Y Rhaglen Graddedigion – cyfle olaf i ymgeisio
16 Tachwedd 2021
Yn galw ar fyfyrwyr! Mae ein cynllun graddedigion cystadleuol wedi agor am geisiadau – ond mae amser yn mynd yn brin i fod yn rhan o garfan 2022. Rydyn ni'n chwilio am raddedigion uchelgeisiol i ymuno â'n Rhaglenni Graddedigion:
Datblygu Rheolwyr: cewch y cyfle i gyfrannu at fentrau sy'n cyfoethogi eich sgiliau rheoli. Gyda chyfleoedd ym meysydd dŵr a dŵr gwastraff, cewch gymorth mentora gan ein tîm gweithredol, a chyfleoedd i rwydweithio â chydweithwyr ar draws y busnes.
Rhaglen Datblygu Technegol: gyda chyfleoedd ym meysydd Deallusrwydd Artiffisial a Pheirianneg Sifil ledled Cymru, bydd y rhaglen yn eich cynorthwyo i wella eich sgiliau technegol, ac yn darparu hyfforddiant helaeth i chi wrth i chi ddysgu gan arbenigwyr wrth eich gwaith, a chael cyfle i weithio ar brosiectau allweddol.
Dilynwch y linciau hyn i ddechrau’ch cais:
Datblygu Rheolwyr
Datblygu Technegol, Deallusrwydd Artiffisial
Datblygu Technegol, Peirianneg Sifil
R'yn ni wir yn credu bod ein rhaglenni o safon ryngwladol – ond peidiwch â derbyn ein gair ni. Dyma beth oedd gan rai o'n graddedigion i'w ddweud…
Ahmed:"Os wyt ti'n awyddus i weithio mewn swydd lle nad yw dau ddiwrnod byth yr un fath, a bod gen ti'r brwdfrydedd i weithio gydag aelodau medrus a chefnogol o dîm sy'n darparu gwasanaethau dibynadwy ar gyfer cwsmeriaid; yna dyma'r lle i ti. YMGEISIA HEDDIW!”
Cameron: "Rwy'n gweithio ar y rhaglen Data ar hyn o bryd, yn gweithio yn y tîm BI. Rwy'n teimlo'n gyffyrddus wrth siarad ag unrhyw un yn y cwmni, dim ots pa mor uchel yw eu swydd, ac rydw i wedi ffeindio fy hun yn gweithio ar brosiectau bendigedig".
Bethan: "Mae'r cynllun graddedigion wedi rhoi cyfle i mi gwrdd â phobl o bob rhan o'r busnes, ac mae hynny wedi caniatáu i mi greu darlun o sut mae'r holl dimau'n gweithio gyda'i gilydd i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid o ran dŵr. A hefyd, mae gan y cwmni ddiwylliant arbennig!!"
Harri: "Mae fy wythnosau cyntaf yn DCWW wedi bod yn wych. Mae pawb dwi wedi cwrdd â nhw wedi bod yn wresog ac yn groesawgar. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at chwarae mwy o ran yn yr amrywiaeth o brosiectau sy'n digwydd ar draws ITS.
Jasmine:"Rydw i wedi cael dechrau ffantastig i'r rhaglen graddedigion, ac eisoes wedi cwrdd â llawer o bobl gyfeillgar a chael cyngor y byddaf i'n gallu ei ddefnyddio trwy gydol fy ngyrfa gyda Dŵr Cymru. Mae'r cynllun graddedigion eisoes wedi cynnig llwyth o gyfleoedd i mi o fewn y busnes ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at wneud gwahaniaeth!”
Rhys:"Mae fy mhrofiad ar ddwy flynedd y cynllun wedi bod yn bleser pur, gyda digonedd o sialensiau a chyfleoedd yn yr amryw o leoliadau rydw i wedi eu cyflawni ar draws y busnes i gyd – bydden i wir yn argymell ymgeisio.”
Lowri: “Mae fy mhrofiad wedi darparu llu o gyfleoedd, sialensiau a gwybodaeth i mi am y sector, sydd wedi ehangu fy mhersbectif o Ddŵr Cymru ac wedi agor drysau ar bob math o gyfleoedd.”