Pam rydym yn falch o gadw’r ‘Nod Treth Deg’
21 Medi 2022
Gan Mike Davis, Prif Swyddog Cyllid Dŵr Cymru
Yma yn Dŵr Cymru, rydym yn hoffi gwneud pethau ychydig yn wahanol. Y llynedd, ni oedd y cwmni cyntaf yng Nghymru i gael y Nod Treth Deg. Ardystiad annibynnol yw hwn, sy’n cydnabod sefydliadau sy’n rheoli eu materion treth mewn ffordd gyfrifol a thryloyw. Eleni, rydym wedi cadw’r Nod Treth Deg.
At hyn, ni yw’r unig gwmni cyfleustod nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr o hyd. Mae’r model gweithredu unigryw hwn yn golygu nad oes gennym unrhyw gyfranddalwyr, ac rydym yn buddsoddi unrhyw arian dros ben yn ôl i mewn i wasanaethau ac er budd cwsmeriaid.
Fel cwmni moesegol a chymdeithasol gyfrifol, mae sicrhau tryloywder ym mhopeth a wnawn yn bwysig ac yn helpu i feithrin ymddiriedaeth ein cwsmeriaid ynom ymhellach. Dyma pam rydym yn falch o fod yn rhan o fwy na 60 o sefydliadau sy’n cael eu cydnabod am reoli eu materion treth mewn ffordd gyfrifol a thryloyw ledled y DU.
Drwy gyfuniad o fuddsoddi uniongyrchol a’n cadwyn gyflenwi ehangach, rydym eisoes yn cefnogi dros £1 biliwn o weithgarwch economaidd. Rydym yn buddsoddi tua £1 miliwn y dydd yn ein gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff, sy’n golygu y gwnaethom fuddsoddi cyfanswm o £1.9 biliwn yn ystod y pum mlynedd diwethaf (2015-2020). Yn ystod y pum mlynedd nesaf (2020-2025), byddwn yn buddsoddi £1.8 biliwn arall.
Gwyddom fod ein cwsmeriaid yn awyddus i ni fod yn gyfrifol yn ogystal â thryloyw. Wrth gadw’r achrediad hwn, rydym yn gobeithio y gall helpu ein cwsmeriaid i gydnabod ein bod yn falch iawn o wneud y peth iawn a gweithredu fel busnes cymdeithasol cyfrifol, o ail-fuddsoddi ein helw er budd cwsmeriaid i dalu’r dreth gywir.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am y Nod Treth Deg, mae rhagor o wybodaeth ar gael i’w darllen yma.