sut ry’n ni'n darparu ein gwasanaethau hanfodol a sut ry’n ni'n cyflawni ein gweledigaeth i 'ennill ffydd' ein cwsmeriaid? Wedi'r cyfan, mae cyflenwad diogel o ddŵr glân yn hanfodol, ond yn rhywbeth y mae hi mor hawdd ei gymryd yn ganiataol – er y byddem ar goll hebddo.

Wrth i ni ddathlu ugain mlynedd o'n model nid-er-elw unigryw, yn fewnol fe dreulion ni wythnos yn meddwl am yr union her yna. Fe gynhalion ni weithdai a sesiynau panel, ac fe groesawon ni siaradwyr gwadd, â'r bwriad o godi ein meddylfryd i'r lefel nesaf.

Mae yna gwestiynau mawr a sialensiau cymhleth o’n blaenau. Sut gallwn ni barhau i ganfod a chynorthwyo cwsmeriaid sydd angen rhagor o gymorth? Sut mae diwallu anghenion digidol sylfaen o gwsmeriaid pan fo argaeledd technoleg a sgiliau pobl yn y maes yn amrywio gymaint? Sut mae cael effaith wirioneddol gadarnhaol a hirhoedlog ar y cymunedau a wasanaethwn? Sut mae taclo'r materion cymdeithasol ac economaidd ehangach sydd yn y fantol? A sut mae cydbwyso'r sialensiau hyn â chost delio â nhw a'u heffaith bosibl ar filiau?

Yn syml, mae hi'n hollol hanfodol ein bod ni'n gwrando ar beth y mae ein cwsmeriaid a'n cydweithwyr yn ei ddweud wrthym, ac ry’n ni'n gwybod taw'r ffordd ymlaen yn parhau i'n cwestiynu ein hunain – gan barhau i ofyn sut y gallwn ni wneud rhagor a sut y gallwn ni fod yn well? Trwy wneud hynny, ein gobaith yw y byddwn wir yn gwireddu ein gweledigaeth 'i ennill ffydd ein cwsmeriaid bob un dydd.’