Sylw i'n Gweithwyr... Adam Jones, Technegydd Rheoliadau Dŵr


17 Chwefror 2022

Rydyn ni'n rhoi sylw i unigolion ar draws Dŵr Cymru sy'n gwneud ein timau ni'n arbennig. Yr wythnos hon rydyn ni'n siarad ag Adam, sy'n gweithio yn ein tîm rheoliadau dŵr, i glywed rhagor am y gwaith y mae ei dîm yn ei gyflawni eleni.

Dwed ychydig bach wrthym ni am dy rôl yn Dŵr Cymru?

Technegydd ydw i yn y tîm Rheoliadau Dŵr. Fel tîm rydyn ni'n gyfrifol am amddiffyn ein cyflenwad dŵr rhag halogiad. Mae dwy ran i'n tîm; ar y naill law mae gennym ni'r ochr dechnegol, lle'r ydw i, sy'n fwy o swyddogaeth 'swyddfa gefn', ac ar y llall mae gennym ni'r swyddogion rheoleiddio dŵr, sef y 'bŵts ar lawr gwlad'.

Un rhan o fy rôl i yw tynnu sylw cwsmeriaid at Reoliadau Cyflenwi Dŵr (Ffitiadau Dŵr) 1999 a'r gofyniad cyfreithiol i gwsmeriaid gydymffurfio â'r rheoliadau hyn. Pwrpas y rheoliadau yw atal y dŵr a gyflenwn ar gyfer ein cwsmeriaid rhag cael ei wastraffu, ei gamddefnyddio, ei ddefnyddio'n ddiangen, ei fesur yn wallus ac yn bwysicach na dim, ei halogi. Ond dyw hi ddim mor ddychrynllyd ag y mae hi'n swnio, am fod y rheoliadau hyn yn bodoli er mwyn amddiffyn ein dŵr a chadw cyflenwadau'r cwsmer yn ddiogel!

Mae'r rheoliadau'n berthnasol i'r holl safleoedd a gyflenwn. Fodd bynnag, mae gennym ffocws penodol ar y gosodiadau hynny sy'n peri'r risg mwyaf i'n rhwydwaith a'n cwsmeriaid. Mae'r rhain yn cynnwys eiddo yn y sector gofal iechyd fel ysbytai a chartrefi gofal, a'r rhai yn y sectorau amaeth, diwydiannol a gweithgynhyrchu hefyd!

Er enghraifft, os yw ysbyty'n bwriadu ymestyn neu newid ei gyflenwad, mae angen i ni sicrhau bod dyluniad y gosodiad newydd yn cydymffurfio â'r rheoliadau. Fy rôl i fyddai cysylltu â'r ysbyty i dynnu eu sylw at y gofynion cyn iddynt ddechrau unrhyw waith addasu. Beth rydyn ni wedi sylwi yw nad yw’r cwsmeriaid yn ymwybodol o'r rheoliadau bob tro, a gallent ddechrau adeiladu estyniad nad yw’n cydymffurfio â'r gyfraith. Felly fy ngwaith i yw sicrhau bod ganddyn nhw'r holl wybodaeth adeg dylunio fel y gall y broses adeiladu fod mor ddidrafferth â phosibl.

Ar ôl cwblhau'r gwaith, byddwn i'n trefnu bod Swyddog Rheoliadau Dŵr yn archwilio'r gwaith ac yn rhoi sêl bendith iddo.

Beth sy'n digwydd mewn diwrnod cyffredin yn dy rôl?

Y peth rwy'n ei garu am fy ngwaith yw'r ffaith nad oes byth dau ddiwrnod yr un fath. Mae'r rheoliadau dŵr yn berthnasol i bob safle sy'n derbyn cyflenwadau gennym, felly un diwrnod gallwn i fod yn gweithio gydag ysgol leol, a'r diwrnod canlynol, gallwn i fod mewn safle gweithgynhyrchu mawr. Rydw i wedi rhoi cyflwyniadau i gwmnïau er mwyn tynnu sylw at ein gofynion hefyd. Hyd yn hyn, rydw i wedi rhoi 55 o gyflwyniadau i wahanol sefydliadau, gan gynnwys y GIG ac Awdurdodau Lleol, i'w cynorthwyo i ddeall y rheoliadau a beth y gallent ei olygu ar gyfer unrhyw brosiectau dylunio newydd neu estyniadau sydd ganddynt ar y gweill.

Y llynedd, bues i'n rhan o'r tîm fu'n gweithio gydag adeiladau dros dro'r ysbytai COVID-19 ar draws Cymru.

Yn bwysicach na dim, os oes cwestiynau neu bryderon gan unrhyw un o'n cwsmeriaid, fy rôl i yw sicrhau eu bod nhw'n gwybod ein bod ni yma i helpu. Os oes problem y mae angen ei datrys wrth i ni alw i gyflawni archwiliad, byddem yn helpu i argymell plymwr WaterSafe i gywiro'r broblem.

Elli di ddweud rhagor wrthym am pam ein bod ni'n gweithio gyda phlymwyr WaterSafe?

Yn fyr, er mwyn i blymwr ymuno â'r cynllun WaterSafe, rhaid iddynt fodloni tri maen prawf: rhaid iddynt fod â chymhwyster plymio priodol, rhaid iddynt fod â lefelau digonol o yswiriant i gyflawni'r gwaith, a rhaid iddynt fod â chymhwyster yn y rheoliadau dŵr. Mae'r tri pheth yma gyda'i gilydd yn rhoi tawelwch meddwl i'n cwsmeriaid eu bod nhw'n defnyddio plymwr medrus.

Mae Dŵr Cymru'n cynnig cwrs hyfforddiant undydd i blymwyr cymwys ennill cymhwyster yn Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ffitiadau Dŵr) 1999, a hynny'n hollol rad ac am ddim.

Un o'r prif rwystrau a wynebwn wrth hyrwyddo WaterSafe yw bod angen i blymwyr dalu am eu hyfforddiant rheoliadau dŵr eu hunain, sy'n gallu costio dros £200! Felly rydyn ni wedi datblygu ein cwrs ein hunain, sydd wedi cael ei ardystio gan y Diwydiant Dŵr ar led, ac rydyn ni wedi bod yn cynnig y cwrs i blymwyr cymwys am ddim.

Hyd yn hyn, rydyn ni wedi cyflwyno'r hyfforddiant yma i dros 25 o ymgeiswyr mewn pum sesiwn, ac mae 18 arall wedi cofrestru ar gyfer sesiynau yn y dyfodol.

Rydyn ni am i gynifer o blymwyr cymwys â phosibl ymuno â WaterSafe, felly os oes diddordeb gennych chi, cofrestrwch eich diddordeb yn yr hyfforddiant gan ddefnyddio'r cod QR isod neu ddilyn y linc yma.

Yn olaf, wrth i ni edrych ymlaen at y gwanwyn a mwy o heulwen (gobeithio!) – beth wyt ti'n edrych ymlaen ato'r mwyaf?

Mae cwpwl o ddigwyddiadau a gwyliau gen ar y gweill dros y misoedd nesaf, felly os bydd cyfyngiadau Covid yn caniatáu, rwy'n edrych ymlaen at y rheiny!