Rhoi'r sylw i Tom O'Shea, Arweinydd y Tîm Casgliadau Masnachol


24 Chwefror 2022

Rydym yn tynnu sylw at unigolion ar draws Dŵr Cymru sy'n gwneud ein timau'n arbennig. Yr wythnos hon rydym yn siarad â Tom, sy'n gweithio yn ein tîm casgliadau masnachol, i gael gwybod mwy am ei swydd ef a'i dîm.

Allwch chi egluro eich swydd i ni?

Rydw i wedi gweithio yn yr adran casgliadau ers 18 mlynedd – sy’n eithaf brawychus wrth gyfrifo’r blynyddoedd fel yna! Mae fy nhîm hefyd yn brofiadol iawn sy'n dda iawn i'w wybod. Fy swydd i yw rhoi strategaeth ar waith i sicrhau ein bod yn cyflwyno biliau o fewn ein hamserlenni y cytunwyd arnynt ac i sicrhau cymaint â phosibl o gasgliadau gan gwsmeriaid busnes – pan fo bil dros 30 diwrnod heibio’i ddyddiad dyledus, dyna pryd mae fy nhîm yn gweithredu ac yn cysylltu â'r cwsmer.

Yn union fel ni, mae cwsmeriaid busnes wedi wynebu heriau enfawr yn sgil y pandemig, ac mae effaith o hyd ar ddiwydiannau fel bwytai a thafarndai. Ein nod yw ymdrin yn gyflym â chwsmer sydd ag ôl-ddyledion a'i roi ar gynllun talu fforddiadwy i sicrhau nad yw'r sefyllfa'n gwaethygu nes bod bil mawr anfforddiadwy yn taro eu busnes.

Pam mae mor bwysig i ni fod cynifer o filiau â phosibl yn cael eu talu? Wel yn syml, po fwyaf o gwsmeriaid sy'n gallu talu'r bil ond ddim yn gwneud hynny, y mwyaf y mae'n rhaid i dalwyr biliau cyfrifol ei dalu!

Weithiau gall y rheswm nad yw'r bil wedi'i dalu fod mor syml â chyfeiriad heb ei ddiweddaru. Dim ond wrth i’n tîm ni ymyrryd y gallwn ddatrys y broblem.

Sut ydych chi'n gweithio gyda busnesau yn eich swydd?

Rydym yn siarad â busnesau drwy'r dydd bob dydd, o'r broses gychwynnol o anfon bil atynt, i weithio drwy ein biliau pan fo darlleniadau mesuryddion anarferol o uchel sy'n awgrymu y gallai fod gollyngiad.

Y ffordd rydym yn gweithio yw ein bod ni eisiau cysylltu â chwsmeriaid a chael sgwrs dda. Mae'n ymwneud â deall eu materion presennol, asesu’r sefyllfa a faint y gallant ei fforddio, ac yna rhoi cynllun talu cadarn ar waith sy'n gyraeddadwy.

Mae hefyd yn ymwneud ag addysgu ein cwsmeriaid; codi eu hymwybyddiaeth o'r opsiynau sydd ar gael iddynt a'r canlyniadau posibl. Er enghraifft, gall dŵr busnesau gael ei ddatgysylltu os nad ydynt yn talu eu biliau am gyfnod sylweddol, ac nid yw llawer o bobl yn ymwybodol o hynny.

Allwch chi roi enghraifft i ni o sut rydych chi wedi helpu cwsmer busnes yn ddiweddar?

Roedd gennym ni gwmni gweithgynhyrchu mawr yng ngorllewin Cymru a oedd â gollyngiad difrifol. Fe wnaethom weithio'n agos gyda thimau eraill ar draws Dŵr Cymru, gan gynnwys y Tîm Gwasanaethau Busnes a Gweithrediadau, i ddarganfod o ble'r oedd y gollyngiad yn dod a'i ddatrys. Oherwydd maint y gollyngiad, roedd gan y cwsmer fil dŵr mawr o tua £250,000.

Fe wnaethom weithio gyda'r timau eraill a'r cwmni gweithgynhyrchu i nodi'r ffordd orau o fynd ati a deall beth oedd yn realistig iddynt. Yr hyn a ddigwyddodd oedd bod y cwmni wedi colli contract mawr yn ddiweddar ac roedd bygythiad bach o gau gyda 400 o swyddi yn y fantol. Gan ei fod yn gyflogwr mawr yn yr ardal, roeddem yn gwybod y gallai gwthio'n galed am daliad arwain at golli swyddi. Yn y pen draw, os byddwn yn gorfodi'r bil ac mae’r cwmni'n mynd i'r wal yna ni chawn ddim!

Felly, cytunwyd ar ddileu swm sylweddol o'r ddyled yn gyfnewid am gynllun talu lle ymrwymodd y cwmni i dalu'r gweddill. Roedd yn un o nifer o ymdrechion tîm gwych gan Dŵr Cymru i gyrraedd ateb boddhaol iawn i bawb dan sylw.

Sut ydych chi wedi goroesi'r cyfyngiadau symud?

Mae gen i ddwy ferch ifanc, 6 a 9 oed. Yn ffodus, roedd fy ngwraig ar ffyrlo yn ystod y cyfyngiadau cyntaf a oedd yn fendith gan fy mod i’n gweithio gartref. Ein tacteg goroesi’r cyfyngiadau oedd manteisio i’r eithaf ar y penwythnosau.

Bob wythnos byddem yn cynllunio'r penwythnos nesaf o amgylch thema wahanol. Byddem yn cael diwrnod Sbaenaidd gyda bwyd, cerddoriaeth a gwisgoedd o Sbaen i gael ein plant i ddysgu am wahanol ddiwylliannau. Fore Sadwrn byddai ein bwyd yn cael ei ddosbarthu ac yn yr haf byddem yn yr ardd. Roedd yn llawer o hwyl ac mae’n rhywbeth rwy’n awyddus i’w wneud eto yr haf hwn.

Pan ddechreuodd y cyfyngiadau lacio, fe wnes i'r hyn roeddwn i wedi bygwth ei wneud ers blynyddoedd a phrynu bwrdd padlo i'w ddefnyddio ar ein traethau yng Nghymru. Er i mi syrthio oddi arno yn fwy na dim yn ystod y flwyddyn gyntaf, fe wnes i ei feistroli o'r diwedd yr haf diwethaf.