Yma i chi – Stori Andrew


19 Ebrill 2022

Rydyn ni'n rhoi sylw i'r unigolion ar draws Dŵr Cymru sy'n gwneud ein timau mor arbennig. Yr wythnos hon rydyn ni'n siarad ag Andrew, sy'n gweithio yn ein tîm Cartref, i glywed rhagor am y gwaith y mae ei dîm yn ei gyflawni eleni.

Dwed ychydig bach wrthym ni am dy rôl yn Dŵr Cymru?

Fe ymunais i â Dŵr Cymru bedair blynedd yn ôl yn y tîm mesuryddion, lle'r oeddwn i'n gyfrifol am osod mesuryddion yng nghartrefi cwsmeriaid. Symudais i i'r tîm Cartref ym mis Medi 2020, lle'r ydw i'n blymwr erbyn hyn.

Trwy weithio yn y tîm Cartref, rwy'n helpu cwsmeriaid ar draws y wlad y ddefnyddio dŵr yn fwy effeithlon trwy gynnig cymorth a chyngor ar ffyrdd y gallant arbed dŵr yn eu cartrefi. Un o brif elfennau fy rôl yw trwsio gollyngiadau mewn cartrefi, gan ganolbwyntio ar dai bach sy'n gollwng.

Mae tŷ bach sy'n gollwng yn gallu bod yn broblematig i gwsmeriaid, oherwydd mae’n golygu eu bod nhw'n fflysio arian yn syth i lawr y draen. Does dim llawer o bobl yn gwybod hyn, ond mae tŷ bach sy'n gollwng yn gallu gwastraffu cymaint â 200 litr o ddŵr y dydd – weithiau llawer mwy na hynny. Rydw i wedi gweld mwy na 600 litr/awr yn cael eu gwastraffu trwy un tŷ bach yn gollwng – mewn hanner blwyddyn, gallai'r un tŷ bach yna fod wedi llenwi pwll nofio maint Olympaidd!

Beth yw diwrnod arferol i ti?

Mae diwrnod arferol i mi'n dechrau gyda sgwrs gyda'n Swyddogion Datrys ar ran Cwsmeriaid sy'n gyfrifol am drefnu apwyntiadau datrys gollyngiadau ar gyfer ein cydweithwyr.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r tîm Cartref wedi dechrau defnyddio system ceisiadau fideo i'w gwneud hi'n haws fyth i'n cwsmeriaid drefnu apwyntiad. Y cyfan y mae angen i gwsmer ei wneud yw anfon fideo byr o'r broblem atom ni fel y gallwn ni adolygu'r sefyllfa o bell cyn trefnu'r camau nesaf.

Mae'r Swyddogion Datrys ar ran Cwsmeriaid a fi'n adolygu'r fideo o'n system, wedyn gallaf i benderfynu ar y ffordd orau o fynd ati cyn pob ymweliad.

Rwy'n mynd allan wedyn i gyflawni'r apwyntiadau yma, gan arolygu'r broblem a thrwsio'r gollyngiadau lle bo modd. Os oes angen ymyrraeth bellach, gallaf i gynnig cyngor iddynt a'u cyfeirio at wasanaethau eraill er mwyn sicrhau bod y broblem yn cael ei datrys cyn gynted â phosibl.

Yn ystod fy ymweliad â chartref cwsmer, gallaf i gyflawni archwiliadau eraill i ffeindio gollyngiadau a gosod cynnyrch arbed dŵr am ddim, fel pennau cawod sy'n effeithlon o ran ynni, neu aeryddion ar dapiau i helpu cwsmeriaid i arbed cymaint o ddŵr â phosibl.

Rydw i wir yn mwynhau rhyngweithio â chwsmeriaid a'u cynorthwyo i ddeall eu defnydd o ddŵr, a sut y gall hynny effeithio ar eu biliau. Nid yw llawer o'n cwsmeriaid yn sylweddoli faint o ddŵr maen nhw'n ei ddefnyddio a faint y gellid ei arbed trwy driciau ac awgrymiadau syml.

Pam wyt ti'n credu bod gwaith Cartref mor bwysig?

Mae arbed dŵr yn bwysicach nawr nac erioed, a gyda biliau ynni'n cynyddu, mae hi'n hanfodol ein bod ni'n gallu helpu ein cwsmeriaid i arbed lle bo modd. Mae galw plymwr yn gallu bod yn broses ddrud sy'n cymryd amser, yn arbennig os nad ydych chi'n siŵr beth yw'r broblem, felly braf yw gwybod fy mod i'n gallu helpu cwsmeriaid trwy'r rhaglen Cartref – a bod y cyfan am ddim.

Yn ogystal â helpu cwsmeriaid yn eu cartrefi, rydyn ni am helpu busnesau ac ysgolion hefyd lle gallwn ni.

Roeddwn i'n arbennig o hapus gyda chanlyniadau ein hymweliadau ag ysgolion yr haf diwethaf –mewn un diwrnod fe lwyddais i arbed dros 2,000 litr/awr i Ysgol St Cyres ym Mhenarth trwy wneud ambell i newid bach i'w tai bach.

Hyd yn hyn, mae tîm Cartref wedi cyflawni dros 1,000 o apwyntiadau datrys gollyngiadau mewn cartrefi, a 52 awdit mewn ysgolion a chanolfannau cymuned yn ein hardaloedd gweithredu. Rydyn ni wedi dosbarthu dros 20,000 o declynnau arbed dŵr sy'n hawdd eu gosod hefyd – ac nid dyna'i diwedd hi.

Dros y flwyddyn nesaf, byddwn ni'n ehangu ein cynllun gollyngiadau i bob cwsmer ar draws y wlad, felly i gael rhagor o fanylion, clicwch yma.