Dathlu'r Gymraeg bob dydd yn Dŵr Cymru
4 Chwefror 2022
Heddiw yw Dydd Miwsig Cymru. Ac er nad ydym ni'n gwmni sy'n adnabyddus am ein cerddoriaeth, un peth rydyn ni'n angerddol yn ei gylch yw'r Gymraeg.
Rydych chi siŵr o fod wedi sylwi fod popeth rydyn ni’n ei gyhoeddi i'r cyhoedd yn Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg. Pam? Wel, fel cwmni sy'n gweithredu yng Nghymru'n bennaf, rydyn ni'n gwybod pa mor bwysig yw'r Gymraeg i'r bobl sy'n byw yma. Fel un o ieithoedd hynaf Ewrop, mae'n allweddol i ddiwylliant, hunaniaeth a thraddodiadau Cymru. Mae hi'n bwysig i ni hefyd bod ein cwsmeriaid yn cael yr opsiwn i gyfathrebu â ni yn iaith eu dewis. Dyna pam y gallwch siarad â'n cydweithwyr sy'n medru'r Gymraeg wrth ein ffonio ni, a darllen y wybodaeth yn Gymraeg neu sgwrsio'n fyw ag aelod o'n tîm wrth ymweld â’n gwefan.
Rydyn ni'n cynnig y cyfle i'n holl gydweithwyr ddysgu Cymraeg am ddim, gan gynnig cyrsiau ar lefel dechreuwyr, canolradd ac uwch bob blwyddyn. Yn ein sesiynau 'Coffi a Chlonc' fore Gwener, gall y rhai sy'n dysgu Cymraeg ymarfer trwy siarad â chydweithwyr sy'n siarad Cymraeg yn rhugl.
Mae Stephen Youell, Pennaeth Cynllunio Brys a Diogelwch Dŵr Cymru yn un o'r rhai sy'n dysgu Cymraeg yn ein dosbarth i ddechreuwyr: "Fe symudais i i Gymru ddiwedd 2020 ar ôl byw yn ne Lloegr trwy gydol fy mywyd. Doeddwn i erioed wedi siarad Cymraeg o'r blaen ac roeddwn i'n awyddus i ddysgu'r iaith am 2 reswm, y cyntaf oedd er mwyn gallu dweud enwau'r trefi, y pentrefi ac wrth gwrs ein safleoedd ni ein hunain yn gywir, a'r ail oedd y ffaith fod nifer o'n tîm yn siarad Cymraeg felly roedd hi'n bwysig i mi geisio cynnal sgwrs â nhw.
“Mae hi'n wych fod Dŵr Cymru'n cynnig gwersi Cymraeg i gydweithwyr, ac er bod y gwersi'n dipyn o her, mae'r sesiynau'n hwyl ac yn rhyngweithiol iawn. Am fod sawl aelod o'r tîm yn dilyn y gwersi, gallwn ymarfer gyda'n cydweithwyr sy’n rhugl yn yr iaith mewn cyfarfodydd tîm (ac maen nhw'n dweud ein bod ni'n gwella!)”
Ac nid dyna'r cyfan. Yn strategol fel cwmni mae'r Gymraeg yn bwysig iawn i ni. Rydyn ni'n falch bod tri o'n cydweithwyr gweithredol (sef y lefel uchaf o fewn ein cwmni) yn siaradwyr Cymraeg rhugl.
Yn wir, efallai nad ydych chi'n gwybod taw un o'n hamcanion ar gyfer y cyfnod buddsoddi hwn yw cynyddu nifer y siaradwyr sydd wedi cofrestru gyda ni i dderbyn gohebiaeth yn Gymraeg, ac mae ein rheoleiddwyr, Ofwat, wedi cymeradwyo’r amcan hwnnw. Credir taw hwn yw'r targed cyntaf o'i fath yn y sector preifat yng Nghymru, ac mae'n un rydym yn hynod o falch ohono.
Dywedodd Pete Perry, Prif Weithredwr Dŵr Cymru: "Fel cwmni sy'n gweithio yng Nghymru'n bennaf, mae'r Gymraeg yn bwysig dros ben i ni. Ond yn ogystal â hynny, fel cwmni nid-er-elw rydyn ni'n gosod ein cwsmeriaid wrth galon popeth a wnawn. Dyna pam, yn ogystal â buddsoddi mewn cyrsiau dysgu Cymraeg i'n cydweithwyr, ein bod wedi buddsoddi llawer o arian er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau a'n gohebiaeth ar gael yn Gymraeg i'r 3.1 miliwn o bobl a wasanaethwn yng Nghymru."
Os oes diddordeb gennych chi wrando ar ambell i gerddor Cymraeg, dyma linc i restrau chwarae Spotify lle gallwch ddarganfod artistiaid Cymraeg newydd: