Sylw i'n Gweithwyr... Dionne Ide


14 Hydref 2021

Mis Hanes Pobl Dduon yw mis Hydref ac yma yn Dŵr Cymru, rydyn ni'n croesawu siaradwyr gwadd arbennig, yn clywed gan aelodau o'n cymuned BAME+ ein hunain, ac yn dysgu rhagor am sut y gallwn ni i gyd daclo rhagfarn ddiarwybod yn y gweithle.

Ac er ei bod hi'n bwysig dathlu'r mis yma, mae amrywiaeth a chynhwysiant yn rhywbeth rydyn ni'n angerddol yn ei gylch gydol y flwyddyn. Croeso i'r ail yn ein cyfres o flogiau 'Sylw i'n Gweithwyr' lle'r ydyn ni'n cyflwyno rhai o'n cydweithwyr BAME+ sy'n gweithio y tu ôl i'r llenni i helpu i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol ar eich cyfer 365 diwrnod o'r flwyddyn.

Dyma Dionne!

"Heia, Dionne ydw i a dwi'n gweithio yn y ganolfan gysylltu am filiau. Fe ymunais i â'r cwmni ar ôl colli fy swydd flaenorol yn sgil effeithiau Covid 19 ac rydw i wedi bod yn gweithio gyda Dŵr Cymru ers ychydig dros flwyddyn erbyn hyn.

"Y ganolfan gysylltu yw'r fan lle mae'r rhan fwyaf o gwsmeriaid yn troi’n gyntaf os ydyn nhw am drafod eu cyfrifon â ni. Mae ffocws mawr ar gwsmeriaid yn y rôl ac mae'n golygu siarad â llawer o wahanol gwsmeriaid Dŵr Cymru – sy’n cynnwys unigolion neu fusnesau, felly mae llawer o amrywiaeth.

"Mae rhai galwadau'n gallu bod yn anodd. Er enghraifft, efallai bod angen i mi siarad â chwsmer sy'n fregus neu sy'n wynebu anawsterau ariannol. Mater o sicrhau'r canlyniadau gorau ar gyfer ein cwsmeriaid yw hi, felly mae mynd at wraidd anghenion penodol y cwsmer yn ystod yr alwad yn rhan bwysig o'r swydd fel y gallwn gynnig atebion a dod o hyd i'r ffordd orau o'u cynorthwyo nhw.

“Mae hyn yn aml yn golygu cydweithio'n agos â thimau eraill ar draws y busnes, felly mae'n bwysig iawn bod â dealltwriaeth dda o'r holl wahanol adrannau a beth maen nhw'n ei wneud. Mae'r wybodaeth yna'n golygu y gallaf gyfeirio galwadau at adrannau eraill sy'n gallu darparu'r cymorth penodol sydd ei angen ar y cwsmer yn gyflym.

“Mae fy ngwaith yn gallu rhoi boddhad mawr i mi. Mae'n rhoi boddhad arbennig i mi os ydw i'n gallu dod o hyd i ateb sy'n helpu cwsmer. Ac wrth gwrs, mae hi'n braf pan fyddan nhw'n rhoi'r amser i ddiolch i mi hefyd! Rydw i wedi cael adborth bendigedig hyd yn hyn, ac mae'n hyfryd clywed eich bod chi wedi gallu helpu rhywun a gwneud gwahaniaeth go iawn iddyn nhw.

“Rwy'n mwynhau gweithio gyda fy nhîm ac rwy'n edrych ymlaen at ein cyfarfodydd tîm bob wythnos. Er bod llawer ohonom ni'n gweithio o bell, rydyn ni'n dal i ffeindio'r amser i ddod at ein gilydd a rhannu ein profiadau o ddydd i ddydd. Mae'n golygu ein bod ni'n cael cyfle i'n helpu ein gilydd ac i gynnig atebion i'r gwahanol sialensiau sy’n codi. Mae yna deimlad o agosatrwydd sy'n gysur mawr. Fel tîm, rydyn ni'n gefn da i'n gilydd ac yn ceisio helpu ein gilydd bob tro pan fo pethau'n anodd!"

"Rydyn ni'n gweithio'n galed dros ben i sicrhau ein bod ni'n gwneud y peth iawn ar gyfer ein cwsmeriaid bob tro, a bod y ganolfan gysylltu'n cyflawni ei dargedau. Nid ar chwarae bach mae gwneud hyn – yn wir, mae'n gallu bod yn ddigon o her am ei fod yn gofyn am gyflymdra a chywirdeb yn ogystal â sgiliau rheoli amser rhagorol ac ymroddiad. Ond rydw i wir yn mwynhau'r amrywiaeth sy'n dod yn sgil fy rôl – yn sicr, does byth diwrnod diflas wrth weithio yn Dŵr Cymru!"