O Hyfforddai i Reoli – Gyrfa sy’n llifo yn Dŵr Cymru


21 Ebrill 2023

Dechreuais weithio i Dŵr Cymru yn 1991 fel hyfforddai Cynllun Hyfforddi Ieuenctid (YTS) yn 16 oed. Roedd fy 2 flynedd gyntaf yn y busnes yn cynnwys cael profiad ar draws Gwasanaethau Dŵr gan weithio gyda’r tîm Cynhyrchu Dŵr yn y Gwaith Trin Dŵr (GTD) a gyda tîm dosbarthu dŵr gan weithio i atgyweirio pibellau dŵr.

Yn dilyn hyn cefais swydd llawn amser gyda Dŵr Cymru yn gweithio gyda’r tîm Cynhyrchu Dŵr yng ngwaith Trin Dŵr Bryn Cowlyd, Dolgarrog yn gweithio gyda asedau dŵr yn ardal Conwy fel Gweithiwr Cynhyrchu am 16 mlynedd. Symudais wedyn i rolau uwch yn Arweinydd Tîm a Goruchwyliwr Gweithredol o fewn tîm Cynhyrchu Gogledd Ddwyrain Cymru.

Er mwyn ennill mwy o brofiad a defnyddio fy sgiliau gweithredol gweithiais gyda’r tîm Asedau Dŵr am 3 blynedd gan weithio ar raglen fawr i uwchraddio nifer o weithfeydd trin dŵr ar draws Gogledd Cymru yn AMP5 ar brosiect o’r enw Go to Green. Unwaith y cwblhawyd y prosiect, dychwelais at y tîm Cynhyrchu Dŵr ar ddechrau AMP6 i rôl Rheolwr Cynhyrchu Dŵr y Gogledd Ddwyrain o 2015 hyd at heddiw.

Roeddwn yn ymwneud yn helaeth â dylunio a chomisiynu gwaith trin dŵr Bryn Cowlyd, a oedd yn fuddsoddiad enfawr AMP6. Am 18 mis gweithiais fel Rheolwr Chynhyrchu Dŵr ar gyfer Gogledd Cymru i gyd , gydag ardaloedd Gogledd Orllewin a Dwyrain yn adrodd i un Rheolwr Cynhyrchu ac i ddatblygu strwythur rheoli Gogledd i gefnogi prosiectau a darparu gwasanaeth ar draws y 25 gwaith trin dŵr yn y Gogledd.

O 2022 ymlaen, rwyf wedi dychwelyd yn ôl i Reolwr Cynhyrchu’r Gogledd Ddwyrain ac arweinydd Cynllun DWR ar gyfer Cynhyrchu Dŵr.

Ar Fedi 9fed 2022, dathlais 31 mlynedd yn y busnes.