Sylw i’n pobl... Callum Evans


4 Mai 2022

Rydyn ni'n rhoi sylw i'r unigolion ar draws Dŵr Cymru sy'n gwneud ein timau mor arbennig. Yr wythnos hon, byddwn ni'n siarad â Callum, sy'n gweithio fe Gweithredwr Carthffosiaeth yn ardal Caerdydd a'r Fro.

A elli di roi darlun o dy rôl yn Dŵr Cymru i ni?

Rwy'n gweithio fel Gweithredwr Carthffosiaeth ym maes Rhwydweithiau Dŵr Gwastraff. Mae fy ngwaith i’n ymatebol yn bennaf, sy'n golygu mynd allan i achosion lle mae cwsmeriaid wedi riportio bod problem gyda'r systemau dŵr gwastraff yn eu heiddo. Mae hynny'n gallu golygu unrhyw beth o broblem drewdod i floc sy’n achosi llifogydd allanol - neu mewn sefyllfaoedd mwy difrifol, llifogydd mewnol, neu lygredd mewn cyrsiau dŵr.

Beth sy'n digwydd mewn diwrnod cyffredin yn dy rôl?

Nid yw diwrnod cyffredin fel Gweithredwr Carthffosiaeth byth yn ddiflas. Am ein bod ni'n gweithio mewn ffordd ymatebol i’r problemau y mae ein cwsmeriaid yn eu riportio i ni, dydyn ni ddim yn gwybod pa sefyllfa fydd yn ein hwynebu nes i ni gyrraedd.

Fel arfer, mae'r diwrnod yn dechrau wrth gyrraedd eiddo'r cwsmer a siarad â'r cwsmer mewn ymdrech i ddeall beth yw'r broblem.

Pan fydd yr holl wybodaeth gen i, fy nhasg i yw dod o hyd i'r bloc trwy ddefnyddio fy offer camera i ffeindio’r broblem, a chanfod beth sydd wedi ei achosi. Pan fyddaf i'n gwybod ble mae'r broblem, gallaf i fynd ati i ystyried y ffordd orau o'i chlirio. Mae gen i sawl teclyn yn y bocs i wneud hyn, gan gynnwys rhodenni – sef polion metel hir â chap sugno ar y pen, offer chwistrellu – sef pibell ddŵr sy'n cysylltu â'r fan gan wthio dŵr allan dan bwysedd uchel, a dyfais o'r enw cist carthffos, sef blwch metel bach â thyllau sy'n caniatáu i ddŵr lifo drwyddo ac sy’n gysylltiedig â rhoden i ddal y gwahanol eitemau sydd wedi achosi'r bloc.

Yn anffodus, yn y mwyafrif o achosion gallai fod wedi bod yn rhwydd osgoi'r bloc, a bron bob tro mae’r bloc wedi digwydd am fod pobl yn fflysio pethau na ddylen nhw. Y prif bethau rwy'n eu gweld drosodd a thro yw weips, ffyn gwlân cotwm, nwyddau mislif, a braster, olew a saim. Mae'r holl eitemau sy'n dod o'r ystafell ymolchi’n cynnwys plastig, sy'n golygu eu bod nhw'n wydn dros ben ac nad ydyn nhw'n dadelfennu mewn dŵr.

Maen nhw felly'n ffurfio tomenni braster yn ein carthffosydd – sef tomenni mawr o wastraff, weips, braster ac olew coginio sy'n cronni gan flocio'r pibellau.

Pan fo'r garthffos wedi ei blocio, mae'n gallu achosi pob math o ddiflastod ac anghyfleustra, yn enwedig os yw'r bloc yn cyfyngu ar allu’r trigolion i ddefnyddio'u cyfleusterau neu os oes carthffosiaeth yn llifo i'w gerddi, neu'n waeth byth – i'w cartrefi.

Fy ngwaith i yw siarad â'r cwsmer a rhoi gwybod iddyn nhw beth sydd wedi digwydd a pham, a sut y gallant osgoi bloc tebyg yn y dyfodol.

Ymhlith y pethau eraill sy’n gallu achosi bloc mae croniad o laid a cherrig, neu mewn ambell i achos, tir sydd wedi symud neu bibellau sydd wedi dymchwel.

Wyt ti'n gallu rhoi esiampl o ddarn o waith cofiadwy rwyt ti wedi gweithio arno'n ddiweddar?

Mae gan bob job ei sialensiau ei hun. Gall fod yn unrhyw beth o broblemau mynediad sy'n golygu ei bod hi'n anodd iawn dod o hyd i'r bloc, i floc mawr styfnig lle mae angen llawer o ddŵr ac amynedd i'w glirio.

Un uchafbwynt arbennig i mi oedd job ddiweddar i glirio bloc oedd wedi cael ei achosi gan weips, oedd wedi cronni i ffurfio talp anferth. Rhoddodd y cwsmer alwad i ni i ddweud nad oedden nhw'n gallu fflysio'u cyfleusterau, a'u bod nhw'n credu bod bloc yn y system.

Fe dreuliais i bedair awr yn clirio'r bloc yn raddol gan ddefnyddio'r gist carthffos i ddal y weips a'u tynnu o'r bibell. Roedd y domen o weips a dynnais i'n anghredadwy.

Dangoswyd y domen o weips a dynnwyd o'r garthffos i bawb oedd yn gysylltiedig â'r bibell er mwyn helpu i'w haddysgu am effaith fflysio pethau anaddas.

Roedd hi'n sioc ofnadwy i'n cwsmeriaid weld effeithiau eu gweithredoedd a'r difrod a achoswyd yn eu cymdogaeth, a gwnaethant addewid i fflysio dim ond y tri P o hynny ymlaen. Mae hi'n bwysig bod ein cwsmeriaid ni'n deall y problemau mae fflysio eitemau amhriodol yn gallu eu hachosi, a'r dinistr y mae'n ei greu mewn cartrefi, cymunedau lleol a'r amgylchedd.

Cefais i foddhad mawr o wybod fy mod i wedi chwarae rhan wrth helpu i addysgu'r cwsmeriaid hyn am effeithiau fflysio weips a sbarduno newid yn eu hymddygiad.

Beth yw dy hoff beth am y rôl?

Fy hoff beth am y rôl yw nad oes byth dwy job yr un fath. Bob dydd mae yna sialens newydd i'w goresgyn a rhywbeth newydd i'w dysgu. Rwy'n mwynhau gweld gwên ar wyneb y cwsmer ar ôl i mi gwblhau'r gwaith hefyd - mae'n gwneud cyfan yn werth chweil.

Yn olaf, gyda'r haf yn nesáu – beth wyt ti'n edrych ymlaen ati?

Mae gen i ambell i daith ar y gweill gyda'r teulu dros yr haf ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y rheiny. Ac rwy'n dathlu fy mhen-blwydd yn 30 eleni hefyd, sy'n gyffrous.