Mae ceisiadau i'n rhaglenni i raddedigion yn agor heddiw!
18 Hydref 2021
Rydyn ni'n chwilio am unigolion arloesol, penderfynol, uchelgeisiol a dawnus i ymuno â'n Rhaglenni i Raddedigion ar gyfer 2022.
Os ydych am ymuno â chwmni nid-er-elw sy'n ail-fuddsoddi pob un geiniog y mae'n ei wneud yn y cymunedau y mae'n eu gwasanaethu, Dŵr Cymru Welsh Water yw'r lle i chi.
Mae ein rhaglen yn symud yn gyflym, sy'n golygu nad oes unrhyw ddau ddiwrnod yr un fath, a bydd yn cynnig amgylchedd diogel ond ymestynnol i chi ddatblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau, a'ch profiad.
Yn gyfnewid am eich penderfyniad, eich angerdd, a'ch dyfalbarhad, byddwn ni'n talu cyflog cystadleuol ac yn gwarantu swydd i chi ar ddiwedd y rhaglen.
Pa rolau sydd ar gael?
Rhaglen Datblygu Graddedigion Rheoli
O'ch diwrnod cyntaf un, byddwch chi'n cyfrannu at fentrau a fydd yn cyfoethogi'ch galluoedd rheoli. Byddwn ni'n rhoi cyfle i chi ddatblygu a llwyddo, ac rydyn ni am i chi wneud y mwyaf o’r cyfle.
Dyma rai o nodweddion allweddol ein rhaglen y gallwch edrych ymlaen atynt:
- Lleoliadau chwe-misol
- Rhaglen o hyfforddiant strwythuredig sy’n cynnwys datblygu prosiectau a rheolaeth
- Cymorth mentora gan y tîm Gweithredol
- Cyfleoedd i rwydweithio a datblygu
Y cyfle: Mae pedair swydd ar gael; dwy ym maes dŵr glân a dwy ym maes dŵr gwastraff
Lleoliad: Lleoliadau ar draws Cymru
I wneud cais am ein rhaglen rheoli i raddedigion, byddwch wedi cael, neu byddwch yn disgwyl cael gradd 2:1 neu'n uwch mewn pwnc STEM (sy'n cynnwys Mathemateg, y Gwyddorau Amgylcheddol neu Naturiol, Dadansoddi Data neu Beirianneg – gan gynnwys Peirianneg Sifil, Peirianneg Prosesau neu Ddylunio Sifil neu Biblinellau).
Rhaglen Datblygu Graddedigion Technegol
Nod y Rhaglen Datblygu Technegol yw cynyddu eich sgiliau technegol, a bydd yn caniatáu i chi gychwyn mewn rôl dechnegol allweddol o fewn y busnes ar ôl cwblhau’r rhaglen.
Rydyn ni'n cynnig amrywiaeth o raglenni datblygu technegol, gan gynnwys Peirianneg Sifil, Peirianneg Drydanol, Peirianneg Rheoli, Gwyddorau Data, Peirianneg Data, Economeg a Rheoleiddio Ariannol. Cyfeiriwch at y cyfleoedd isod i weld y swyddi sydd ar gael.
Dyma rai o nodweddion allweddol ein rhaglen y gallwch edrych ymlaen atynt:
- Cyfle i gynyddu'ch sgiliau technegol trwy gydol dwy flynedd ein rhaglen
- Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant technegol helaeth, cyrsiau allanol a hyfforddiant yn y swydd
- Cyfleoedd i ddysgu gan arbenigwyr trwy weithio ar brosiectau allweddol
- Y potensial i gychwyn mewn rôl dechnegol allweddol o fewn y busnes ar ôl cwblhau'r rhaglen
Y cyfle: Tair swydd Peirianneg Sifil
Lleoliad: De, Gorllewin neu Ogledd-ddwyrain Cymru
I wneud cais am ein rhaglen Peirianneg Sifil, byddwch wedi cael, neu byddwch yn disgwyl cael gradd 2:1 neu'n uwch mewn pwnc STEM (sy'n cynnwys Mathemateg, y Gwyddorau Amgylcheddol neu Naturiol, Dadansoddi Data, neu Beirianneg – gan gynnwys Peirianneg Sifil, Peirianneg Prosesau a Dylunio Sifil neu Biblinellau).
Y cyfle: Mae dwy swydd ar gael ar ein rhaglen AI
Lleoliad: Caerdydd
I wneud cais am ein rhaglen rheoli i raddedigion, byddwch wedi cael, neu byddwch yn disgwyl cael gradd 2:1 neu'n uwch mewn Mathemateg, Ystadegau, Ymchwil Gweithredol, TGCh, Cyfrifiadureg, Cyfrifiadura, Deallusrwydd Artiffisial yn ogystal neu gyrsiau â modiwlau fel Dadansoddeg neu Ystadegau (e.e. Seicoleg, y Gwyddorau Cymdeithasol).
Mae Dŵr Cymru Welsh Water yn cadw 3 miliwn o bobl yn iach bob dydd trwy ddarparu dŵr diogel a dibynadwy ar eu cyfer a chymryd eu dŵr gwastraff i ffwrdd i'w lanhau, cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i'n hafonydd a'n moroedd prydferth.
Er mwyn darparu gwasanaethau hanfodol o safon uchel sy'n helpu i amddiffyn iechyd ein cwsmeriaid, ein cydweithwyr a'n hamgylchedd, mae angen y bobl iawn arnom ni i gyflawni ein gweledigaeth.
Rydyn ni'n gwybod taw'r timau mwyaf amrywiol yw’r timau mwyaf llwyddiannus. Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant sydd wrth wraidd ein diwylliant yn Dŵr Cymru.
Er mwyn sicrhau gwell cyfranogaeth ymysg ein gweithlu, rydyn ni'n croesawu'n benodol geisiadau gan grwpiau lleiafrifol gan gynnwys pobl Dduon, pobl Asiaidd a phobl o Leiafrifoedd Ethnig, menywod, pobl LGBT+, pobl anneuaidd a phobl ag anableddau. Gyda'n gilydd, rydyn ni'n parhau i feithrin gweithlu sy'n dathlu lleisiau amrywiol ein cydweithwyr ac sy'n cynrychioli pob cwsmer a wasanaethwn.