Welsh water advises businesses on reopening v1

Sut i ailagor eich busnes yn ddiogel


30 Mawrth 2021

Wrth i gyfyngiadau'r llywodraeth ddechrau llacio, rydyn ni'n gwybod fod busnesau ar draws y wlad yn awyddus i ailagor a gwneud beth maen nhw'n ei wneud orau – sef gwasanaethu eu cwsmeriaid.

Wrth ailagor ar ddiwedd cyfnod estynedig fel hyn, bydd ar bob busnes angen eu cynlluniau eu hunain i baratoi ar gyfer agor eu safle, gan gynnwys archebu stoc newydd, sicrhau amserlenni glanhau manwl a pharatoi eu gweithwyr i ddychwelyd i'r gwaith.

Y gwanwyn yma, rydyn ni'n gofyn i fusnesau ychwanegu un peth arall at y rhestr: sef sicrhau bod eich dŵr yn ddiogel i'w ddefnyddio, ac nad oes bloc yn debygol o ddatblygu yn eich pibellau carthffosiaeth.

Os yw adeilad wedi bod yn segur, bydd y dŵr yn y system dŵr yfed wedi bod yn sefyll yn y pibellau. Mae hynny'n gallu cael effaith niweidiol ar ansawdd y dŵr yfed, ac mae'n gallu peryglu iechyd pobl.

Am fod busnesau wedi bod ar gau am gyfnod estynedig, mae'n bosibl y bydd gwastraff wedi cronni yn y draeniau a'r pibellau, ac nad yw'r cyfarpar sy'n atal braster, olew a saim rhag mynd i'r pibellau wedi cael eu glanhau ers amser, a gallai hynny achosi bloc.

Gyda hynny mewn golwg, mae hi'n bwysig cymryd rhai camau penodol cyn dechrau defnyddio'r adeilad eto. Mae yna bum cam i'w dilyn cyn ailagor i'r cyhoedd:

  1. Rhedwch yr holl dapiau yn yr adeilad neu ar y safle yn unigol (fflysio yw'r enw ar hyn), gan ddechrau gyda'r tap sydd agosaf at y fan lle mae'r cyflenwad dŵr yn dod i mewn i'r adeilad a symud yn systemataidd i'r rhai sydd pellaf i ffwrdd, nes bod y dŵr yn rhedeg yn glir ac yn teimlo'n oer.
  2. Gwagiwch y sestonau storio a'u hadlenwi â dŵr yn uniongyrchol o'r cyflenwad sy'n dod i mewn cyn fflysio'r tapiau.
  3. Sicrhewch fod unrhyw beiriannau (a chyfarpar sy'n gysylltiedig â'r cyflenwad dŵr fel offer chwistrellu) yn cael eu fflysio - yn unol â chanllawiau'r gweithgynhyrchwyr. Yn achos adeiladau mwy â phibellwaith mwy cymhleth, mae'n debygol y bydd angen i chi gyflawni gwaith fflysio mwy helaeth, a’u glanhau a'u diheintio wedyn.
  4. Glanhewch eich cyfarpar - cyn dechrau coginio, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n glanhau eich system rheoli saim yn drylwyr gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.
  5. Archwiliwch eich draeniau a gylïau eich sinc – os nad yw'r draeniau a'r sinciau wedi cael eu defnyddio ers amser, mae'n bosibl y byddant wedi sychu a bod gwastraff yn sownd ynddynt. Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw floc yn y gylïau a fflysiwch eich draeniau â dŵr. Gallech ddefnyddio hylif bio-ddosio neu hylif chwalu braster wrth baratoi i ailagor, ond ni ddylai hyn gymryd lle system rheoli saim pan fyddwch chi'n gweithredu eto.

Y gobaith yw y gall hyn fod yn ganllaw i'ch helpu chi i amddiffyn eich cyflenwad dŵr a'ch pibellau gwastraff. Fodd bynnag, os oes unrhyw gwestiynau gennych, mae rhagor o fanylion am y camau i'w cymryd, ac ambell i gwestiwn ac ateb cyffredin yma.