Rhoi sylw i Miriam Wasik-Evans, Peiriannydd Arweiniol


22 Rhagfyr 2021

Rydyn ni'n rhoi'r sbotolau ar yr unigolion sy'n gwneud ein timau ni'n arbennig ar draws Dŵr Cymru. Yr wythnos hon rydyn ni'n siarad â Miriam, sy'n gweithio gyda'n tîm gwasanaethau datblygu, i glywed rhagor amdani hi ac am rôl ei thîm.

Rwyt ti'n gweithio yn yr adran gwasanaethau datblygu. Beth mae dy dîm yn ei wneud?

Y ffordd symlaf o esbonio'r peth yw, os ydych chi'n adeiladu rhywbeth yn y gogledd (boed hynny'n ffordd fawr newydd, yn bloc o fflatiau neu'n ystâd o dai), bydd fy nim wrth law i helpu. Gyda thîm o ddau beiriannydd a thri rheolwr safle'n cwmpasu gogledd Cymru i gyd a rhannau o ogledd Lloegr, byddwn ni'n dylunio unrhyw brif bibellau newydd sydd eu hangen arnoch, yn eich helpu chi i wyro unrhyw brif bibellau cyfredol ar eich tir, ac os ydych chi'n cael trafferth draenio'ch safle i garthffos gyhoeddus oherwydd trydydd parti, gallwn ni gyflawni'r gwaith i chi ar gais.

Weithiau, mae lleoliad datblygiad yn golygu bod angen ategu'r rhwydwaith am nad oes digon o gapasiti gan ein rhwydwaith i wasanaethu rhagor o eiddo. Mae fy nhîm yn helpu i gyflawni hynny hefyd.

Beth sy'n digwydd mewn diwrnod cyffredin yn dy rôl?

Un o'r rhesymau pennaf pam rydw i'n hoffi fy ngwaith yw'r ffaith nad oes y fath beth â diwrnod cyffredin. Does dim wythnos gyffredin gen i chwaith! Gallwn i fod allan ar safle gyda chwsmer yn siarad am wyriad un diwrnod, a gallwn i fod mewn cyfarfod Microsoft Teams yn trafod cost cynllun drannoeth, ac weithiau rwy'n cael cymryd rhan mewn gwaith seilwaith pwysig sy'n digwydd yn fy milltir sgwâr, fel ffordd ddeuol, gorsaf bŵer neu gynllun atal llifogydd newydd.

Mae llawer o fy ngwaith i'n ymwneud ag adolygu'r cynlluniau mae'r peirianwyr yn fy nhîm yn gweithio arnynt, a sicrhau bod cynigion yn cael eu dosbarthu'n brydlon, eu bod nhw'n gywir, a bod cyllideb addas yn cael ei phennu ar eu cyfer. Rwy'n rheoli ein contractwyr, yn sicrhau eu bod nhw'n dilyn y rhaglen a'r gost, ac yn cydgysylltu â'r cwsmeriaid yn uniongyrchol. Rwy'n edrych hefyd ar gynlluniau newydd posibl ac yn gweithio allan pwy sydd angen bod yn rhan o'r gwaith, hyd a lled y dyluniad ac a oes angen cyflawni unrhyw waith mesur hyfywedd neu fodelu. Rhan fawr arall o fy rôl yw sicrhau ein bod ni'n cydweithio'n dda â thimau ac adrannau eraill yn Dŵr Cymru, boed hynny'n ystadau, masnachol neu weithrediadau.

O'r cynlluniau rwyt ti wedi gweithio arnynt, beth yw dy ffefryn?

Wrth edrych nôl dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, byddai'n rhaid i mi ddweud Ffordd Osgoi Caernarfon. Bu Graham Walker, un o'r peirianwyr yn fy nhîm yn gweithio gyda rheolwr ein safle, Richard Evans, i wyro nifer o'n hasedau dŵr yfed a charthffosiaeth, er mwyn gwireddu'r ffordd osgoi. Bu angen iddynt gydweithio'n agos â'n tîm gweithrediadau ni ein hunain, dylunwyr allanol a'n contractwyr, ac roedd hi'n hyfryd gweld y pŵer sy'n dod o gydweithio. Hwn oedd un o'r cynlluniau mwyaf diddorol i mi weithio arnynt oherwydd amrywiaeth yr atebion oedd eu hangen i reoli'r prosiect a disgwyliadau'r cleient, a'r effaith ar ein rhwydwaith a'n cwsmeriaid hefyd. Mae'r ffordd osgoi newydd yn mynd i ddod â chymaint o welliannau i'r gymuned leol, felly mae'n braf cael chwarae ein rhan yn hynny o beth.

Sut fu'r cyfnod clo i ti?

Pan oeddem ni'n cael mynd allan i ymarfer corff yn ystod y cyfnod clo, fe wnes i lawer o feicio mynydd yn fy ardal leol – roedd hynny'n ffordd wych o ymlacio. Wedyn yn yr haf, fe seiclais i a'r gŵr o un pen i Gymru i'r llall – o Ruthun i Fangor ac i lawr wedyn i Gaerdydd ar hyd llwybr beicio Route Las Cymru. Roedd hi'n braf gweld Cymru mewn ffordd mor hamddenol. Ond mae'n werth nodi, er i lawer o fy nghydweithwyr symud i weithio gartref yn ystod y cyfnod clo, oherwydd natur fy ngwaith fues i allan ar y safle yn cyfarfod â chwsmeriaid a'n contractwyr yn yr awyr agored trwy gydol y cyfnod, am na ddaeth y diwydiant adeiladu i stop, dim ond gorfod addasu sut roeddem ni'n cyflawni ein gwaith yn ddiogel.