Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
8 Mawrth 2021
Ar 8 Mawrth, rydyn ni'n dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2021 ynghyd â gweddill y byd. Y thema eleni yw 'Menywod fel arweinwyr: sicrhau dyfodol cyfartal mewn byd o COVID-19.’
I nodi'r achlysur, fe siaradon ni ag Imogen Brown, Pennaeth Dosbarthu Gwasanaethau Dŵr. Mae Imogen wedi gweithio'i ffordd i fyny yn Dŵr Cymru, ac erbyn hyn mae'n rheoli adran â dros 300 o staff. Fe siaradon ni â hi am sut gyrhaeddodd hi'r pwynt yma, sut mae Covid-19 wedi effeithio ar fenywod sy'n gweithio, a'i gobeithion ar gyfer dyfodol y diwydiant dŵr.
Rwyt ti wedi gweithio dy ffordd i fyny i swydd uwch mewn sector sydd wedi cael ei ddominyddu gan ddynion yn draddodiadol. Beth wyt ti'n meddwl sydd y tu ôl i dy lwyddiant?
Rwy'n credu taw'r peth pwysicaf yw gwneud swydd rwyt ti'n ei charu – os oes diddordeb gwirioneddol gen ti yn dy waith, ac yn bwysicach na dim, y bobl rwyt ti'n gweithio gyda nhw, rwyt ti’n sicr o ragori. Syrfëwr meintiau oeddwn i yn fy ngyrfa flaenorol – mae gen i obsesiwn gydag adeiladu ac eiddo erioed – ac mae gyrfa ym maes y cyfleustodau, yn enwedig ym maes gweithrediadau dŵr lle nad oes dau ddiwrnod byth yr un fath, yn cadw pethau'n ddiddorol!!
Rwy’n teimlo’n ffodus i fod wedi cael y cyfle i weithio dros Ddŵr Cymru dros y naw mlynedd diwethaf – mae'r sefydliad wedi rhoi'r cyfleoedd datblygu gorau y gallwn fod wedi gofyn amdanynt, ac mae yna bobl wych yn y busnes sydd wedi gosod esiampl i mi ac wedi fy ysbrydoli. Dyma fy mhedwaredd rôl ers i mi ymuno â'r busnes fel Rheolwr Prosiect yn y tîm Cyflawni Cyfalaf, ac mae cadw pethau'n ffres wedi fy ysbrydoli i herio fy hun i weld beth y gallaf ei gyflawni.
Pa gyngor fyddet ti'n ei roi i fenyw sydd ar gychwyn ei gyrfa nawr, neu sy'n dychwelyd i'r gwaith ar ôl seibiant gyrfa efallai?
Bydd yn hyderus. Mae hyn yn rhywbeth sydd wedi bod yn frwydr i mi, ac rwy'n gwybod ei bod hi'n rhywbeth sydd wedi fy nal yn ôl yn fy ngyrfa ar adegau. Mae'n gallu bod yn anodd rhoi cynnig ar rywbeth newydd neu ddychwelyd yn dilyn cyfnod i ffwrdd o'r gweithle – ond os wyt ti’n dangos ffydd ynot ti dy un, bydd gan eraill ffydd ynot ti hefyd. Mae’n bwysig dod i nabod y bobl sy'n gweithio gyda ti – gan ymgynefino â'r busnes, dy rôl ac unrhyw gyfleoedd datblygu y gelli fachu arnynt ar hyd y ffordd. Rwyt ti'n treulio rhan helaeth o'r wythnos yn y gwaith, felly gwna'r mwyaf ohono a'i fwynhau!
Beth fyddet ti'n ei ddweud wrth bobl sy'n meddwl nad yw sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y gweithle'n flaenoriaeth ar hyn o bryd?
I mi, y ffordd o fynd ati i fod y gorau gallwch fod fel sefydliad yw trwy gynrychioli'ch sylfaen o gwsmeriaid a'r gymdeithas ar led. Mae hi'n bwysig iawn fod gan bawb hawliau, cyfrifoldebau a chyfleoedd cyfartal – does yna ddim lle ar gyfer unrhyw fath o wahaniaethu.
Mae llwyth o waith ymchwil sy'n awgrymu bod amryw o fentrau (fel adrodd ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, absenoldebau â thâl i rieni, cwotas ac esiamplau o fenywod mewn swyddi uwch) yn helpu menywod i gael swyddi uwch mewn sefydliadau. Beth fyddet ti'n hoffi gweld mwy ohono mewn gweithleoedd?
Hoffwn i weld parhad o'r hyn rydyn ni wedi ei weld yn ystod Covid-19, lle mae’r gymdeithas ar led yn sylweddoli bod gweithwyr yn rhieni ac yn ofalwyr hefyd – a bod angen gweithio'n hyblyg weithiau fel y gall pobl gyflawni eu holl gyfrifoldebau. Mae hi'n sicr yn teimlo fel bod mwy o ddealltwriaeth am yr holl beth ar hyn o bryd.
Fel rhiant a ddaeth nôl i'r gwaith pan oedd fy mhlant yn 6 mis oed, roedd yna deimlad o euogrwydd o hyd – bod yn y gwaith pan ddylwn i fod wedi bod gartref gyda fy mhlant, neu am orfod cymryd amser o'r gwaith i fod gyda'r plant pan oedden nhw'n sâl. Rwy'n credu bod pobl yn fwy tebygol o dderbyn bod modd gwneud y ddau beth y dyddiau hyn, ac os gallwn ni gynnal y ddealltwriaeth yna rwy'n credu y bydd hyn wir yn helpu i ddenu menywod i rolau uwch.
Mae llawer o adroddiadau wedi bod sy'n dweud fod Covid-19 wedi taro menywod sy'n gweithio yn arbennig o galed, gyda menywod hŷn yn benodol yn fwy tebygol o golli eu swyddi, a gyda llawer o fenywod yn ysgwyddo'r rhan fwyaf o'r cyfrifoldebau gofal plant neu'r cyfrifoldebau gofalu eraill. Pa gyngor fyddet ti'n ei roi i fenywod yn y sefyllfa hon, a sut gall sefydliadau helpu i gynorthwyo eu gweithwyr benywaidd yn ystod y cyfnod hwn?
Rwy'n credu bod Covid-19 wedi taro pawb, ac mae llawer o bobl yn teimlo'r straen ynghylch addysgu yn y cartref a gofalu am berthnasau, ac yn arbennig dros fisoedd y gaeaf â’r sefyllfa’n teimlo’n ddiddiwedd. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi cael adegau pan fo pethau'n ein llethu ni, ond yn wahanol i lawer o sefydliadau eraill, rydyn ni wedi bod yn ffodus nad ydym wedi gorfod wynebu diswyddiadau yma.
Ar lefel bersonol, fy nghyngor i fyddai siarad â’ch teulu, rhannu'r tasgau (os oes rhywun i'w rhannu â nhw!), a pheidio ag ofni gadael i bobl wybod pan fo pethau'n mynd yn ormod – ceisiwch gymryd seibiant, hyd yn oed am ychydig oriau, i gael eich gwynt atoch. O safbwynt y gweithle, rwy'n credu taw dyna'r union beth y mae Dŵr Cymru wedi ei wneud – bod yn hyblyg ac yn gefnogol i'w holl weithwyr, deall fod sefyllfa pawb yn wahanol, a rhoi eu ffydd yn eu cydweithwyr i wneud y peth iawn o ran gweithio o bell.
Sut wyt ti'n credu y byddwn ni'n gwybod bod menywod wedi cyflawni cydraddoldeb yn y gweithle?
Rwy'n credu y byddwn wedi cyflawni cydraddoldeb pan fo pawb yn y swydd y maent am ei chael, ac nad yw pobl yn 'synnu' pwy sy'n cyflawni'r rôl.
Er ein bod ni wedi cymryd camau breision dros y degawdau diwethaf, mae menywod yn dal i gael eu tangynrychioli yn y sector dŵr, ac yn arbennig mewn swyddi uwch. Sut olwg wyt ti'n meddwl fydd ar y diwydiant dŵr ymhen 30 mlynedd?
Yn ystod y 9 mlynedd ers i mi fod yn Dŵr Cymru, rydw wedi gweld nifer fawr o fenywod yn ymuno â'r busnes ac yn gwneud yn arbennig o dda. Fel y dywedais i gynnau, mae yna esiamplau bendigedig o fenywod yn y Tîm Gweithredol, sy'n beth hyfryd i'w weld. Rydw i wedi meddwl am hyn o'r blaen, ac yn pendroni weithiau ai mater o ddiffyg diddordeb mewn rolau yn y sector dŵr gan fenywod yw hi yn hytrach na diffyg cyfleoedd. Dydw i ddim yn credu fod pobl sydd heb weithio yn y diwydiant dŵr yn gweld pa mor werth chweil a chyffrous y gall y swyddi hyn fod – efallai dim ond mater o'i werthu'n well i ddenu rhagor o fenywod gwych yw hi. Ymhen 30 mlynedd, byddai'n anhygoel gweld gweithle mwy amrywiol yn gyffredinol, sydd wir yn cynrychioli'r boblogaeth y mae'n ei gwasanaethu.
I gael rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2021, chwiliwch dan yr hashnod #IWD2021 ar Twitter. Os oes diddordeb gennych ymuno â #TîmDŵrCymru, ewch i'n porth gyrfaoedd