Hwyl Hanner Tymor am Ddim i Deuluoedd a Chymorth gan Ddŵr Cymru

Hwyl hanner tymor am ddim i deuluoedd


12 Hydref 2023

Bydd Dŵr Cymru Welsh Water yn cynnal digwyddiad am ddim i deuluoedd yng nghanolfan gelfyddydau Glan yr Afon yng Nghasnewydd dros hanner tymor.

Dydd Iau, 2 Tachwedd 2023, rhwng 10am a 2pm, bydd dros 30 o sefydliadau yn y ganolfan yn cynnig gwybodaeth am gymorth gyda chostau byw, arbed ynni, iechyd meddwl a llawer mwy.

Yn ogystal â stondinau gwybodaeth, bydd yna ddigonedd o weithgareddau i blant, gan gynnwys celf a chrefft, gemau ac adeiladu Lego, raffl ar thema teuluoedd a chŵn poeth a lluniaeth am ddim i ymwelwyr.

Dywedodd Jody Perkins, Cynghorydd Hyrwyddo Dŵr Cymru: “Mae hanner tymor yn gallu bod yn amser drud i deuluoedd. Fel mam i bedwar fy hun, rwy’n gwybod pa mor brysur mae pethau’n gallu bod.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gynnal ein digwyddiad am ddim i deuluoedd dros hanner tymor mis Hydref â’r nod o dynnu cwsmeriaid o’r ardal ynghyd i gael hwyl a chlywed am y cymorth gwych sydd ar gael iddynt gan Ddŵr Cymru a’n sefydliadau partner, fel Cyngor Casnewydd.

“Bydd Dŵr Cymru’n hybu’r gwahanol gynlluniau cymorth ariannol sydd ar gael i gwsmeriaid, yn ogystal â chyfleoedd i weithio dros y cwmni a chynigion ac awgrymiadau am ffyrdd o arbed dŵr a gwella effeithlonrwydd dŵr yn y cartref.”

Nid oes angen bwcio ar gyfer y digwyddiad hwn, ac mae’r ganolfan yn hawdd ei chyrraedd gan ddefnyddio cludiant cyhoeddus. Mae yna gyfleusterau parcio gyferbyn â’r ganolfan, ond rhaid talu i ddefnyddio’r rhain.

I gael rhagor o fanylion am y cymorth ariannol sydd ar gael gan Ddŵr Cymru ewch i: dwrcymru.com/costaubyw.

Gweithgareddau a gwybodaeth gan dros 30 o sefydliadau gan gynnwys:

  • Newport Mind
  • Help Me Quit (Stop Smoking Services)
  • Warm Wales
  • Newport Citizen’s Advice
  • Newport City Homes
  • Newport City Council
  • Sparkle
  • Aneurin Bevan University Health Board
  • OVO
  • South Wales Fire and Rescue
  • Victim Support
  • Flying Start
  • Communities for Work Plus
  • Race Equality Wales
  • Jessica Morden MP
  • National Energy Action
  • MELO
  • Honey Legal
  • Riverside Advice
  • Newport Job Centre Plus
  • Newport Credit Union
  • Barnados
  • LoanShark Wales
  • Tesco
  • Pobl
  • Step Change Debt Charity
  • Mini First Aid Cardiff and Newport

I glywed y newyddion diweddaraf ac am ddigwyddiadau gan Ddŵr Cymru, dilynwch @DwrCymruWelshWater ar Facebook ac Instagram, a @DwrCymru ar Twitter.