Sut i arbed arian ar eich bil dŵr busnes yn yr argyfwng costau byw


23 Mai 2023

Mae’n anodd darllen y newyddion heb ddod ar draws stori am yr argyfwng costau byw ar hyn o bryd a sut mae’n effeithio ar fywydau pobl. Sgil-effaith y mae llai o sôn amdano yw faint o effaith mae costau cynyddol popeth yn ei gael ar ein busnesau.

Wedi’r cyfan, pan fo gan bobl lai o incwm gwario i’w sbario, maen nhw’n dueddol o fynd ar wyliau’n llai, mynd i siopa’n llai ac yn cyfyngu ar faint o brydau bwyd allan maen nhw’n eu cael mewn bwytai a chaffis.

Cyn i chi sylweddoli hynny, mae busnesau lleol yn gweld llai o gwsmeriaid yn cerdded trwy eu drysau ac mae busnesau mwy yn gweld cytundebau’n cael eu canslo. Bydd sefydliadau ledled y wlad felly yn dioddef o ganlyniad, a llawer hefyd yn wynebu costau ynni a chadwyn gyflenwi cynyddol.

Heb sôn bod costau cynyddol gartref hefyd yn effeithio ar lawer o berchnogion busnesau a lles eu gweithwyr. Un ffordd y gallwch chi helpu’ch gweithwyr gyda’r costau cynyddol hyn yw rhannu ein cymorth â chostau byw gyda nhw gan fod nifer o ffyrdd y gallwn ni helpu aelwydydd i leihau eu bil dŵr.

Ond fel busnes, sut allwch chi arbed arian yn ystod yr argyfwng costau byw os ydych chi’n ceisio cyfrif y ceiniogau ar hyn o bryd? Efallai ei fod yn dipyn o syndod, ond gallai dŵr fod yn lle gwych i ddechrau. Oeddech chi’n gwybod bod busnes cyfartalog yn y DU yn defnyddio 30% yn fwy o ddŵr nag sydd ei angen arno?

Bydd defnyddio llai o ddŵr yn arbed arian i chi, gostwng eich ôl troed carbon, ac os ydych chi’n defnyddio llai o ddŵr mewn proses weithgynhyrchu sy’n cynhesu dŵr, bydd hefyd yn lleihau eich biliau ynni. Dyma beth allwch chi ei wneud i gadw biliau dŵr i lawr.

1. Chwilio am ollyngiadau

Deall sut ydych chi’n defnyddio dŵr ar hyn o bryd. Mae hyn yn rhoi llinell sylfaen defnydd dŵr i chi fesur eich busnes yn ei herbyn. Os yw hon yn dechrau codi’n sydyn yn annisgwyl, efallai fod gennych chi ollyngiad rywle yn eich pibellau.

Wyddoch chi nad yw dros 90% o ollyngiadau’n weladwy? Dyma rai camau syml i’w cymryd i’w nodi:

  • Os bydd eich swyddfa, eich ffatri neu’ch safle’n cau, dywedwch am 5pm, cymerwch ddarlleniad mesurydd bryd hynny, (os yw’n ddiogel i wneud hynny), ac un arall cyn ailagor y bore trannoeth. Yn wahanol i ynni, os yw’ch safle ar gau yn llwyr, ni ddylech chi fod yn defnyddio unrhyw ddŵr dros nos. Os yw’r deialau mesurydd wedi symud, yna fe allai fod gennych chi ollyngiad.
  • Darllenwch awgrymiadau eraill yma o ran sut i brofi am ollyngiad ar eich safle.

Os ydych chi’n amau bod gennych chi ollyngiad, cysylltwch â ni i weld sut allwn ni helpu.

2. Cymryd yr awenau gyda hunanasesiad effeithlonrwydd dŵr

Er gwaethaf sut yr ydych chi’n defnyddio dŵr ar eich safle, gall arolwg effeithlonrwydd dŵr eich helpu chi i nodi sut i leihau faint o ddŵr sy’n cael ei ddefnyddio.

Rydych chi’n fusnes bach, mae gennym ni ganllawiau hunanasesu am ddim yma y gallwch chi eu lawrlwytho a llenwi eich hun i’ch helpu chi i nodi lle gallwch chi arbed dŵr.

3. Defnyddio adnoddau effeithlon o ran dŵr

Gall dull mwy hirdymor, lle rydych chi’n chwilio’n benodol am ddefnydd dŵr isel ar gyfer unrhyw offer, ffitiadau neu brosesau newydd, helpu i leihau defnydd dŵr . Dewis arall yw sicrhau bod eich gweithwyr yn defnyddio gosodiadau effeithlon o ran dŵr ar unrhyw offer, yn enwedig os na fyddwch chi’n eu newid yn fuan.

Os ydych chi’n defnyddio pibelli dŵr confensiynol yn eich cwmni chi, ystyriwch ddefnyddio chwistrellu jet pwysedd uchel yn eu lle. Maen nhw’n defnyddio pwysedd yn lle llawer o ddŵr i lanhau.

4. Mesurydd dŵr

Os nad ydych chi ar fesurydd yn barod, oeddech chi’n gwybod eu bod nhw’n gallu eich helpu chi i olrhain eich defnydd er mwyn arbed dŵr ac arbed arian? Gwnewch gais yma am eich un chi.

5. Ei wneud yn rhan o’ch diwylliant

Er y bydd llawer o weithwyr eisoes yn defnyddio awgrymiadau arbed dŵr gartref, efallai na fyddan nhw’n gwybod sut i wneud yr un peth yn y gweithle.

Cyflwynwch wybodaeth am arbed dŵr, cynllun awgrymiadau gweithwyr neu trefnwch sesiwn effeithlonrwydd dŵr i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd defnyddio dŵr yn ddoeth. Mae hyd yn oed gennym ni rai posteri arbed dŵr y gallwch chi eu hargraffu a’u rhoi o amgylch eich adeilad.