Storm Darragh

Wedi’i ddiweddaru: 22:00 11 December 2024

Mae ein gwasanaethau yn parhau i gael eu heffeithio gan faterion cyflenwad pŵer a allai arwain at ymyrraeth i gyflenwadau dŵr neu bwysau isel i rai cwsmeriaid, yn bennaf mewn ardaloedd gwledig. Mae ein timau'n gweithio'n galed i gynnal cyflenwadau ac yn gweithio'n agos gyda'r holl asiantaethau eraill - gan gynnwys y cwmnïau ynni - i adfer yr holl gyflenwadau yn ddiogel ac mor gyflym â phosibl.

Ewch i Yn Eich Ardal am ragor o wybodaeth.

Ceisiadau i Raddedigion yn agor heddiw!


3 Hydref 2022

Rydyn ni’n chwilio am unigolion brwd, uchelgeisiol a dawnus i ymuno â’n Rhaglenni Graddedigion yn 2023.

Os ydych chi am ehangu eich dealltwriaeth am y diwydiant dŵr, ac ymuno â chwmni nid-er-elw sy’n ail-fuddsoddi pob un geiniog y mae’n eu gwneud yn y gymuned, Dŵr Cymru yw’r lle i chi.

Yn Dŵr Cymru, rydyn ni’n cadw tair miliwn o bobl yn iach trwy ddarparu cyflenwadau diogel a dibynadwy o ddŵr yfed ar eu cyfer cyn cludo unrhyw ddŵr gwastraff i ffwrdd i’w lanhau, ac yn cyflawni’r broses eto drosodd a thro - 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Mae ein cynlluniau i raddedigion sy’n symud yn gyflym yn cynnig amgylchedd dysgu difyr ac ymestynnol i’ch helpu chi i ddatblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch profiad i gael cychwyn cadarn yn eich gyrfa.

O’r diwrnod cyntaf un, byddwch chi’n aelod o dîm hanfodol bwysig sy’n darparu gwasanaeth angenrheidiol ar gyfer ein cwsmeriaid.

Ac i ddiolch i chi am eich ymroddiad, eich angerdd a’ch penderfyniad, cewch gyflog cystadleuol a’r sicrwydd o ddiogelu swydd ar ddiwedd y rhaglen ddwy flynedd o hyd.

Nodweddion allweddol ein rhaglen:

  • Lleoliadau chwe mis a rhaglen o hyfforddiant strwythuredig
  • Y cyfle i ddatblygu eich gallu technegol
  • Cyfleoedd helaeth am hyfforddiant technegol, cyrsiau allanol a hyfforddiant mewn swydd
  • Cyfleoedd i ddysgu gan arbenigwyr trwy weithio ar brosiectau allweddol
  • Cymorth mentora
  • Y potensial i ennill rôl dechnegol allweddol yn y busnes ar ôl cwblhau’r rhaglen

Pa rolau sydd ar gael?

Y Rhaglen Dechnegol

Nod y Rhaglen Datblygu Technegol yw cynyddu eich gallu technegol, a bydd yn caniatáu i chi lwyddo i ennill rôl dechnegol allweddol yn y busnes ar ôl cwblhau’r rhaglen i raddedigion.

Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o raglenni datblygu technegol, gan gynnwys Peirianneg Sifil, Peirianneg Trydan, Peirianneg Rheoli, Gwyddorau Data, Peirianneg Data, Economeg a Rheoleiddio Ariannol. Cyfeiriwch at y cyfleoedd isod i weld y swyddi sydd ar gael.

Y cyfle: Cyfalaf Dŵr – Peirianneg Sifil
Lleoliad: Y de
 

Y cyfle: Biosolidau Gwastraff
Lleoliad: Y de

Y cyfle: Gwasanaethau Technoleg Integredig
Lleoliad: Y de
 

Y cyfle: Peirianneg Data
Lleoliad: Y de

Cewch fanylion llawn am y rhaglenni sydd ar gael a sut i wneud cais drwy ymweld â'r wefan.