Ein siwrnai trafnidiaeth: Sut rydyn ni'n gwneud ein faniau'n fwy amgylcheddol- gyfeillgar


18 Chwefror 2021

Mark Johnson, Pennaeth Trafnidiaeth a Masnachol

Os ydych chi'n byw yng Nghymru neu Sir Henffordd, mae'n ddigon posibl y byddwch wedi gweld un o'n faniau Dŵr Cymru'n ddiweddar. Ond oeddech chi'n gwybod bod y fan yna'n un o dros 1250 o gerbydau sy'n teithio ar draws ein hardal weithredol bob dydd er mwyn cadw’ch dŵr yn rhedeg a chludo’ch dŵr gwastraff i ffwrdd? 

Faniau Transit clasurol yw 1100 o'r rhain, ac rydych chi wedi gweld y rhain o'r blaen. Ond mae cerbydau mwy arbenigol gennym hefyd... gan gynnwys 75 fan chwistrellu carthffosydd â thanciau pwysedd uchel i ddadflocio carthffosydd a 75 o gerbydau nwyddau trymion sy'n cael eu defnyddio fel tanceri i gludo dŵr a dŵr gwastraff. 

Maen nhw'n cael eu defnyddio gan ein timau rheoli cyfleusterau i ofalu am ein hadeiladau, ein darllenwyr mesuryddion i ddarllen eich mesuryddion dŵr, ein tîm cyfathrebu i gynnal sesiynau holi ac ateb mewn cymunedau lleol, ein tîm gweithrediadau i archwilio carthffosydd gan ddefnyddio camerâu CCTV, tîm y labordy i gludo samplau dŵr a thimau ein canolfannau ymwelwyr i roi pysgod yn nŵr y cronfeydd. Mae pob cerbyd yn wahanol, a dyna pam fod ein fflyd mor arbennig. 

Hyd yn oed â fflyd mor arbenigol, wrth fesur tebyg wrth debyg, mae ein hallyriannau CO2 wedi gostwng tua 20% ers 2010. Sut ydyn ni wedi gwneud hyn? Wel, ymdrech tîm yw hi a dweud y gwir, ond dyma rhai o'r prif strategaethau a ddefnyddiwyd i gyrraedd y pwynt yma:

  • Mae ein faniau'n ysgafnach nag o'r blaen – mae'r cyfarpar storio yn y faniau a'r offer arall sydd ynddynt 50% yn ysgafnach nag yr oedd yn 2009
  • Rydyn ni'n sicrhau bod ein fflyd yn cael ei gynnal i safonau uchel, gan gynnwys disodli cydrannau fel hidlyddion aer fel bod yr injan yn perfformio cystal â phosibl
  • Mae'r rhan fwyaf o'n cerbydau'n defnyddio technoleg stopio/dechrau er mwyn lleihau'r defnydd o danwydd a’r allyriannau
  • Ac fel bonws pellach i'n cydweithwyr, rydyn ni wedi gosod systemau gwefru trydan ym meysydd parcio llawer o safleoedd Dŵr Cymru er mwyn annog i'n 3500 aelod o staff ddefnyddio ceir trydan 

Ond nid dim ond mater o leihau'r ôl-troed carbon yna yn unig mohoni. Ond mater o gadw ein cydweithwyr a'r cymunedau lle'r ydyn ni'n gweithio’n ddiogel hefyd. Mae rhai o'r offer a ddefnyddiwn yn gwneud y ddau beth yma: mae'r rhan fwyaf o'n cerbydau wedi eu cyfyngu i 70mya ac yn rhoi negeseuon dangosfwrdd i sicrhau eu bod yn cael eu gyrru’n ddiogel ac mewn ffordd amgylcheddol-gyfeillgar.

Er ein bod ni wedi cymryd camau breision dros y degawd diwethaf, mae yna le i wella o hyd, ac rydyn ni'n meddwl yn barhaus am ffyrdd newydd o leihau ein hôl-troed carbon. Y mis diwethaf, er enghraifft, lansiwyd ein dangosfwrdd trafnidiaeth, sy'n caniatáu i bob un o'n timau gadw llygad agosach ar wariant eu cerbydau ar danwydd a'u hallyriannau CO2. 

Wrth gwrs, mae gennym ni un llygad yn edrych tua’r dyfodol o ran lleihau ein hôl-troed carbon. Pwy a ŵyr pa dechnoleg y byddwn ni'n ei defnyddio ymhen deng mlynedd i gyrraedd y nod!