Troi’r sbotolau ar wirfoddolwyr Amgueddfa Gweithfeydd Dŵr Henffordd
24 Mawrth 2023
Dŵr Cymru sy’n noddi Amgueddfa’r Gweithfeydd Dŵr yn Henffordd lle mae llawer o injans, pympiau a hen greiriau hanesyddol a ddefnyddiwyd i wasanaethu cwsmeriaid rhwng 1851 a chanol y 1900au. Bu llawer o’r rhain yn rhoddion i’r Amgueddfa gan Ddŵr Cymru.
Elusen gofrestredig yw’r Amgueddfa. Agorodd ym 1974 fel amgueddfa annibynnol ac mae’n cael ei rheoli a’i gweithredu’n llwyr gan wirfoddolwyr. Yr wythnos hon, rydyn ni’n troi’r sbotolau ar y timau sy’n gwneud Dŵr Cymru’n arbennig. Rydyn ni’n tynnu sylw at dîm arbennig iawn o wirfoddolwyr a chyn-wirfoddolwyr (sy’n cynnwys nifer o bobl oedd yn arfer gweithio dros Ddŵr Cymru) a enillodd Wobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol yn 2022 am eu cyfraniad at wasanaeth yr Amgueddfa dros y 46 mlynedd diwethaf.
Heddiw, rydyn ni’n siarad ag un o’r Ymddiriedolwyr, Richard Curtis, a fu’n Ysgrifennydd Cwmni Dŵr Cymru rhwng 1997 a 2012, ac yn gyn-Gyfarwyddwr gwirfoddol yr Amgueddfa ac yn Gadeirydd yr Ymddiriedolwyr.
Allwch chi ddweud rhagor wrthym ni am eich cysylltiad ag Amgueddfa’r Gweithfeydd Dŵr?
Ddes i’n gynrychiolydd Dŵr Cymru ar Gyngor Rheolwyr yr Amgueddfa yn 2007, a bues i yn y rôl yna nes i mi ymddeol yn 2012. Wedyn fues i’n Gyfarwyddwr gwirfoddol yr Amgueddfa a bues i’n Gadeirydd yr Ymddiriedolwyr rhwng 2016 a dechrau 2022.
Beth yw diwrnod cyffredin yn rôl gwirfoddolwr yn yr amgueddfa?
Mae yna gymaint o gyfleoedd i wirfoddolwyr yn yr Amgueddfa nad oes yna ddim y fath beth â diwrnod cyffredin. Mae gennym ni rolau gwirfoddoli ar gyfer peirianwyr, stiwardiaid, a lletygarwch ac arlwyaeth yn y ganolfan ymwelwyr a’r caffi. Mae yna bobl yn gwirfoddoli y tu ôl i’r llenni ym maes gweinyddiaeth, cyllid a marchnata digidol - a gellir gwneud llawer o’r gwaith yma oddi ar y safle.
Mae rhai gwirfoddolwyr yn treulio diwrnod cyfan gyda ni, eraill ond ychydig oriau. Rydyn ni’n gwerthfawrogi ac yn deall yr ymrwymiad a’r amser y gall pobl ei roi er mwyn sicrhau gweithrediad didrafferth yr Amgueddfa, felly rydyn ni’n hollol hyblyg o ran amser gwirfoddolwyr.
Beth gall ymwelwyr ei ddisgwyl yn yr amgueddfa?
Rydyn ni’n agor i’r cyhoedd bob dydd Mawrth rhwng 11am a 4pm, ac yn cynnig digwyddiadau dydd Sul Stêm yn ystod y flwyddyn hefyd.
Ar ddydd Mawrth gallwch fwynhau’r Parc Treftadaeth Dŵr ag ardal chwarae a dysgu ymarferol, ymweld â’n harddangosfa am yr Ail Ryfel Byd, a mwynhau ein caffi hyfryd ar y safle. Gallwch weld ein holl beiriannau, a bydd ein gwirfoddolwyr brwdfrydig a gwybodus yn rhoi amser i siarad â chi am yr arddangosfa o bympiau, injans a chreiriau. Mae yna lwybrau a gweithgareddau arbennig i’r plant, a chynigir mynediad am ddim i bobl o dan 16 oed.
Mae ein digwyddiadau Dydd Sul Stêm hyd yn oed yn fwy cyffrous, gan gynnig profiad dyfnach, gan fynd â chi nôl mewn hanes i Oes Fictoria. Bydd yr injans yn gweithio, a chewch weld, clywed ac arogli gorsaf bwmpio o Oes Fictoria wrth ei gwaith. Mae hi’n brofiad anhepgor.
Byddwn ni’n cynnal digwyddiad Dydd Sul Stêm cyntaf eleni'r penwythnos yma, 26 Mawrth (11am - 4pm). Bydd yna injans statig o Gymdeithas Gadwraeth Henffordd a’r Cylch i’w gweld ar gwrt blaen yr Amgueddfa, a bydd arddangosfa Ymddiriedolaeth Camlesi Sir Henffordd a Sir Gaerloyw yn ein canolfan ymwelwyr hefyd. Caiff ymwelwyr weld injan stêm ehangu triphlyg hynaf y DU sy’n dal i weithio, ac injans trawst, nwy a disel sy’n cwmpasu’r cyfnod rhwng y chwyldro diwydiannol a heddiw. Bydd ein peirianwyr gwirfoddol wrth law i rannu’r holl wybodaeth â chi. Ac i’n hymwelwyr iau bydd yna lwybr brogaod, llwybr diffodd tân a chwisiau stori dŵr. Mae yna lawer mwy hefyd am ddiwrnod i’w gofio i deuluoedd, ac mae’r holl wybodaeth ar ein gwefan.
Allwch chi esbonio pam fod yr amgueddfa hon mor bwysig i’r gwirfoddolwyr a’r gymuned leol?
Rydyn ni’n helpu i gynnal safle sy’n bwysig i dreftadaeth ddiwydiannol wrth gynorthwyo’r gymuned leol hefyd. Rydyn ni’n disgrifio Amgueddfa’r Gweithfeydd Dŵr fel ‘cymuned o wirfoddolwyr’ - a dyna’n union yw hi. Mae buddion gwirfoddoli o ran iechyd a llesiant yn hysbys iawn, ac mae’r rhain yn doreithiog yn yr Amgueddfa. Mae pobl yn dod yma ac yn gwneud ffrindiau newydd, yn dysgu sgiliau newydd ac yn cysylltu â’r gymuned leol, gan rannu eu gwybodaeth ac addysgu ein cymuned am hanes Dŵr.
Rydyn ni’n gweithio gyda Dŵr Cymru wrth ddarparu gwasanaeth addysg am ddim ar gyfer ysgolion Sir Henffordd. Rydyn ni’n chwarae rhan weithgar yng nghymuned Broomy Hill, gan gynnal digwyddiadau yn ein canolfan ymwelwyr. Mae gennym berthynas gadarn a chefnogol sy’n gweithio’r ddwy ffordd gyda’n cymdogion, Rheilffordd Fach Henffordd a Hinton FC, sef prif noddwyr ein Gwobr y Frenhines am Wirfoddoli.
Yn olaf, a oes gennych hoff beth yn yr amgueddfa?
Mae pob ymwelydd yn rhyfeddu at yr Injan Stêm Ehangu Triphlyg o 1895, sydd mor dal ag adeilad deulawr. Ond fy ffefryn personol i yw’r Injan Nwy Cenedlaethol o 1876 o Rosan ar Wy. Mae ei sŵn mor llyfn a rhythmig - rydyn ni’n aml yn dweud y dylem ei recordio a’i werthu i helpu pobl sy’n cael trafferth cysgu.
Mae rhagor o fanylion am Amgueddfa’r Gweithfeydd Dŵr ar gael trwy fynd i yma neu ar Facebook a Twitter: @WaterworkMuseum.
Os oes diddordeb gan unrhyw un wirfoddoli, neu i gael rhagor o fanylion am ein casgliad neu am ddigwyddiadau ac atyniadau’r dyfodol, gallant gysylltu â ni ar info@waterworksmuseum.org.uk