Sut rydyn ni'n ariannu prosiectau amgylcheddol cymunedol


11 Tachwedd 2021

Yn Dŵr Cymru, rydyn ni'n ein gweld ein hunain fel mwy na dim ond cwmni dŵr a charthffosiaeth. Amddiffyn a chyfoethogi'r amgylchedd sydd o'n cwmpas yw un o'n cyfrifoldebau pwysicaf.

Rydyn ni am fod wrth galon y cymunedau a wasanaethwn a chynnig cymorth iddynt. Un o'r nifer o ffyrdd rydym yn cynnig cymorth yw trwy ein Cronfa Gymunedol. Ers mis Ebrill, rydyn ni wedi dyfarnu £9000 i dros 20 o grwpiau a sefydliadau cymunedol i gynorthwyo prosiectau amgylcheddol arloesol.

Rhannodd rhai o'r bobl a dderbyniodd cyllid gennym eu straeon â ni gan ddweud sut y gwariwyd yr arian:

Ian Chriswick

Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Bro Dinefwr

''Rydyn ni wedi pennu'r nod o fod yn ysgol gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Ein nod yw cyflawni sero net cyn pen deng mlynedd trwy osod pwyntiau gwefru cerbydau trydan ym maes parcio'r ysgol, cynyddu nifer y paneli solar er ein toeau, a dargyfeirio unrhyw ynni sydd dros ben o'r tyrbin gwynt lleol.

‘'Yn ogystal â hyn, rydyn ni'n adeiladu ardal ddysgu awyr agored i hwyluso'r Cwricwlwm Newydd i Gymru a fydd yn ein galluogi i gyflawni prosiectau trawsgwricwlaidd ar y cyd â sefydliadau addysg uwch fel Prifysgol Abertawe a'r Ganolfan Technoleg Amgen. Bydd y bwyd sy'n cael ei dyfu yn ein gardd yn cael ei ddefnyddio mewn gwersi bwyd a maeth, gweithdai coginio cymunedol ac yn ein ffreutur ni ein hunain hefyd!

‘'Mae’r cyllid a ddyfarnwyd i ni gan Ddŵr Cymru wedi ein helpu ni i gyrraedd un cam yn nes at ein nod!’'

John Davies

Aelod o Gyngor Cymuned Trefesgob

'‘Mae Trefesgob yn gorwedd ar Wastadeddau Gwent, felly mae'n gartref i sawl rhywogaeth a chynefin bywyd gwyllt. Rydyn ni wrthi'n adfywio Pwll y Pentref a'r ardal o'i gwmpas a oedd wedi dadfeilio dros y blynyddoedd, am nad yw'r pwll yn dal dŵr dros fisoedd yr haf mwyach.

'‘Mae llawer o'r gwaith wedi cael ei gyflawni gan wirfoddolwyr Pentref Trefesgob gyda grantiau ariannol gan Gyngor Cymuned Trefesgob, Dŵr Cymru a Lefelau Byw. Mae'r ardal eisoes yn edrych yn hardd gyda blodau gwyllt, gwelyau blodau dyrchafedig a threlis, offer bwydo adar, planhigion peillio i'r gwenyn, tŷ chwilod ac ardal laswelltog i eistedd ynddi.

'‘Y cam nesaf yw gosod leinin yn y pwll sydd wedi cael ei ailadeiladu er mwyn cyfoethogi prydferthwch a bywyd gwyllt yr ardal. Ar ôl gosod y leinin, ein bwriad yw plannu prysgwydd a blodau gwyllt o amgylch perimedr y pwll.

'‘Mae'r ardal yn boblogaidd gyda thrigolion Pentref Trefesgob a gyda phobl o Ringland ac Underwood sy'n seiclo i'r gwaith. Mae'r ardal eistedd sydd yno'n le da i aros i orffwys.’’

Ruth Moss

Swyddog Monitro Bywyd Gwyllt Sir Henffordd gyda'r Ymddiriedolaeth Adfer Cefn Gwlad:

'‘Bydd yr Ymddiriedolaeth Adfer Cefn Gwlad yn ailblannu glannau nant Slough â phlanhigion dŵr brodorol diolch i grant o Gronfa Gymunedol Dŵr Cymru.

'‘Bydd y cyllid yma'n ein galluogi ni i adfer y lan â phlanhigion dyfrol brodorol a blodau gwyllt, ac yn darparu cynefinoedd a safleoedd bwydo pwysig ar gyfer ein peillwyr diwyd – a'u hysglyfaethwyr! Bydd hyn yn sefydlogi'r lan hefyd trwy atal erydiad y pridd.

''Cenhadaeth y CRT yw helpu i greu cefn gwlad byw a gweithredol, ac mae ailfywiogi'r ardal hon yn gam pwysig ar y siwrnai yna.’'

Cronfa Gymunedol

Mae ein Cronfa Gymunedol yn gyfle i gymunedau hybu ymdrechion i godi arian at achosion da yn eu hardal. Os ydych chi'n byw mewn ardal lle mae gwaith yn cael ei wneud – ac yn codi arian ar gyfer prosiectau er budd y gymuned – gallech gael gwerth £1,000 o gyllid gan Ddŵr Cymru.

Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru