Sylw i'n Gweithwyr… Mark Buckmaster
21 Hydref 2021
Mae Dŵr Cymru'n falch o gyflogi amrywiaeth eang o unigolion, a'r Mis Hanes Pobl Dduon yma, rydyn ni'n bachu ar y cyfle i gyflwyno rhai ohonynt i chi. Wedi'r cyfan, mae amrywiaeth a chynhwysiant yn allweddol i lwyddiant unrhyw gwmni.
Croeso i'r trydydd flog yn ein cyfres 'Sylw i'n Gweithwyr' lle'r ydyn ni'n eich cyflwyno i rai o'n cydweithwyr o'r gymuned BAME+ sy'n helpu i gadw ein gwasanaethau'n rhedeg.
Dyma Mark!
Mark Buckmaster ydw i, Pennaeth y Gweithlu Modern yn y tîm Gwasanaethau Technoleg Integredig yma yn Dŵr Cymru. Mae'n deitl ffansi sy'n golygu i bob pwrpas fy mod i'n gyfrifol am sicrhau fod gan bawb sy'n gweithio yma'r dyfeisiau a'r offer cywir i wneud eu gwaith wrth wasanaethu ein cwsmeriaid mor effeithiol ac effeithlon â phosibl.
Fi hefyd sy'n gyfrifol am gyflwyno technoleg sy'n caniatáu ar gyfer mwy o awtomeiddio yn ein prosesau a'n polisïau fel eu bod mor gyflym a didrafferth â phosibl, ac am sicrhau bod ein systemau a'n hatebion technolegol yn "integredig" (sy’n golygu, yn ei hanfod, bod technoleg pawb yn gweithio bob tro heb i neb sylwi na gorfod meddwl am y peth!) Mae fy rôl yma'n hanfodol oherwydd dim ots beth yw eich rôl yma yn Dŵr Cymru, os nad yw'ch dyfeisiau, eich cyfarpar neu'ch systemau'n gweithio'n iawn, gall hynny effeithio ar gwsmeriaid.
Mae gen i'r fraint o arwain tîm bendigedig sy'n broffesiynol ac sydd wedi ymrwymo i fynd gam ymhellach i gyflawni'r gwaith bob tro. Mae'r tîm yn gwneud cymaint o waith y tu ôl i'r llenni i gadw pethau'n rhedeg yn ddidrafferth. Ni oedd yn gyfrifol am gyflwyno Microsoft Teams i'r cwmni mewn ymateb i'r pandemig Covid 19, gan ganiatáu i lawer ohonom ni newid i weithio o bell. Efallai ein bod ni wedi gwneud i'r cyfan edrych yn hawdd - ond doedd hi ddim!
Mae'r pandemig yn golygu ein bod ni'n dal i fynd trwy lawer o newid trawsnewidiol yma yn yr adran ITS. Rwy'n siŵr y byddaf i a'r tîm yn wynebu rhai o'n sialensiau mwyaf hyd yn hyn dros y blynyddoedd a'r misoedd sydd i ddod - ond rydyn ni'n benderfynol o godi i'r her.
Rydw i wedi bod gyda Dŵr Cymru ers jyst llai na dwy flynedd erbyn hyn ar ôl ymuno o Dyson. Cyn hynny, roeddwn i'n Rheolwr Rhaglenni yn y Gwasanaeth Sifil yn gweithio ar fentrau blaenllaw oedd yn amrywio o ailddosbarthiad cyffuriau, treuliau AS, diwygio etholiadol a chyflwyno gwasanaethau digidol i'n system Llysoedd a Chyfiawnder. Rydw i wedi bod yn Gontractwr yn gweithio ym maes TG ar draws y Sectorau Preifat a Chyhoeddus hefyd. Dydw i ddim wir yn gwybod sut ffeindiais i fy hun yn y byd TG a dweud y gwir achos fe ddechreuais i fy mywyd gwaith fel Gwestywr!
Mae gan y tîm arwain uwch a fy nhîm fy hun synnwyr digrifwch gwych (fel arfer ar fy mhen i) sy'n rhan bwysig o fod yn aelod o dîm. Fel y gallwch ddychmygu, mae bod yn Sais yn ne Cymru'n gallu bod ychydig bach yn lletchwith yn ystod pencampwriaeth y Chwe Gwlad a Chwpan Rygbi'r Byd!