Sut i osgoi trychineb draenio ac amddiffyn ein hamgylchedd wrth wneud gwaith ar eich tŷ


24 Mawrth 2021

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni i gyd wedi gorfod treulio llawer mwy o amser gartref er mwyn helpu i gadw pawb yn ddiogel rhag y Coronafeirws. Mae gweithio gartref, cymdeithasu gartref, ymarfer corff gartref ac addysgu gartref wedi gwneud i lawer ohonom ni edrych ar ein hamgylchedd byw a chwestiynu a yw hi'n dal i fod yn addas at y pwrpas.

Ond os ydych chi wedi bod yn ailwampio’ch cartref â chegin, ystafell ymolchi neu hyd yn oed estyniad newydd, gallech chi fod yn llygru eich amgylchedd lleol heb yn wybod i chi.

Mae camgysylltiadau plymio a draenio'n broblem fawr i ni am eu bod nhw'n llygru afonydd a thraethau ar draws ein hardal weithredu. Os yw pibellau dŵr gwastraff neu garthffosiaeth yn cael eu cysylltu â draen dŵr wyneb yn hytrach na charthffos dŵr budr, gallai hynny achosi difrod i'r amgylchedd lleol, gan gynnwys bywyd gwyllt.

Example of correct drainage

Os yw peiriant golchi'n cael ei gam-gysylltu a'i ddefnyddio unwaith y dydd am flwyddyn gron, amcangyfrifir y bydd yn rhyddhau 18,250 litr o ddŵr gwastraff i'r amgylchedd lleol. Mae hynny'n ddigon i lenwi 1217 bwced o faint safonol.

Dywedodd Richard Davies, Rheolwr Carthffosiaeth Dŵr Cymru ar gyfer ardal Abertawe, y Gorllewin a Sir Henffordd: "Gall pob un ohonom chwarae ein rhan wrth amddiffyn yr amgylchedd er ein lles ni ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol trwy sicrhau nad oes camgysylltiadau yn ein cartrefi ein hunain, yn enwedig am fod perchnogion eiddo'n gyfrifol ân gywiro unrhyw gamgysylltiadau yn eu heiddo.

"Gallwch chi helpu i godi ymwybyddiaeth am y mater ar #DiwrnodCamgysylltiadauDraenioCenedlaethol (24 Mawrth) trwy rannu cynnwys @ConnectRightUK a'n cynnwys ni ein hunain ar y cyfryngau cymdeithasol."

Bad drainage pipe example

Mae cyngor a chymorth ar beth i'w wneud os ydych chi'n credu y gallai fod yna gamgysylltiad yn eich eiddo yma .

Os gwelwch chi gamgysylltiad posibl neu ddigwyddiad o lygredd wrth i chi fynd o gwmpas eich pethau, mae'n bwysig eich bod chi'n rhoi gwybod i ni fel y gallwn ymchwilio – cysylltwch ar 0800 0853968 neu trwy pollutionrisk@dwrcymru.com