Storm Darragh

Wedi’i ddiweddaru: 11:00 12 December 2024

Mae ein gwasanaethau yn parhau i gael eu heffeithio gan faterion cyflenwad pŵer a allai arwain at ymyrraeth i gyflenwadau dŵr neu bwysau isel i rai cwsmeriaid, yn bennaf mewn ardaloedd gwledig. Mae ein timau'n gweithio'n galed i gynnal cyflenwadau ac yn gweithio'n agos gyda'r holl asiantaethau eraill - gan gynnwys y cwmnïau ynni - i adfer yr holl gyflenwadau yn ddiogel ac mor gyflym â phosibl.

Ewch i Yn Eich Ardal am ragor o wybodaeth.

Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth


11 Chwefror 2022

Heddiw yw Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth y Cenhedloedd Unedig.

Yn Dŵr Cymru, mae gennym raglen helaeth i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf a thynnu sylw at y cyfleoedd sydd ar gael yn y diwydiant. Mae hyn yn cynnwys Tîm Addysg sy'n darparu profiadau dysgu cyd-destunol yn seiliedig ar y cwricwlwm ar gyfer degau o filoedd o ddisgyblion bob blwyddyn, a chriw ymroddgar o fodelau rôl sy'n awyddus i wirfoddoli eu hamser er mwyn rhannu eu profiadau â disgyblion hŷn wrth iddynt ddechrau ystyried eu llwybrau gyrfaol.

I nodi'r achlysur, mae rhai o'r gwirfoddolwyr hyn yn cymryd rhan mewn digwyddiad gyda Techniquest Caerdydd i arddangos a dathlu menywod a merched o gwmnïau o bob rhan o Gymru sy’n gweithio ym myd y gwyddorau.

Rhoddodd tri o'r cydweithwyr yma, Amy-Louise, Willow a Jennifer, gipolwg agored a phersonol ar eu teimladau a'u profiadau o gydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y byd STEM.

Beth yw eich rôl bresennol a beth mae hynny'n ei olygu?

Amy-Louise:

Fy rôl bresennol yw Arweinydd y Tîm Cemeg. Rwy'n rheoli gweithrediad pob dydd y labordy, lle rwy'n arwain tîm o 7 o gydweithwyr. Mae diwrnod cyffredin yn cynnwys cynllunio, rheoli dangosyddion perfformiad allweddol, ymchwilio i broblemau sy'n codi yn y labordy, darparu canlyniadau manwl a dibynadwy ar gyfer cwsmeriaid, a chynnal amgylchedd gwaith iach ar gyfer fy nghydweithwyr.

Willow:

Rheolwr Data a Dadansoddet ydw i. Fi sy’n rheoli'r Tîm Gwyddorau Data yn Dŵr Cymru. Mae data ym mhob man. Mae'r Tîm Gwyddorau Data'n cynorthwyo gweddill y busnes i droi data'n wybodaeth sy'n helpu i wneud penderfyniadau strategol gan ddefnyddio technegau dadansoddi.

Jennifer:

Rwy'n gweithio fel Arweinydd Tîm yn labordy gwasanaethau dadansoddeg Dŵr Cymru lle rwy'n arwain tîm o wyddonwyr sy'n gyfrifol am amddiffyn iechyd y cyhoedd a dadansoddi dŵr yfed o ran halogyddion microfiolegol. Mae fy rôl yn cynnwys rheoli sifftiau, rheoli y tȋm a dadansoddi samplau. Rwy'n chwarae rhan yn y gwaith o holi data a sicrhau cydymffurfiaeth â'r safonau gofynnol hefyd.

Beth oedd eich profiadau o ddysgu, datblygu a defnyddio'ch sgiliau gwyddoniaeth fel plant?

Amy-Louise:

Roeddwn i’n un da am wyddoniaeth fel plentyn, ond bod yn onest doedd dim diddordeb go iawn gen i nes i mi fod tua 19 oed. Daeth fy niddordeb mewn Tocsicoleg a gwyddorau Fforensig o'r teledu. Fy mhrif atgofion am wyddoniaeth fel plentyn oedd gwylio fy nhad yn gwneud fy mhrosiectau gwaith cartref a gwyddoniaeth i mi!

Willow:

Athrawon oedd fy rhieni, ond ddim yn y pynciau STEM! Ers pan oeddem ni'n ifanc iawn cawsom ni bob math o wahanol brofiadau wrth iddyn nhw fynd â ni i ddigwyddiadau ac amgueddfeydd, a threfnu gweithgareddau i ni gartref, llawer ohonynt yn seiliedig ar wyddoniaeth a mathemateg.

Jennifer:

Doeddwn i ddim yn gwybod beth oeddwn i eisiau ei wneud fel gyrfa pan oeddwn i yn yr ysgol, a dwi ddim yn cofio clywed am wahanol lwybrau gyrfaol. Ond wedyn dechreuodd y gyfres deledu 'CSI' a syrthiais i mewn cariad â gwyddoniaeth. Fe benderfynais i fy mod am fod yn Wyddonydd Fforensig ac fe gofrestrais i yn y coleg a dechrau Diploma Cenedlaethol BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol.

Beth ydych chi'n credu y gellid ei wneud er mwyn sicrhau gwell cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y byd STEM?

Amy-Louise:

Yn yr ysgol, lle mae dysgu rhai o'r pynciau STEM yn orfodol, gallai'r disgwyliadau gyrfaol "hen ffasiwn" sy'n cael eu gwthio ar y gymdeithas wneud i yrfaoedd yn y gwyddorau apelio'n fwy at fechgyn. Yn fy marn i mi, gellid annog mwy o ferched i ddilyn gyrfa mewn pynciau STEM trwy greu rhagor o rolau blaenllaw sy’n dangos menywod mewn gwyddoniaeth mewn rhaglenni teledu/ffilmiau a mwy o ddylanwadwyr yn y Cyfryngau Cymdeithasol, a sicrhau bod ysgolion wedi eu taclu'n well i greu cysylltiadau rhwng pynciau ac opsiynau gyrfaol. Pan oeddwn i yn yr ysgol ac yn dangos dawn mewn Gwyddoniaeth; doedd yna neb yno'n fy nghynghori am y swyddi a allai fod ar gael i mi yn y dyfodol. Roedd yna dipyn o ffocws ar beth y dylwn ei wneud yn y coleg a'r brifysgol, ond rwy'n credu bod ar lawer o bobl angen mwy o gymorth i weld y darlun ehangach.

Willow:

Gwell ymwybyddiaeth am yr amrywiaeth o swyddi STEM sy’n bodoli. Yn yr ysgol, rwy'n credu taw'r swyddi STEM roeddwn i'n fwyaf ymwybodol ohonynt oedd y rhai mwyaf gweledol, fel Meddyg, Milfeddyg, Peiriannydd a Deintydd. Roeddwn i'n llai ymwybodol o lawer o'r holl rolau STEM eraill oedd ar gael. Byddai rhagor o fodelau rôl benywaidd wedi helpu hefyd. Yn yr ysgol, ychydig iawn o fodelau rôl o’r byd STEM oedd yna i fi – roedd y rhan fwyaf o'r modelau rôl oedd gen i'r tu hwnt i amgylchedd yr ysgol.

Jennifer:

Pan oeddwn i yn y coleg yn astudio'r Gwyddorau Cymhwysol yn 2006-2008, roedd yna gymysgedd o fyfyrwyr gwrywaidd a benywaidd. Ond wrth edrych nôl, dynion oedd fy holl athrawon yn y pynciau STEM. Rwy'n credu bod dangos gwahanol swyddi, fel rydyn ni'n ei wneud gyda Techniquest heddiw - ac fel rydyn ni’n ei wneud trwy ddulliau eraill yn ystod y flwyddyn - yn syniad gwych i roi cipolwg i blant ysgol ar y gwahanol yrfaoedd. Byddai hi wedi bod yn dda i mi petai rywbeth fel hyn ar gael pan oeddwn i yn yr ysgol am y gallen i fod wedi dewis gwyddoniaeth yn gynt.

Pwy oedd eich modelau rôl wrth dyfu i fyny?

Amy-Louise:

Dad oedd fy model rôl. Roedd e'n beiriannydd yn y Llynges Frenhinol a chafodd ddylanwad mawr ar fy mywyd a'm dysg. Sbardunodd hyn ddiddordeb mewn swyddi mwy ymarferol ynof fi, yn hytrach na gyrfaoedd oedd yn fwy nodweddiadol o 'fenywaidd'. Roedd gen i ddiddordeb mewn adeiladu a datgymalu pethau ac algebra – oedd oll yn bethau a fuodd o gymorth i mi ar ddechrau fy ngyrfa wyddonol.

Willow:

Fy athrawes mathemateg yn yr ysgol Uwchradd. Roeddwn i wastad wedi dwlu ar fathemateg, ond roedd yna un athrawes a roddodd gymorth i mi ddatblygu ymhellach. Roedd hi'n arfer cynnal dosbarthiadau gwyliau, y byddwn i'n mynd iddynt bob tro, fel y gallem ni ddysgu a datblygu ymhellach. Roedd hi wastad yn fy nghefnogi ac yn credu ynof i – hyd yn oed pan nad oeddwn i'n credu ynof fi fy hun. Dwi'n dal i gadw mewn cysylltiad â hi heddiw.

Fe ddechreuais i wirfoddoli mewn milfeddygfa leol pan oeddwn i'n 14 oed hefyd – a bydden i'n rhoi cynnig ar bopeth; gan gynnwys ymgynghoriadau, llawfeddygaeth ac ymweliadau â ffermydd. Hyd yn oed pan oeddwn i yn y coleg, bydden i'n cael galwad gan y filfeddygfa i roi gwybod i mi fod achos diddorol wedi codi, fel y gallwn i alw i mewn os oeddwn i'n rhydd. Cefais amser wrth fy modd yno, a'r milfeddyg ei hun sbardunodd fy niddordeb mewn parasitoleg. Mae hyn yn faes y daliais i ati i'w astudio trwy'r brifysgol ac ymlaen i lefel PhD. Roedd e'n rhywun a wnaeth ddal fy nychymyg a gwneud i mi fod eisiau parhau i ymchwilio a gofyn "pam". Fe fowldiodd fy niddordebau at y dyfodol a dweud y gwir.

Jennifer:

Mam oedd fy esiampl i, ac mae'n dal i fod heddiw. Magodd hi fi a fy mrodyr a chwiorydd wrth gynnal nifer o swyddi – ac mae'n dal i weithio fel Goruchwylydd Croesfan heddiw. Mae hi'n ffyrnig o annibynnol ac yn gweithio mor galed – ond mae ganddi amser i'w theulu bob amser. Mae hi wedi fy nghefnogi ar bob cam o’r ffordd, a helpodd fi i ddod o hyd i fy swydd gyntaf mewn gwyddoniaeth hyd yn oed.

Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i berson ifanc sydd am ddilyn gyrfa ym maes gwyddoniaeth?

Amy-Louise:

Meddyliwch am y tymor hir. Peidiwch â meddwl am fod y gorau yn eich dosbarth mewn pwnc rydych chi'n dda am ei wneud ond nad oes gennych ddiddordeb ei wneud yn y dyfodol. Ystyriwch rolau ymlaen llaw, mowldiwch eich addysg o gwmpas eich angerdd – ac nid eich cryfderau o reidrwydd. Bydd eich gyrfa'n para am ddegawdau ac mae angen i chi fod yn wirioneddol hapus.

Willow:

Dyw pethau ddim yn rhwydd bob tro, ond breuddwydiwch yn fawr, gweithiwch yn galed, mwyhewch fywyd – ac fe ddewch chi i ben – hyd yn oed os nad dyna 'pen y daith' roeddech chi wedi ei gynllunio. Gallwch chi lwyddo – a bydd pob dydd yn mynd â chi gam yn agosach at eich nod.

Jennifer:

Ewch ar ôl eich breuddwydion, gweithiwch yn galed, byddwch yn amyneddgar a daliwch ati. Bydd yna rwystrau ar hyd y ffordd, ond bydd y sialensiau hyn yn eich gwneud chi’n gryfach yn y pendraw.