Sut rydyn ni'n gweithio gyda phrifysgolion
3 Awst 2021
Yn ddiweddar, cadarnhawyd y bydd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd, Tony Harrington, yn parhau fel athro anrhydeddus yn Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd am 5 mlynedd pellach.
Fe siaradon ni â Tony am ei rôl a sut mae Dŵr Cymru'n gweithio gyda'r byd academaidd.
Beth mae eich rôl fel athro anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd yn ei olygu?
Rwy'n aelod o fwrdd Sefydliad Ymchwil Dŵr Prifysgol Caerdydd, ac yn cynghori ar sut i gynnal y sefydliad a blaenoriaethau ymchwil ac ati. Rwy'n chwarae rhan flaenllaw hefyd wrth ymgeisio am gyllid ar gyfer y brifysgol, er enghraifft gan Sefydliad Ymchwil y DU (UKRI), ac mae llawer o'r ceisiadau am gyllid yn cyd-fynd yn union â'n hanghenion ymchwil ni ein hunain.
Mae Sefydliad Ymchwil Dŵr Prifysgol Caerdydd yn gweithio mewn partneriaeth â phrifysgolion Caerfaddon, Bryste a Chaer-wysg yn bennaf yn rhan o Gynghrair Prifysgolion GW4. Gyda'i gilydd, adrannau dŵr y GW4 yw’r grŵp cryfaf o arbenigwyr dŵr rydw i'n gwybod amdanynt yn y DU. Mae'r GW4 wedi denu gwerth miliynau o gyllid ymchwil hyd yn hyn, ac mae'n cyflawni gwaith ymchwil â ffocws tynn ar y sector dŵr. Y peth y mae partneriaid diwydiannol fel fi'n ei ychwanegu at y brifysgol (rwy'n hoffi meddwl) yw ein bod ni'n gallu llywio'r gwaith ymchwil i fod â mwy o effaith ar y gymdeithas, a mwy o ddefnydd o ran ein busnes.
Rydyn ni'n elwa ar waith y GW4 ac yn cefnogi'r doethuriaethau y mae ein grŵp yn eu noddi, yn ogystal â phrosiectau ymchwil penodol sy'n aml yn ymwneud â'r amgylchedd naturiol yng Nghymru – ar bynciau fel creu cynefinoedd ac effaith amgylcheddol llygryddion.
Y gwir amdani yw bod gan waith GW4 y potensial i wneud gwir wahaniaeth i'n gwaith ni fel cwmni. Gallwn gael gwerth bendigedig i’n cwsmeriaid o'i waith ymchwil - sy'n cynnig gwerth gwell o lawer na phe baem ni'n comisiynu ein gwaith ymchwil ein hunain neu hyd yn oed gyda Chwmnïau Dŵr eraill. Gyda chydweithrediad cydweithwyr eraill yn y diwydiant dŵr a'n rheoleiddwyr, gallwn gyfuno ein hadnoddau er mwyn gwasgu pob un diferyn o werth o waith ymchwil y brifysgol.
Yn gyffredinol, sut mae Dŵr Cymru’n gweithio gyda phrifysgolion?
Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth. Nid oes gennym ni'r un fath o arbenigedd mewn meysydd arbenigol ag sydd gan y prifysgolion. Trwy eu gweld nhw fel partneriaid a gweithio gyda nhw, gallwn fanteisio ar eu harbenigedd a gallan nhw fanteisio ar ein harbenigedd a'n profiad ymarferol ni, fel y gellir hwyluso'r gwaith ymchwil i fod o ddefnydd go iawn - a dwysáu ei effaith trwy hynny. Trwy gydweithio, gallwn helpu ein gilydd i wneud y gwaith ymchwil yn fwy gwerthfawr, ac yn haws ei gymhwyso a'i droi'n wybodaeth ddefnyddiol - er enghraifft i fwydo polisïau newydd y llywodraeth, cynnyrch newydd neu dechnoleg y gall y gymdeithas ehangach fanteisio arni.
Pa brosiectau ymchwil prifysgol mae Dŵr Cymru wedi bod yn rhan ohonynt yn ddiweddar?
Dyma ambell un rydyn ni wedi bod yn gweithio arnynt:
- Prifysgolion Caerdydd a Bangor – yn 2020, fe gydweithion ni i fonitro Covid ym mhoblogaeth Cymru ar led
- Prifysgol Bangor – darogan risgiau o lifogydd ac ansawdd dŵr ar sail peryglon amgylcheddol cyfunol gan ddefnyddio data am lawiad
- Prifysgol Abertawe - gwaith ymchwil oedd yn edrych ar hyfywedd defnyddio Oson gronynnog wedi ei actifadu yn y fan a'r lle yn hytrach nag adfywiad thermol
Pa mor bwysig yw hi i Ddŵr Cymru ein bod ni'n gweithio gyda'r byd academaidd?
I mi mae'r gwaith yma'n hanfodol. Dwi ddim yn gweld sut y gallwn wireddu gweledigaeth ein cwmni heb fanteisio ar arbenigedd y byd academaidd. Mae Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol yn dweud yn glir iawn y dylem gyd-ddatblygu a chyd-gynhyrchu yng Nghymru, sef yr union beth rydym yn ei wneud gyda'r Prifysgolion. I bob pwrpas, mae'r Ddeddf yn gofyn ein bod ni'n gweithio mewn partneriaeth ag eraill fel y gall pawb ddod â'u cryfderau eu hunain at y bwrdd er mwyn i ni i gyd lewyrchu. Mae'r byd academaidd yn rhan annatod o'r economi gwybodaeth ac er mwyn defnyddio’r wybodaeth yna i fynd i’r afael â'r newid yn yr hinsawdd, colli bioamrywiaeth, a rhai o'r sialensiau cymdeithasol sy'n wynebu Cymru, bydd angen i ni fanteisio ar eu doniau nhw, ac iddyn nhw fanteisio ar ein rhai ni.