Sut rydyn ni'n defnyddio paneli solar i bweru ein faniau


9 Tachwedd 2021

O ran yr amgylchedd, r'yn ni'n gwybod bod pob un newid bach yn bwysig a’u bod, dros amser, yn adio i greu newidiadau mwy o lawer.

Mae ein fflyd yn amrywiol, ond mae un math o gerbyd – ein faniau CCTV carthffosiaeth – yn arbenigol iawn. Maent wedi eu dylunio i gynnal y camerâu sy'n mynd i lawr trwy'r draeniau i archwilio cyflwr y pibellau. Roedd cyfarpar y cerbydau hyn yn arfer cael ei bweru gan wrthdroydd, oedd yn cael ei bweru trwy redeg injan y cerbyd. Fel y gallwch ei ddychmygu, nid yw rhedeg yr injan pryd bynnag rydych chi am ddefnyddio'r offer yn ddelfrydol, am ei fod yn creu llygredd awyr a sŵn i'r trigolion lleol.

A dyna lle ddaeth Daryll Rushton, un o'n gweithredwyr CCTV yn Ninbych i mewn. Ar ôl cael ei ysbrydoli gan grŵp Facebook i bobl oedd yn adeiladu eu cerbydau gwersylla eu hunain, cafodd y syniad bendigedig o roi paneli solar ar ein faniau CCTV er mwyn pweru’r cyfarpar. Wedi'r cyfan, mae llawer o bobl sy'n berchen ar gerbydau gwersylla'n defnyddio paneli solar ar ben eu faniau i bweru tegell ac offer trydan arall. Tybed a allai hyn weithio ar ein cerbydau CCTV ni?

Ar ôl trafod y syniad gyda'i reolwr, aeth y ddau ymlaen i gyflwyno’r syniad i'n tîm trafnidiaeth, oedd wrth eu boddau arno. Aeth y tîm trafnidiaeth ati'n gyflym, gan gysylltu â nifer o gwmnïau trydydd parti mewn ymdrech i ganfod a fyddai modd cyflawni hyn. Y sialens oedd dod o hyd i banel solar ysgafn a fyddai'n cynhyrchu digon o bŵer ac a fyddai'n gytûn â'r offer yn y cerbydau.

Diolch i waith caled ein tîm trafnidiaeth, cyn pen pedair wythnos ar ôl i Daryll gyflwyno'r syniad, roedd y peth wedi dod yn wirionedd. Erbyn hyn, mae’r paneli'n cael eu cyflwyno ar draws yr holl gerbydau CCTV o fewn ein hardal weithredol. Nawr gall ein gweithredwyr, fel Daryll, barcio eu cerbydau'n dawel heb unrhyw lygredd o allyriannau na sŵn, am y dylai'r ynni solar hwyluso diwrnod llawn o waith heb fod angen cynnau'r injan.

Dyma esiampl wych o sut mae syniadau arloesol yn aml yn dod o'r tîm ei hun. Diolch i'n tîm trafnidiaeth am eu gwaith caled y tu ôl i'r llenni i wireddu’r syniad, ac i Daryll am feddwl am y syniad yn y lle cyntaf. Does dim amheuaeth y bydd digonedd o syniadau ysbrydoledig i ddod eto – pwy a ŵyr beth fydd ein cydweithwyr yn ei ddyfeisio dros y deng mlynedd nesaf!