Mynnwch becyn lagio am ddim y gaeaf hwn
5 Rhagfyr 2022
Mae’r gaeaf yn gallu bod yn amser hudolus, ond mae’r tywydd oer yn gallu achosi problemau yn eich cartref.
Gyda’r tymheredd yn dechrau disgyn, mae hi’n bwysig ein bod ni i gyd yn chwarae ein rhan i baratoi ein cartrefi a’n busnesau am y gaeaf er mwyn helpu i osgoi problemau costus fel pibellau dŵr sy’n rhewi neu’n byrstio.
Gyda’r nosweithiau’n oeri, rydyn ni’n gofyn i’n cwsmeriaid gadw llygad am ‘dri lle oer problemus’.
Lle oer problemus un: Pibellau dŵr a thapiau yn yr awyr agored
Os oes gennych bibellau a thapiau yn yr awyr agored, lapiwch nhw â deunydd inswleiddio neu becyn lagio. Bydd hyn yn helpu i inswleiddio’r pibellau gan eu hatal rhag byrstio ac achosi difrod os bydd y tymheredd yn disgyn i’r rhewbwynt.
Os oes gennych bibell ddyfrio sy’n gysylltiedig â thap yn yr awyr agored, caewch y falf (a allai fod y tu fewn) a draenio’r tap a’r bibell. Bydd hyn yn atal difrod iddynt.
Gall tapiau sy’n diferu gynyddu’r risg o bibellau’n rhewi. Bydd atal y tap rhag diferu’n arbed litrau o ddŵr pob dydd hefyd, gan arbed ynni ac arian ar eich bil dŵr.
Lle oer problemus dau: Pibellau mewn mannau heb eu gwresogi, fel yr atig, y garej neu gypyrddau’r gegin.
Eto, mae hi’n bwysig eich bod chi’n lapio pibellau sydd mewn ardaloedd heb wres â deunydd inswleiddio neu becyn lagio.
Os oes gennych fesurydd dŵr ar y wal y tu allan i’ch cartref, sicrhewch fod y pibellau sy’n arwain i mewn ac allan ohono wedi eu hinswleiddio, ac nad oes bylchau rhyngddynt. Cofiwch sicrhau bod cist y mesurydd wedi ei phacio â deunydd inswleiddio a bod y drws ar gau yn dynn.
Dylech sicrhau eich bod chi’n gwybod ymhle mae’ch stoptap, a sicrhau ei fod yn gweithio hefyd. Bydd angen i chi fod yn gallu cyrraedd ato’n gyflym a gwybod sut i’w gau os bydd y gwaethaf yn digwydd.
Lle oer problemus tri: Adeiladau sy’n wag am ychydig ddiwrnodau, fel busnesau, ysgolion neu ail gartrefi.
Mae adeiladu gwag mewn mwy o berygl na’r lleill. Os ydych chi’n gadael eich cartref neu’ch busnes, caewch eich stoptap a draeniwch y system fel nad oes unrhyw ddŵr yn y system i rewi. Os ydych chi’n bwriadu bod oddi cartref am gyfnod byr, cadwch eich gwres ar lefel isel os oes modd er mwyn helpu i gadw eich cartref neu’ch busnes yn gynnes, ac atal y pibellau rhag rhewi.
A chofiwch am eich teulu, eich ffrindiau a’ch cymdogion hefyd. Efallai y bydd angen cymorth llaw arnynt i baratoi – a gallai fod yn syniad da trefnu’ch bod chi’n cadw llygad ar eich cartrefi’ch gilydd os ydych chi’n bwriadu mynd i ffwrdd.
Wyddech chi?
Bydd ein timau’n gweithio 24/7 er mwyn cadw pethau’n llifo. Boed rhew, llifogydd, eira neu eirlaw; beth bynnag a ddaw, mae ein timau’n barod i gynorthwyo ein cwsmeriaid a chadw eu dŵr yn llifo dros y gaeaf.
Dyma ambell i esiampl o sut mae timau ar draws Dŵr Cymru wedi bod yn paratoi.
- Mae ein tîm gwasanaethau dŵr wedi bod yn uwchraddio ein storfeydd o ddŵr potel ac yn sicrhau bod gennym ddigon o boteli i gynorthwyo cwsmeriaid os bydd tywydd eithafol yn achosi problemau annisgwyl gyda chyflenwadau.
- Mae ein tîm Cartref wedi bod yn brysur yn anfon pecynnau lagio am ddim at gwsmeriaid i’w cynorthwyo i baratoi eu cartrefi am y Nadolig ac osgoi byrst mewn pibellau os bydd hi’n rhewi.
- Mae ein tîm cymorth i gwsmeriaid yn cynorthwyo cwsmeriaid â’u biliau dŵr os yw’r cynnydd mewn costau byw yn achosi trafferthion iddynt, ynghyd â’r cwsmeriaid bregus hynny sydd angen ychydig bach yn fwy o help.
- Mae gan ein tîm colledion i fyny’r llif gerbydau 4x4 wrth law fel y gallant ymateb i ddigwyddiadau o ollyngiadau ar draws ein cymunedau, boed law neu hindda.
Sicrhewch fod eich cartref a’ch busnes chi’n barod am y gaeaf eleni.
Am ragor o gyngor a fideos i’ch tywys, neu i archebu pecyn lagio, ewch i gaeaf barod