Yma yn Dŵr Cymru, rydyn ni'n deall fod ar lawer o'n cwsmeriaid angen ychydig bach o gymorth ychwanegol o bryd i'w gilydd.
Nawr yn fwy nag erioed, rydyn ni'n ymwybodol iawn fod llawer o bobl yn wynebu sialensiau ariannol a phersonol a all fod yn gwneud bywyd ychydig bach yn anodd. Felly, rydyn ni'n cymryd yr amser i'ch cyflwyno i rai o gydweithwyr Dŵr Cymru sydd yma i helpu.
Mae Steven yn Gynghorydd Cwsmeriaid gyda'n Tîm Swyddfa Model. Mae e'n 47 oed, yn briod â 2 ferch, Katie & Amy, ac un wyres, Lili. Mae'n mwynhau treulio amser gyda'i deulu, cymdeithasu â ffrindiau a theithio o gwmpas y DU ac Ewrop yn ei garafán. Yn ogystal, mae'n "Angorwr" gyda thîm Gornestau Tynnu Rhaff Clwb Carafanau De Cymru - sef Pencampwyr Prydain ar hyn o bryd!
Sut y gall Steven eich helpu chi
Rwy'n aelod o dîm y ganolfan gysylltu, ac rwy'n treulio'r rhan fwyaf o fy niwrnod gwaith yn cymryd galwadau, yn helpu cwsmeriaid â thagfeydd ac â phroblemau eraill gyda'u cyflenwadau dŵr. Rwy'n cymryd galwadau am filiau hefyd, yn gweithio ar y wesgwrs ac yn delio â gohebiaeth ysgrifenedig.
Testun balchder i Steven
Mae helpu cwsmeriaid bob dydd yn rhoi teimlad o foddhad mawr i mi. Does yna ddim byd gwell na gorffen sifft gan wybod fy mod i a fy nghydweithwyr wedi mynd gam ymhellach i helpu cwsmeriaid sydd mewn angen gyda’n gwasanaethau.
Pam fod Steven eisiau helpu
Rwy'n un da am wrando, yn amyneddgar iawn ac yn mwynhau siarad â'n cwsmeriaid a'u cynorthwyo â'u hymholiadau. Rydw i wedi bod yn gweithio dros Ddŵr Cymru ers Awst 2019, ac mae hi'n gwmni rhagorol i weithio drosti. Dull y cwmni o weithredu bob tro yw rhoi'r cwsmer yn gyntaf, ac mae'n teimlo'n braf bod yn rhan o dîm sydd oll yn gweithio tua'r un nod. Mae aelodau fy nhîm, fy nghydweithwyr a'm rheolwyr oll yn bleser i weithio gyda nhw.
Os oes byth angen cymorth ychwanegol arnoch gan Ddŵr Cymru, peidiwch â diodde'n dawel bach. Os ydych chi'n wynebu trafferthion ariannol, os oes gennych anhwylder meddygol, neu unrhyw bryderon eraill am eich bil dŵr, cofiwch gysylltu – r'yn ni yma i chi.