Sylw i’n Pobl… Tammilli Wright-Ashworth

In the Spotlight Tammilli Wright AshworthIn the Spotlight… Tammilli Wright-Ashworth


8 Hydref 2021

Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn hynod o bwysig i ni yn Dŵr Cymru. Rydyn ni'n cymryd cynhwysiant o ddifri calon ac am i bob un person yn ein cwmni deimlo'n ddiogel a bod croeso iddynt yn y gwaith.

Mae amrywiaeth yn hanfodol i greu cwmni llwyddiannus a diwylliant byw. Dyna pam y byddwn ni'n rhoi sylw i rai o'n cydweithwyr BAME+ y mis yma i roi gwybod i chi am y gwaith hanfodol rydym yn ein cyflawni bob dydd er mwyn cadw eich dŵr yn llifo.

Yn gyntaf, dyma Tammilli!

““Fi yw Tammilli (i'w ynganu fel ‘family’, ond â T yn lle F) ac rydw i wedi bod yn gweithio dros Ddŵr Cymru ers 2011.

““Fe ddes i i Ddŵr Cymru o'r DWP, gan gychwyn fel Swyddog Datrys i Gwsmeriaid, rôl a fu’n addysg i mi ac yn dipyn o fedydd tân! Fe ddysgais i bethau'n gyflym am fod rhaid, ond fe wnes i ffrindiau bendigedig a pherthnasau gwaith parhaol ar draws y busnes.

““Cydlynydd Data GIS ydw i erbyn hyn, sy'n golygu fy mod i'n nodi llinellau'r carthffosydd sydd eu hangen ar y mapiau sy'n cael eu defnyddio gan y bobl sy'n cymryd galwadau, criwiau, technegwyr a pheirianwyr ar draws y busnes. Mae'r rhain yn hanfodol mewn argyfwng (fel llifogydd dŵr wyneb, neu lifogydd y tu fewn i adeiladau) y mae angen i ni, fel cwmni ddelio ag ef.

““Mae fy nhîm yn bwysig o fewn y busnes am y gallwn ddarparu cynlluniau ar gyfer gwaith brys a diweddaru datblygiadau adeiladu newydd am ein systemau. Rydyn ni'n cymryd rhan mewn digwyddiadau arian ac aur pan fo angen hefyd. Rydyn ni i gyd yn gweithio'n dda gyda'n gilydd, â phawb yn defnyddio'u cryfderau ac yn codi'r slac os oes unrhyw un yn mynd i drafferth gyda rhywbeth ac angen cymorth.

““Y peth gorau am fy swydd yw naill ai'r amrywiaeth o dasgau sy'n codi o ddydd i ddydd neu fod yn gallu cyflawni gwaith yn gyflym iawn os oes ar griw neu faes arall o'r busnes ei angen ar frys neu o fewn amserlen benodol, a'u synnu nhw gyda pha mor gyflym y gallwn gyflawni'r dasg iddyn nhw.

““Mae rhywbeth sy'n rhyfeddol o braf o allu e-bostio neu ffonio rhywun cyn bod yr amserlen wedi dod i ben a rhoi gwybod iddynt fod eu gwaith wedi cael ei gwblhau'n gynt na'r disgwyl.””