Ysbrydoli Cymunedau Gwydn
1 Mai 2024
Yn dilyn cyfnod o gymorth estynedig i’r gymuned gan gydweithwyr ar draws y cwmni, mae Siôn Griffiths, Rheolwr Addysg a Chymunedau Dŵr Cymru’n myfyrio ar effaith y Prosiect Cymunedau Gwydn yng Nghasnewydd, sydd â’r nod o roi cefnogaeth ddwys i gymunedau, y tu hwnt i waith ‘caib a rhaw’.
Sut mae dull gweithredu’r Prosiect Cymunedau Gwydn yn gwneud gwahaniaeth?
Mae ein Prosiect Cymunedau Gwydn yn gweithredu mewn ffordd integredig sydd wedi’i dargedu, ac sydd wir yn cynnwys y gymuned ar bob lefel. Nid gweithio dros y gymuned ydyn ni; ond gweithio gyda nhw. Rydyn ni wedi cyflawni cynllun sy’n cwmpasu ein gwerthoedd, gweithio gydag eraill, a deall sialensiau lleol. Mae hyn yn golygu cynnal amrywio o dargedu cymorth effeithlonrwydd dŵr i helpu gyda dyledion, darparu sesiynau addysg i gynorthwyo pobl sy’n chwilio am waith. Rydyn ni yn y gymuned yn ceisio gwneud gwahaniaeth go iawn o ran y pethau sydd bwysicaf i’r trigolion. Yn ogystal â helpu ein cwsmeriaid, mae’r dull yma o weithredu’n gwneud i’n tîm ein hunain deimlo eu bod nhw’n rhan o rywbeth mwy. Mater o wneud mwy gyda’n gilydd a gwneud newidiadau bach cadarnhaol a fydd yn effeithio ar genedlaethau’r dyfodol yw hi.
Dwed wrthym am effaith y prosiect
Sut mae’r prosiect yma’n cynorthwyo cwsmeriaid sydd mewn dyled, ond sy’n gyndyn i siarad am y peth?
I ni, roedd hyn yn golygu mynd â’n cynghorwyr dyledion allan o’r ganolfan gysylltu i’r ganolfan gymunedol, gan helpu i gynnig cymorth a meithrin ymddiriedaeth. Y canlyniad?
“Rwy’n nerfus iawn wrth siarad ar y ffôn. Fe ddes i i lawr yma heddiw, ac mae’r dyn wedi rhoi cymorth i mi. Cyhyd ag y byddaf i’n cadw i fyny â’r taliadau ar y tariff newydd, caiff y dyledion eu clirio.”
Sut mae’r prosiect yma’n helpu i ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol?
I ni, mae hyn yn golygu mynd â’n tîm addysg i mewn i ddosbarthiadau i ddarparu gweithdai pwrpasol, ymarferol ac addysgiadol. Y canlyniad?
“Gan ddefnyddio’r chwyddwydrau bach yna, fe edrychais i ar was y neidr - roedd ganddo gynffon hir a llygaid mawr!”
Sut ydych chi’n codi dyheadau pobl, ac yn helpu i daclo diweithdra?
I ni, mae hyn yn golygu gweithio gyda hyfforddwyr gwaith o’r canolfannau gwaith lleol, darparu gweithdai cyflogadwyedd sy’n arwain at gyfleoedd go iawn o fewn cwmni. Y canlyniad?
“Mae hi wedi rhoi llawer o gefndir i mi na fyddwn i wedi ei gael o’r blaen. Mae gen i fwy o wybodaeth i allu ymgeisio am swydd.”
Beth sy’n arbennig am y brosiect yma?
Y tu hwnt i’w ddull integredig sy’n seiliedig ar le, mae’r brosiect hon yn cydnabod bod troi cyfleoedd yn weithred yn golygu gweithio’n rhagweithiol gyda phobl eraill. Mae dros ugain o grwpiau a sefydliadau ynghlwm wrth y brosiect - o ganolfannau cymuned i gymdeithasau tai, o ganolfannau i’r digartref i ysgolion. Fe weithion ni mewn partneriaeth â’r fenter gymdeithasol Grow Social Capital hefyd i sefydlu dull o weithredu sy’n seiliedig ar werthoedd i lywio ein ffordd o feddwl ac o wneud pethau, ac fe weithion ni gyda Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru, a’n galluogodd i archwilio ffyrdd newydd o fynd gam ymhellach i’r dulliau traddodiadol o gysylltu. Roedd hyn wir yn golygu rhywbeth yng Nghanolfan Eden Gate yng Nghasnewydd lle’r oedd y ffocws yn fwy ar ‘wneud gyda’ ac yn llai ar ‘wneud dros’ bobl, wrth i ni weithio gyda’r ganolfan i benderfynu ar gynnwys eu rhaglen cymorth llythrennedd eu hunain.
Beth oedd y deilliannau?
Mae ein menter am wneud gwahaniaeth go iawn ac ystyrlon, ac am y ddysg y gallwn ei chymryd o hynny, ym mhopeth a wnawn.
Fodd bynnag, trefnodd ein timau cwsmeriaid bregus a dyledion sioeau pen ffordd gyda’r fan gymunedol, hwyluswyd cannoedd o adolygiadau o gyfrifon wyneb yn wyneb, estynnwyd allan at filoedd o gwsmeriaid, a chynorthwywyd nifer fawr o bobl oedd wedi ymddieithrio.
Dosbarthodd tîm Effeithlonrwydd Dŵr Cartref filoedd o ddyfeisiau arbed dŵr yn yr ardal, ac aethant i ymweld â channoedd o eiddo; a gweithiodd timau ein Rhwydwaith Dŵr yn rhagweithiol i ymyrryd a chlirio rhwystrau oedd yn atal llif ein carthffosydd.
Cynorthwyodd ein gwaith Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd bobl leol oedd yn chwilio am waith. Yn sgil digwyddiad cyn-sgrinio a gynhaliwyd yn y Ganolfan Byd Gwaith leol, aeth rhai o’r bobl a gymerodd ran ymlaen i ddiogelu cyflogaeth gyda’r cwmni. Yn y cyfamser, chwaraeodd bron i 5,000 o ddisgyblion ran yn ein gwaith addysg yn y gymuned mewn ysgolion ar draws ardal y prosiect.
Beth yw’r prif bethau a ddysgwyd trwy’r prosiect?
Mae gwaith arloesol, pwrpasol a rhagweithiol y prosiect yn fodel o bartneriaeth gorfforaethol gyfrifol y gall pobl eraill fanteisio arno.
I gael rhagor o fanylion am y deilliannau, astudiaethau achos a dysg o’r prosiect yma yng Nghasnewydd, ewch i yma.