Storm Darragh

Wedi’i ddiweddaru: 22:00 11 December 2024

Mae ein gwasanaethau yn parhau i gael eu heffeithio gan faterion cyflenwad pŵer a allai arwain at ymyrraeth i gyflenwadau dŵr neu bwysau isel i rai cwsmeriaid, yn bennaf mewn ardaloedd gwledig. Mae ein timau'n gweithio'n galed i gynnal cyflenwadau ac yn gweithio'n agos gyda'r holl asiantaethau eraill - gan gynnwys y cwmnïau ynni - i adfer yr holl gyflenwadau yn ddiogel ac mor gyflym â phosibl.

Ewch i Yn Eich Ardal am ragor o wybodaeth.

Yma i chi: Stori Kim


14 Ionawr 2022

Yma yn Dŵr Cymru, rydyn ni'n deall fod ar rai o'n cwsmeriaid angen ychydig bach o gymorth ychwanegol o bryd i'w gilydd.

Nawr yn fwy nag erioed, rydyn ni'n ymwybodol iawn bod llawer o bobl yn wynebu sialensiau ariannol a phersonol sy’n gwneud bywyd ychydig bach yn anodd. Felly, rydyn ni'n cymryd yr amser i'ch cyflwyno chi i rai o'n cydweithwyr yn Dŵr Cymru sydd yma i helpu.

Mae ein Cynghorydd Cymorth Arbenigol yn rhedwr pellter hir ac yn Gristion ymroddgar. Mae ganddi 2 ferch brydferth ac mae'n fam-gu i 8. Mae helpu yn enaid Kim; aeth i Sikkim yn nhroedfryniau mynyddoedd yr Himalaya un tro i gynnig cymorth i'r bobl leol ar ôl i'r ardal ddioddef daeargryn erchyll.

Sut gall Kim eich helpu chi

Rwy'n rhan o'r tîm cymorth arbenigol lle'r ydyn ni'n gweithio i ddatrys problemau ar gyfer cwsmeriaid sy'n wynebu anawsterau, a sialensiau ariannol yn arbennig. Mae’r rôl yn gallu cael effaith wirioneddol gadarnhaol ar bobl, am y gallwn ni gynnig tariffau a chynlluniau iddynt sydd naill ai'n clirio neu'n lleihau eu dyledion ac yn gwneud eu biliau'n fwy fforddiadwy.

Mae llawer o'r cwsmeriaid rwy'n siarad â nhw bob dydd yn dioddef naill ai'n gorfforol, yn feddyliol, neu'r ddau. Mae hi'n aml yn rhyddhad mawr iddynt glywed y gall Dŵr Cymru eu helpu nhw, a deall ein bod ni am eu helpu nhw hefyd.

Testun balchder i Kim

Unwaith fe reolais i achos lletchwith i gwsmer oedd â dŵr yn gollwng yn ei eiddo, ond nid oedd yn gwybod ymhle. Roedd y sefyllfa'n arbennig o anodd am fod pibellwaith y cwsmer yn rhedeg trwy gae mawr ac i mewn i erddi ei gymdogion. Mae gollyngiadau fel hyn yn gallu gwastraffu dŵr ac achosi biliau uwch, felly roedd hi'n bwysig iawn ein bod ni'n datrys y broblem. Ar ben hynny, roedd y cwsmer wedi cael strôc yn ddiweddar, roedd e'n derbyn budd-daliadau ac yn fregus dros ben, felly roedd y gollyngiad yma'n achosi straen a phryder diangen iddo.

Fe gysylltais i â'r cyrff perthnasol, ffeindiwyd y gollyngiad a chafodd ei drwsio'n llwyddiannus. Roedd y cwsmer yn hynod ddiolchgar ar bob cam o’r ffordd, ac roedd e'n gymaint o ryddhad iddo ein bod ni wedi cymryd perchnogaeth dros y broblem a'n bod yn gallu ei gynorthwyo.

Fe enillais i wobr Rhagoriaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid Dŵr Cymru yn 2020. Mae hi mor galonogol ennill cydnabyddiaeth a chael eich gwobrwyo pan rydych chi'n ceisio gwneud eich gorau glas ac yn mynd gam ymhellach yn fwriadol i gynorthwyo pobl. Rwy'n gwneud hyn bob dydd, nid dim ond am ei bod hi'n rhan o fy swydd, ond am ei bod hi'n rhoi teimlad o foddhad a balchder i mi allu helpu ein cwsmeriaid.

Pam fod Kim eisiau helpu

Mae Dŵr Cymru wir yn poeni am ein cwsmeriaid mwyaf bregus. Mae hi'n hanfodol bod â llawer o amynedd a dull diragfarn o weithredu, yn ogystal â bod yn gallu gwrando ac uniaethu â'r problemau y mae pobl yn eu hwynebu. Rwy'n berson sydd am ofalu am bobl - yn enwedig y bobl sydd ar y cyrion neu efallai sy'n methu â chyfleu beth y mae arnynt angen cyngor ag ef.

Mae Dŵr Cymru'n arbennig, nid dim ond wrth ofalu am les eu cwsmeriaid, ond eu cydweithwyr hefyd. Rwy'n edmygu'r dull o weithredu ar sail Amrywiaeth a Chynhwysiant y mae Dŵr Cymru'n ei ddilyn bob amser – rhywbeth rydw i, fel Cristion – yn elwa arno'n uniongyrchol.

Os oes arnoch angen cymorth ychwanegol gan Ddŵr Cymru unrhyw bryd, peidiwch â diodde'n dawel bach. Dim ots a ydych chi mewn trafferthion ariannol, yn dioddef o anhwylder meddygol, neu os oes gennych bryderon eraill am eich bil dŵr, cysylltwch – r'yn ni yma i chi.